A oes unrhyw un yn gwrando? Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid

Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae gan o leiaf 60 y cant o bobl ifanc sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid angen lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Yn ddiweddar, cafodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ei ganmol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith am daflu goleuni ar y “pwnc hwn sy’n cael ei anwybyddu’n aml”. Yn ei adroddiad, tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith y gallai gwella mynediad at gymorth therapi lleferydd ac iaith helpu i atal pobl ifanc rhag mynd i drafferthion gyda'r gyfraith.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y problemau sy'n wynebu'r grŵp hwn o bobl ifanc – a all brofi oedi o ran sgiliau iaith, atal dweud, dyslecsia, byddardod a rhwystrau sy’n gysylltiedig â niwrowahaniaeth. Fodd bynnag, mae'n gwrthod dau o argymhellion y Pwyllgor, sef y rhai y mae'r Coleg Brenhinol yn dweud y byddent yn caniatáu i bobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu gael mynediad at gymorth therapi lleferydd ac iaith sydd ei angen arnynt yn fawr.

Mae'r erthygl hon yn ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin 2023.

Pam mae cyfathrebu yn bwysig ym maes cyfiawnder ieuenctid

Nod adroddiad y Pwyllgor yw rhoi llais i bobl ifanc a gynrychiolir yn anghymesur yn y system cyfiawnder ieuenctid - y rhai sydd ag angen lleferydd, iaith, neu gyfathrebu.

Mae sylfaen dystiolaeth cyfiawnder y Coleg Brenhinol yn rhoi ffigur o 60 y cant. Adroddodd data lleol a ddarparwyd i'r Pwyllgor gan Dîm Troseddau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot ffigur uwch hyd yn oed. Yn 2022, dywedodd fod gan 79 y cant o'r bobl ifanc a ddaeth i gysylltiad â'r gwasanaeth ryw lefel o angen lleferydd, iaith neu gyfathrebu.

Mae hyn yn bwysig oherwydd nid yw’n hawdd llywio’r system gyfiawnder – mae’n rhaid dibynnu ar allu person i wrando, deall a chyfleu meddyliau a phrofiadau mewn geiriau.

Mae'r heddlu'n dod i gysylltiad yn rheolaidd â phobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu. Os na all swyddogion heddlu nodi neu gefnogi'r anghenion hyn, gall hynny gael effaith niweidiol.

Gall arwain at amheuaeth neu ddrwgdybiaeth. Yn ystod cyfweliadau â’r heddlu, gall naratif di-drefn gael ei gamddeall fel amharodrwydd i gydweithredu. Yn y llys, gall ymagwedd ac ymddygiad person ifanc gael eu camddeall fel diflastod, haerllugrwydd, neu ddiffyg cydweithredu.

Mae anawsterau o ran gallu person ifanc i ddeall cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig gan weithwyr cyfiawnder proffesiynol hefyd yn peri risg o ran ei gydymffurfiad â gorchmynion a chyfarwyddiadau’r llys.

Gwneud gwahaniaeth - straeon pobl ifanc

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan bobl ifanc sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y gall y cymorth cywir ei chael ar fywydau pobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Drwy weithio gyda therapydd iaith a lleferydd, roedd un person ifanc a oedd wedi ymddieithrio o'r ysgol (ac a oedd yn hysbys i wasanaethau troseddau ieuenctid am ddifrod troseddol a gwir niwed corfforol) wedi cael ei ailintegreiddio’n llwyddiannus i’r ysgol yn llawn amser, heb unrhyw droseddu pellach.

Cafodd person ifanc arall a oedd wedi cyflawni nifer o droseddau gan gynnwys byrgleriaeth, ac a oedd yn ymddwyn yn aflonyddgar a threisgar, ei gefnogi trwy therapi rheoli dicter i drawsnewid ei fywyd, heb unrhyw droseddu pellach.

Mae'r ddau yn enghreifftiau lle mae'n debygol iawn bod ymyrraeth therapi lleferydd ac iaith wedi helpu i newid y trywydd yr oedd y bobl ifanc hyn arno - gan atal troseddu yn y dyfodol ac efallai hyd yn oed, drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.

Mae'n anodd dod o hyd i therapyddion lleferydd ac iaith

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod nifer o argymhellion y Pwyllgor sy'n ceisio ehangu neu wella rôl therapyddion lleferydd ac iaith y GIG ym maes cyfiawnder ieuenctid.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad oes digon o therapyddion lleferydd ac iaith yn cael eu cyflogi gan y GIG i dderbyn argymhelliad y Pwyllgor i leoli therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob Tîm Troseddau Ieuenctid yng Nghymru. I wneud hyn, byddai angen cynyddu'r lleoedd hyfforddi a chyflenwad y gweithlu.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn argymell cynllun gweithlu, gyda'r nod o gynyddu'r nifer presennol o leoedd hyfforddi therapyddion lleferydd ac iaith. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, mae’r Coleg Brenhinol yn dweud bod cynllun gweithlu gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (a fyddai'n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith) eisoes wedi cael ei wrthod gan GIG Cymru.

Mae'r Coleg Brenhinol yn galw am fwy o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan egluro bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith fesul pen o’r boblogaeth yng Nghymru nag unrhyw ran arall o’r DU:

… we have consistently argued for higher commissioning numbers for speech and language therapy given the clear evidence base for the expansion of the profession into newer areas such as justice.

However commissioning numbers in Wales have remained stubbornly at 49 from 2020 until 2023 despite the creation of a second undergraduate course, sustained increases in other healthcare courses and evidence from higher education institutions that there is both demand and capacity for a growth in numbers.

It is therefore deeply frustrating to read in the government response to the report that the reason for the rejection of the recommendations relating to workforce is the lack of speech and language therapists rather than lack of evidence of need.

Cyfiawnder ieuenctid a'r cyd-destun Cymreig

Mae adroddiad y Pwyllgor yn ein hatgoffa o’r “ffin arw” sy’n bodoli yn y system cyfiawnder ieuenctid rhwng addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a chyfiawnder. Mae'n dangos, er bod cyfiawnder ei hun yn fater a gedwir yn ôl i San Steffan, fod yna benderfyniadau a buddsoddiadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud mewn meysydd datganoledig (fel iechyd ac addysg) a all gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid.

Fe wnaethom dynnu sylw o'r blaen yn ein herthygl 'Datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru - a fydd yn digwydd mewn gwirionedd?' at y ffaith bod cyfiawnder ieuenctid ar frig y rhestr o ran ymdrechion Llywodraeth Cymru i geisio sicrhau bod cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli.

Yng Nghymru, mae polisi cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ategu gan dull sy’n seiliedig ar drawma, sy'n cydnabod effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ymddygiad troseddol.. Mae'n seiliedig ar yr athroniaeth bod pobl ifanc sy'n troseddu yn rhannu cefndir tebyg â phobl ifanc sydd angen gofal ac amddiffyniad. Felly, mae’n dilyn y dylai pobl ifanc sy'n troseddu, neu sydd mewn perygl o droseddu (yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed o ganlyniad i anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu), gael y gofal a’r cymorth cywir.

Mae'r Coleg Brenhinol yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried nifer y lleoedd hyfforddi yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod digon o therapyddion lleferydd ac iaith i ddiwallu anghenion ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed.

Mae'n amlwg eu bod yn teimlo bod camau ar unwaith y gallai Llywodraeth Cymru, a'i phartneriaid, eu cymryd i roi gwell cymorth i bobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n mynd i drafferthion gyda’r gyfraith.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru