Ymfudwyr yn cerdded tuag at y ffin

Ymfudwyr yn cerdded tuag at y ffin

System fewnfudo newidiol Cymru a’r DU

Cyhoeddwyd 20/12/2021   |   Amser darllen munudau

Pasiodd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU ei drydydd darlleniad, sef yr un terfynol yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'r Bil yn rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer system fewnfudo newydd. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu i'r Bil atal dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon a newid y ffordd y caiff ceisiadau lloches eu prosesu. Mae wedi denu llawer o sylw, yn enwedig gan y rhai sy'n pryderu y byddai'n torri cyfraith hawliau dynol.

Mae mewnfudo a lloches yn faterion a gedwir yn ôl, sy'n golygu mai ychydig iawn y gall llywodraethau datganoledig ei wneud i herio agweddau ar y Bil. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cymru yn â rhan bwysig wrth gyflawni polisi mewnfudo, yn enwedig i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Mae'r erthygl hon yn esbonio system fewnfudo newidiol y DU a ffocws Llywodraeth Cymru ar fesurau i helpu pobl i integreiddio â bywyd Cymru..

System fewnfudo newidiol

Pan adawodd y DU yr UE, mae'r symudiad rhydd pobl yn yr UE (yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy) i ben. Dywedodd llawer o sylwebyddion, gan gynnwys Migration Policy Institute mai dyma'r newid mwyaf i system fewnfudo'r DU ers Deddf Cenedligrwydd 1981.

Roedd gan ddinasyddion Ewropeaidd a oedd yn byw yn y DU cyn diwedd 2020 tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw a gweithio yma. Mae ein herthygl ddiweddaraf yn dangos y rhoddwyd caniatâd i fwy na 86,000 o ddinasyddion aros yng Nghymru erbyn y dyddiad cau. Mae'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar agor o hyd ar gyfer ceisiadau hwyr.

Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd y Swyddfa Gartref system fewnfudo newydd sy'n seiliedig ar bwyntiau sy'n nodi'r gofynion i unrhyw un sy'n dod i'r DU i weithio. Nid yw system y DU yn gwahaniaethu mwyach rhwng dinasyddion yr UE a dinasyddion y tu allan i'r UE.

Er mwyn bod yn gymwys i gael fisa, mae angen 70 o bwyntiau ar ymgeiswyr. Mae'n rhaid iddynt fodloni'r meini prawf a ganlyn:

  • mae ganddynt gynnig swydd gan noddwr trwyddedig y Swyddfa Gartref;
  • mae'r cynnig swydd ar y lefel sgiliau ofynnol – RQF 3 neu uwch (Safon Uwch a chymhwystrer cyfatebol);
  • maent yn siarad Saesneg i'r safon ofynnol.

Datblygu dull gweithredu unigryw Cymru o ran mewnfudo

Er nad yw polisi mewnfudo wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus â rhan bwysig wrth ei gyflawni, yn enwedig i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Cenedl Noddfa

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai 'Cenedl Noddfa' gyntaf y byd. Cymeradwywyd ei chynllun gan y Cenhedloedd Unedig ac mae’n datgan y 'dylai integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddechrau ar y diwrnod cyntaf y maent yn cyrraedd yma'. Nod y cynllun yw sicrhau bod cymorth ar gael i geiswyr lloches a'r rhai sy'n cyrraedd dan gynlluniau ailbreswylio mewn meysydd datganoledig, megis iechyd ac addysg. Ers mis Awst 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi cael rhan wrth gefnogi ffoaduriaid o Syria ac Affganistan, fel rhan o ymateb y DU.

Er gwaethaf y cyfraniad i ymateb ar draws y DU, mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran mewnfudo, a'r cymorth a gynigir i ymfudwyr, wedi bod yn groes i Lywodraeth y DU weithiau. Yn 2020, galwodd Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i ddefnyddio hen faracs y fyddin ym Mhenalun i letya ceiswyr lloches, penderfyniad a gafodd ei wrthdroi'n ddiweddarach gan y Swyddfa Gartref. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ei gweithredoedd yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches neu rwymedigaethau rhyngwladol y DU.

Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y DU yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi yn fuan.

Mae'r Bil yn ymdrin ag ystod eang o faterion sy'n cynnwys:

  • Cenedligrwydd (Rhan 1);
  • Trin ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Rhan 2);
  • Gorfodi cyfraith mewnfudo (Rhan 3);
  • Caethwasiaeth fodern (Rhan 4);
  • Darpariaethau amrywiol (Rhan 5) megis asesiadau oedran ar gyfer plant.

Mae gan y Bil dri amcan:

  • Cynyddu tegwch y system i ddiogelu a chefnogi'n well y rhai y mae arnynt angen lloches;
  • Atal pobl rhag dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon, gan dorri model busnes rhwydweithiau smyglo pobl ac amddiffyn bywydau'r rhai y maent yn eu peryglu;
  • Symud yn haws y rhai sydd heb hawl i fod yn y DU.

Mae'r Bil wedi denu llawer o feirniadaeth. Mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) yn rhybuddio bod y Bil yn tanseilio Confensiwn Ffoaduriaid 1951, y cytundeb sydd wedi amddiffyn ffoaduriaid ers degawdau ac y mae'r DU wedi’i lofnodi. Yn ôl barn gyfreithiol y Cenhedloedd Unedig am y Bil:

‘[it] is fundamentally at odds with the Refugee Convention and with the UK’s long-standing role as a global champion for the refugee cause’

Un o'r prif bryderon yw mai nod y Bil yw creu system ddwy haen, lle y gallai hawliau ceisio lloches y rhai na ddaethant i'r DU drwy lwybr cytunedig (e.e. rhaglen ailbreswylio) gael eu cwtogi. Efallai na chânt fynediad i aduniad teuluol a gellid ystyried bod ceisiadau'n annerbyniadwy os oes gan y person gysylltiadau â gwlad y mae’r DU o’r farn ei bod yn ddiogel.

Barn Llywodraeth Cymru a chydsyniad y Senedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei phryderon am y Bil. Mae Gweinidogion Cymru yn ofni y bydd y Bil yn 'llwyr danseilio' ei gweledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa.

Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth mewn meysydd a gedwir yn ôl a rhai datganoledig, felly ceisir cydsyniad y Senedd. Os caiff ei basio, bydd y Bil yn effeithio ar weithrediad cyfrifoldebau datganoledig.

Ar 6 Rhagfyr, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Dywed Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, na all ‘argymell bod y Senedd yn cydsynio’ i'r Bil.

Mae'r mater allweddol yn ymwneud â'r broses asesu oedran.

Ar hyn o bryd, cynhelir asesiadau oedran plant ceiswyr lloches yn ddigwmni yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw'n ymddangos bod y bwriad i sefydlu Bwrdd Asesu Oedran Cenedlaethol wedi ystyried 'datganoli swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn llwyr i Gymru'.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd bellach yn trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ac yn cyflwyno adroddiad arno erbyn 10 Chwefror 2022.

Gallwch ddarllen mwy am broses y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ein hysbysiadau hwylus newydd i gyfansoddiad Cymru ac yn ein herthygl ddiweddar.


Erthygl gan Claire Thomas a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru