Datganoli cyfiawnder troseddol i Gymru - a fydd yn digwydd mewn gwirionedd?

Cyhoeddwyd 18/01/2023   |   Amser darllen munudau

Nid yw'r ddadl ynghylch datganoli cyfiawnder i Gymru yn newydd. Mae wedi cael ei argymell gan sylwebwyr gwleidyddol ac academyddion; y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, 2019 (Comisiwn Thomas); ac mae'n un o bolisïau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Ond a fydd yn digwydd mewn gwirionedd?

Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’r sefyllfa bresennol – sef cadw Cymru o fewn system gyfreithiol a chyfiawnder y mae hi’n ei rheoli. Mae'r erthygl hon yn trafod pam, pan ei bod yn ymddangos nad oes fawr o obaith y bydd cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, o leiaf yn y tymor byr i’r tymor canolig, rydym yn dal i siarad am y mater. Rydym yn canolbwyntio ar y posibilrwydd o ddatganoli rhannol, yn benodol dau faes cyfiawnder troseddol, sef cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.

Adroddiadau'r Comisiwn (rhagor)

Cyhoeddwyd dau adroddiad ar ddiwygio cyfansoddiadol ym mis Rhagfyr. Adroddiad Gordon Brown ar gyfer y Blaid Lafur ar Ddiwygio Cyfansoddiadol y DU a’r adroddiad interim gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'r olaf yn ymrwymo i adolygu'r ddadl dros ehangu pwerau datganoledig, gan gynnwys yng nghyswllt cyfiawnder a phlismona;

Mae Comisiwn Thomas wedi cyflwyno achos cryf dros ddatganoli'r pwerau hyn i Gymru, fel sy'n digwydd eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid ydym wedi cael dadl rhesymegol ynghylch pam nad yw hyn yn ddymunol: byddwn yn parhau i chwilio am ystod eang o safbwyntiau cyn dod i gasgliad ar hyn a chynigion cyfredol eraill ar gyfer setliad Cymreig mwy cydlynol.

Ond mae adroddiad Gordon Brown yn cynnig llawer llai i Gymru. Yn lle datganoli’r system cyfiawnder troseddol gyfan, mae ond yn cynnig y meysydd cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf.

Gwnaed galwadau o’r blaen am ddatganoli graddol o’r system gyfiawnder. Roedd cynigion polisi cynnar ymgyrch arweinyddiaeth Mark Drakeford i fod yn Brif Weinidog yn cynnwys ymdrech i ddatganoli'r gwasanaeth prawf. Ychydig wythnosau ar ôl cael ei benodi’n Brif Weinidog, dywedodd  ei fod am "fabwysiadu dull ymarferol o ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol”, drwy ganolbwyntio ar ddatganoli’r system cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a phwerau newydd mewn perthynas â throseddwyr benywaidd;

Dyna'r rhannau o'r system cyfiawnder troseddol sydd agosaf at y cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli eisoes a lle y gallem ni wneud y gwahaniaeth mwyaf uniongyrchol. Rwy'n credu, mewn ffordd ymarferol, y dylem ni ganolbwyntio ar yr agweddau hynny yn gyntaf, ac os gallwn ni sicrhau eu bod yn cael eu datganoli i Gymru, yna byddwn yn gallu symud ymlaen o'r fan honno i'r agweddau eraill a fyddai'n dilyn.

Ymatebodd Plaid Cymru gan fynegi ei siom am y “diffyg uchelgais”. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau bod yn uchelgeisiol, ond yn arbennig mae eisiau bod yn cyflawni.

Bron i dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r Prif Weinidog wedi cyflwyno’r achos unwaith eto. Mae'n ailadrodd ei ymrwymiad i ddatganoli cyfiawnder yn llawn, ond yn mynnu y gallai trosglwyddo cyfrifoldebau dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf fod 'yn gamau cyntaf ar y daith'. Ar 9 Rhagfyr, dywedodd y canlynol wrth Aelodau o'r Senedd o ran y camau hyn:

… will allow us …to develop the ground rules around the financial transfers alongside the responsibility transfers. And we will learn a lot and … we will move on to the transfer of policing and then the courts, and so on, that we will have developed a template for the funding side of those things in those more modest services of youth justice and probation.

Y gwasanaeth prawf

Y gwasanaeth prawf sy’n gyfrifol am roi cyngor i'r llysoedd ar y dedfrydau mwyaf priodol i'r rhai sy’n cael eu dyfarnu’n euog o drosedd. Nhw sy’n gyfrifol hefyd am reoli troseddwyr sy'n cael dedfrydau cymunedol a goruchwylio'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar ar drwydded (a fydd wedi bwrw rhan o'u dedfryd yn y ddalfa).

Mae'r gwasanaeth prawf yn gyfrifol am adsefydlu ac ailintegreiddio’r troseddwyr hyn; cydweithio'n agos â'r gwasanaethau datganoledig gan gynnwys gofal cymdeithasol, cymorth tai, camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl.

Sefydlwyd sawl Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CRC) yn 2015 mewn ymateb i breifateiddio gwasanaeth prawf Cymru a Lloegr yn rhannol. Yng Nghymru, cafodd y contract Cwmni Adsefydlu Cymunedol ei ddyfarnu i Working Links, a oedd yn bennaf gyfrifol am reoli troseddwyr risg isel a chanolig. Mae methiannau Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol eisoes yn hysbys; maent yn cael eu trafod gan yr academyddion blaenllaw Robert Jones a Richard Wyn Jones yn eu llyfr the Welsh Criminal Justice System’. Maen nhw’n honni bod preifateiddio’r gwasanaeth prawf yn rhannol yn ‘drychineb llwyr’.

So disastrous, in fact, that in June 2020 the [UK] government was forced to reverse course and announce the full renationalisation of the service.

Cymerodd Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru gyfrifoldeb yn ôl dros reoli pob troseddwr risg isel, risg canolig a risg uchel ym mis Rhagfyr 2019.

Cyfiawnder ieuenctid

Mae'r stori'n fwy cadarnhaol o ran cyfiawnder ieuenctid. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i’r ddalfa, ac mae niferoedd arwyddocaol o bobl ifanc a fyddai fel arall wedi mynd i helynt â’r gyfraith wedi cael eu dargyfeirio drwy raglenni atal ac ymyrraeth gynnar.

Mae Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ategu gan ddull sy’n benodol i Gymru; gyda hawliau plant wrth ei wraidd. Mae plant a phobl ifanc yn cael eu trin fel 'plant yn gyntaf ac fel troseddwyr yn ail'. Mae hyn yn hollol wahanol i’r dull mwy cosbol o lunio polisïau cyfiawnder ieuenctid a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU.

Mae llyfr Jones a Wyn Jones yn esbonio bod cyfiawnder ieuenctid:

is a part of the criminal justice system that features not only extensive devolved responsibility, but also a sustained attempt by the Welsh Government to forge its own distinctive policy approach towards children (under 18) in conflict with the law.

Roedd gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn sôn am effaith trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), ymhell cyn iddo ymddangos ym mholisi ac arferion cyfiawnder ieuenctid y DU.

Wedi dweud hynny, mae rhagor i'w wneud o hyd. Mae Jones a Wyn Jones yn ein hatgoffa bod yr oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru a Lloegr yn dal i fod yn un o'r isaf yn Ewrop. Argymhellodd Comisiwn Thomas bod yr oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru yn cael ei gynyddu i 12 oed (o 10 oed).

Mae rhai grwpiau o bobl ifanc sy’n mynd i drafferthion o ran y gyfraith hefyd yn parhau i wynebu heriau difrifol. Mae Jones a Wyn Jones yn pwysleisio bod plant o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o fynd i'r ddalfa o'u cymharu â phlant gwyn. Datgelodd tystiolaeth ddiweddar a roddwyd i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd hefyd y trafferthion y gall pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu eu profi wrth geisio llywio'r system cyfiawnder ieuenctid.

Menywod a chyfiawnder troseddol

Mae trydydd uchelgais y Prif Weinidog; "i geisio cael mwy o bwerau mewn perthynas â menywod a chyfiawnder troseddol" yn destun ymchwiliad un o bwyllgorau’r Senedd ar hyn o bryd. Mae gan Lywodraeth Cymru Lasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd, ond mae’n ymddangos bod y stori honno’n un o oedi a diffyg cynnydd.

Uchelgais bersonol y Prif Weinidog

Mae addewid cynnar y Prif Weinidog i sicrhau bod cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf yn cael eu datganoli wedi cael ei rwystro gan y pandemig COVID-19, sydd wedi bod mor flaenllaw yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Dywed y Prif Weinidog ei fod yn bwriadu ymddiswyddo yn 2024, ac fe fydd yn siŵr o gael ei siomi os nad yw Cymru gam yn agosach at gymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaethau hyn. Wedi'r cyfan, bu'n swyddog prawf ymhell cyn iddo fentro i fyd gwleidyddiaeth, ac yn academydd blaenllaw ar bolisi cyfiawnder ieuenctid.

A all Prif Weinidog Cymru argyhoeddi Llywodraeth y DU i newid ei meddwl - i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf? Rhaid inni aros i weld.


Erthygl Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru