Ar 3 Mai, cynhaliwyd dadl ar hawliau dynol yn y Senedd. Fe wnaeth y ddadl dynnu sylw at bryderon ynghylch cyfeiriad Llywodraeth y DU ar y mater, gyda rhai Aelodau’n dadlau y gallai hyn arwain at erydu hawliau pobl sy’n byw yng Nghymru.
Mae’r erthygl hon yn nodi cynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r ymatebion i’r cynlluniau hynny. Mae’n crynhoi’r materion allweddol o’r ddadl yn y Senedd ac yn ystyried yr effaith y mae rhai rhanddeiliaid ac Aelodau o’r Senedd yn dweud y gallai’r cynlluniau hyn ei chael ar uchelgais Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol.
Diddymu y Ddeddf Hawliau Dynol
Ym mis Rhagfyr 2020, sefydlwyd adolygiad annibynnol o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i edrych ar ddwy thema allweddol, sy’n cynnwys:
- y berthynas rhwng llysoedd domestig yn y DU a Llys Hawliau Dynol Ewrop; ac
- effaith Deddf Hawliau Dynol 1998 ar y berthynas rhwng y Farnwriaeth, y Llywodraeth, a Senedd y DU.
Cyflwynodd 170 o sefydliadau ac unigolion dystiolaeth fanwl i'r adolygiad., gyda’i adroddiad yn cydnabod bod mwyafrif y cyflwyniadau wedi mynegi cefnogaeth gref i Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Yn gyffredinol, daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y Ddeddf Hawliau Dynol "wedi bod yn llwyddiant, ac nid yw'n eiriol dros newid radical".
Er gwaethaf y canfyddiadau hyn, ym mis Rhagfyr 2021, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar gynigion i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 gyda Bil Hawliau. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Ebrill 2022 ac mae Llywodraeth y DU wrthi’n dadansoddi’r ymatebion i’r cynigion allweddol o ran:
- cryfhau rôl Goruchaf Lys y DU;
- diogelu hawliau sylfaenol;
- atal ehangu hawliau yn gynyddrannol;
- cyflwyno cyfrifoldebau yn y fframwaith hawliau dynol; a
- hwyluso deialog gyda Strasbwrg (cartref y Llys Hawliau Dynol), tra’n gwarantu rolau priodol i Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig.
Mae sefydliadau ymgyrchu wedi mynegi pryderon am y cynigion.
Fe wnaeth Liberty ddisgrifio’r cynlluniau fel “a blatant, unashamed power grab”. Mae Amnest yn credu bod unrhyw newid sylweddol i’r Ddeddf Hawliau Dynol hefyd yn debygol roi mwy o straen ar setliad datganoli’r DU.
Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwrthwynebu’r cynigion oherwydd eu bod yn “ymgais i leihau hawliau pobl Cymru a’r DU”.
Y ddadl yn y Senedd
Fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS, agor y ddadl drwy ddatgan cefnogaeth i’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei ffurf bresennol, gan ei disgrifio fel rhan “hanfodol” o ddemocratiaeth Cymru a datgan:
Rhaid i ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio yn y Senedd hon fod yn gydnaws â'r Ddeddf… Mae cynigion Llywodraeth y DU bron yn gyfan gwbl yn anwybyddu'r effaith bosibl ar ein fframwaith cyfansoddiadol, cyfreithiol a pholisi datganoledig.
Yn ei rôl fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hawliau dynol, dywedodd Sioned Williams AS fod y grŵp wedi dod i gonsensws bod diwygiadau yn “ddiangen” ac:
yn debygol o arwain at atchweliad o ran diogelu a chyflawni hawliau dynol yng Nghymru, a gyda photensial i lesteirio cynnydd o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.
Ymatebodd yr Aelod Ceidwadol Altaf Hussain AS i’r ddadl gan bwysleisio:
byddai unrhyw Lywodraeth, wrth ddeddfu i ddiogelu hawliau dynol, yn adolygu effeithiolrwydd y fframwaith deddfwriaethol presennol i sicrhau ei fod yn gweithio ac yn addas i'r diben
Ar ddechrau’r ddadl, tynnodd Lesley Griffiths AS sylw at ddau ddarn allweddol o ddeddfwriaeth y DU fel enghreifftiau o atchweliad o ran hawliau dynol gan Lywodraeth y DU, sef:
- Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd – gyda phryderon bod hyn yn tanseilio hawliau cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu’r hawl i brotestiadau cyfreithlon a heddychlon; a’r
- Bil Cenedligrwydd a Ffiniau – gyda phryderon bod hyn yn tanseilio’n ddifrifol y gwaith o amddiffyn hawliau dynol, ac y bydd yn arwain at achosion difrifol o dorri hawliau dynol.
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022
Amcan y Ddeddf hon yw gwneud y wlad yn fwy diogel drwy rymuso’r heddlu a’r llysoedd i gymryd camau mwy effeithiol yn erbyn troseddu ac arwain at system gyfiawnder deg drwy gyflwyno dedfrydu llymach i’r troseddwyr mwyaf difrifol a rhoi diwedd ar ryddhau awtomatig o’r carchar am y troseddau mwyaf difrifol.
Wrth adolygu’r Bil, roedd Llywodraeth Cymru yn gefnogol o lawer o elfennau, ond mae’n arbennig o bryderus am ddarpariaethau sy’n effeithio ar yr hawl i brotestiadau cyfreithlon a heddychlon “[a allai] ei gwneud yn anodd i leisiau pobl gael eu clywed”.
Dadleuwyd y byddai cynigion ar reoli gwersylloedd diawdurdod yn “[t]anseilio hawliau Sipsiwn a Theithwyr ac o bosibl [yn] troseddoli teuluoedd yn annheg” sy’n groes i’r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft.
Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022
Mae gan y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau dair amcan allweddol, sef:
- Cynyddu tegwch y system i ddiogelu a chefnogi'n well y rhai y mae arnynt angen lloches;
- Atal pobl rhag dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon, gan dorri model busnes rhwydweithiau smyglo pobl ac amddiffyn bywydau'r rhai y maent yn eu peryglu;
- Symud yn haws y rhai sydd heb hawl i fod yn y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei phryderon am y Ddeddf, gan ofni y bydd yn "tanseilio’n ddifrifol" ei gweledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa. Mewn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021, dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, "ni allaf argymell bod y Senedd yn cydsynio’ â’r Bil".
Dywedodd Huw Irranca-Davies AS fod Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid ei hun wedi dweud bod y Ddeddf hon yn tanseilio’r confensiwn ffoaduriaid. Dywedodd Joyce Watson AS fod y Ddeddf yn bygwth y polisi 'Cenedl Noddfa' sydd ar waith yng Nghymru.
Mewn ymateb i’r ddadl, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y byddai’r Ddeddf:
yn tanseilio'n ddifrifol y gwaith o ddiogelu hawliau dynol pobl sy'n cael eu masnachu, gan gynnwys plant, yn cynyddu'r risgiau o gam-fanteisio a wynebir gan bob mudwr a cheisiwr lloches, ac yn arwain at dorri hawliau dynol yn ddifrifol.
Dyfodol hawliau dynol yng Nghymru?
Gyda’i gilydd, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod ymagwedd Llywodraeth y DU yn “rhoi arwydd i'r byd bod y DU yn atchwelyd o ran hawliau dynol”.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb eto i'r adroddiad y comisiynodd y llynedd ar gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru. Ond dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd gwaith paratoi yn cael ei wneud i ystyried opsiynau ar gyfer ymgorffori confensiynau’r Cenhedloedd Unedig ymhellach yng nghyfraith Cymru yn unol ag ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a'r argymhellion yn yr adroddiad. Dywedodd y Gweinidog fel a ganlyn:
Diben Bil o'r fath fyddai cryfhau hawliau dynol holl ddinasyddion Cymru a lliniaru, cyn belled ag y bo modd, effeithiau negyddol camau gweithredu gan Lywodraeth y DU.
Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd TV.
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru