A fydd Llywodraeth Cymru yn argymell cydsyniad i Fil Protocol Gogledd Iwerddon?

Cyhoeddwyd 08/08/2022   |   Amser darllen munud

Cyflwynwyd Bil Protocol Gogledd Iwerddon yn Senedd y DU ar 13 Mehefin. Os caiff ei basio, bydd yn trechu rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon mewn cyfraith ddomestig, yn grymuso Gweinidogion i drechu rhannau eraill ac yn galluogi Gweinidogion i roi trefniadau gwahanol ar waith, a hynny heb fewnbwn na chydsyniad yr UE.

Yn ôl Llywodraeth y DU, y Bil yw’r unig ffordd o fynd i’r afael ag effeithiau’r Protocol, sef dargyfeirio masnach ac anawsterau cymdeithasol ac economaidd difrifol ac mae’n dadlau nad yw’r Protocol yn amddiffyn Cytundeb Gwener y Groglith. Mae’r Bil yn anghyfreithlon ym marn yr UE, sydd wedi lansio saith achos o dor-cyfraith yn erbyn y DU.

Wrth ddisgwyl y Bil, rhybuddiodd Llywodraeth Cymru am y risgiau sy’n gysylltiedig â chynlluniau Llywodraeth y DU. Dywedodd y Prif Weinidog ac eraill y gallent niweidio statws rhyngwladol y DU, torri cyfraith ryngwladol o bosibl ac effeithio’n negyddol ar yr economi.

Byddai’r Bil yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymru ac gall diystyru deddfwriaeth Cymru sy’n gweithredu’r Protocol.

Gofynnir i’r Senedd gydsynio i’r Bil gan ei fod yn cynnwys materion mewn meysydd datganoledig. Mae’r erthygl hon yn crynhoi ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru wrth inni aros am ddechrau’r broses gydsynio.

Enw da rhyngwladol

Cyn cyflwyno'r Bil ym mis Mai, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru Brif Weinidog y DU ynghylch y risgiau dan sylw i enw da rhyngwladol, gan ei annog i barhau i siarad â’r UE.

Yn dilyn cyflwyno’r Bil, dywedodd y Prif Weinidog fod y Bil yn “niweidio ein statws yng ngweddill y byd” a nododd fod mwyafrif o Gynulliad Gogledd Iwerddon wedi gwrthod y ddeddfwriaeth “yn y termau cryfaf posibl”.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru fod perygl y bydd y Bil yn gwneud “niwed parhaol” i gysylltiadau rhyngwladol a chysylltiadau â’r UE. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y DU “mewn perygl difrifol o ddinistrio ei henw da rhyngwladol”, ei “hygrededd mewn cyfraith ryngwladol” a bod y Bil yn cynrychioli “methiant diplomyddiaeth a gwladweinyddiaeth”.

Problem gyfansoddiadol benodol

Mae Llywodraeth y DU yn derbyn bod y Bil yn rhagweld peidio â chyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol, ond nad yw’r ffaith ei bod yn dibynnu ar yr athrawiaeth rheidrwydd fel amddiffyniad wedi ei phrofi eto.

Mae Gweinidog yr Economi yn datgan bod hwn yn “destun pryder mawr” a bod llawer o arbenigwyr cyfreithiol annibynnol, gan gynnwys cyn-gyfreithiwr trysorlys Llywodraeth y DU, Syr Jonathan Jones CF wedi beirniadu’r dull hwn.

Mae'r ddadl wedi symud ymlaen o 'os' bydd yna achos o dor-cyfraith i ‘pryd’ y bydd hyn yn digwydd. Mae rhai, gan gynnwys yr UE, o’r farn bod cyflwyno’r Bil yn achos o dor-cyfraith, ond mae eraill o’r farn y bydd hyn yn digwydd os daw'r Bil yn gyfraith.

Ymddengys fod datganiad Llywodraeth Cymru ar 28 Mehefin yn creu trydedd ddadl, sef y gallai’r Bil, “pe bai’n dod i rym, arwain at fethu â chyflawni'r rhwymedigaethau rhyngwladol”, sy’n awgrymu y gallai’r achos o dor-cyfraith ddigwydd yn ddiweddarach, ar ôl i’r Bil ddod yn gyfraith.

Mae pob un yn peri problem i Lywodraeth Cymru a’r Senedd oherwydd y gofynnir iddynt gydsynio i ddeddfwriaeth yr ystyrir ei bod naill ai eisoes yn achos posibl o dorri cyfraith ryngwladol, neu’n cyfrannu i achos posibl o dor-cyfraith yn y dyfodol. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn esbonio fel a ganlyn:

It creates a particular constitutional problem for us, I believe, if it is in breach of international law, because we will be asked to give consent to the legislation, and whether we can actually consent to something that effectively legitimises unlawfulness.

Dywedodd hefyd, hyd yn oed pe byddai’r DU yn cyflwyno ei deddfwriaeth ddomestig ei hun, na fyddai’n gallu osgoi ei rhwymedigaethau rhyngwladol.

Mae angen i’r setliad datganoli gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol. Fodd bynnag, nid yw’n sôn beth fydd yn digwydd os ystyrir bod deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn anghydnaws ac yn y pen draw, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gydymffurfedd y DU.

Nid oes ymgysylltu cynnar ar Filiau’r DU

Ym mis Mai, dywedodd y Prif Weinidog fod dadl gref dros weld pedair llywodraeth y DU yn dod ynghyd i drafod y Bil gyda’i gilydd. Fodd bynnag, dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Materion Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno.

Dywedodd Gweinidog yr Economi yn ddiweddarach y cyflwynwyd y Bil “heb unrhyw ymgysylltu” a dywedodd y canlynol hefyd:

Dylem ymgysylltu'n gynnar ar Filiau sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig; yn syml, nid yw'n digwydd.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi:

Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y byddai’n parchu Confensiwn Sewel yn y dyfodol, fel na fyddai Senedd y DU fel arfer yn deddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad.

Nid yw dirywiad yn y berthynas rhwng y DU a’r UE o fudd i neb

Mae Gweinidog yr Economi wedi rhybuddio nad yw dirywiad yn y berthynas rhwng y DU a’r UE “o fudd i neb”, yn enwedig gan ei fod mewn perygl o waethygu’r argyfwng costau byw.

Lansiodd yr UE dri achos o dor-cyfraith yn erbyn y DU i ddechrau, ac ychwanegwyd pedwar arall yn ddiweddarach:

 

Disgrifiad achos o dor-cyfraith

Cyfnod

Dyddiad lansio / dyddiad cau ar gyfer ymateb y DU

Tor-cyfraith 1

Methiant i weithredu gofynion ar gyfer symud nwyddau bwyd-amaeth

Barn resymegedig

15 Mai 2021 a 15 Mehefin 2022 / 15 Awst 2022

Tor-cyfraith 2

Methiant i gyflawni gwiriadau SPS a sicrhau staffio a seilwaith digonol ar y ffin â Gogledd Iwerddon

Llythyr hysbysu ffurfiol yn gofyn i'r DU adfer cydymffurfedd

15 Mehefin 2022 / 15 Awst 2022

Tor-cyfraith 3

Methiant i ddarparu data ystadegau masnach i'r UE

Tor-cyfraith 4

Methiant i gydymffurfio â thollau, goruchwyliaeth a rheolaethau risg ar symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr

Llythyr hysbysu ffurfiol yn gofyn i'r DU adfer cydymffurfedd

22 Gorffennaf 2022 / 22 Medi 2022

Tor-cyfraith 5

Methiant i hysbysu’r UE o fabwysiadu cyfraith yr UE ar gyfer tollau cartref

Tor-cyfraith 6

Methiant i hysbysu’r UE o fabwysiadu cyfraith yr UE ar gyfer tollau cartref ar alcohol a diodydd alcoholaidd

Tor-cyfraith 7

Methiant i weithredu rheolau TAW yr UE ar gyfer e-fasnach, y Siop Un Stop Mewnforio

Ym mis Mai, dywedodd y Prif Weinidog wrth Brif Weinidog y DU y byddai ei gynlluniau yn peryglu niwed materol i economi Prydain. Pwysleisodd safbwynt Llywodraeth Cymru bod gan Gymru fuddiant uniongyrchol o ran materion a allai effeithio ar fusnesau Cymru ac o ran unrhyw beth sy’n effeithio ar y llif masnach rhwng Gogledd Iweddon a Phrydain Fawr, o ystyried pwysigrwydd strategol ei phorthladdoedd sy’n wynebu’r gorllewin, yn enwedig Caergybi.

Un i’w gwylio

Dyma grynodeb o’r sefyllfa ar hyn o bryd:

  • Mae’r Bil bellach wedi’i oedi yn Senedd y DU dros y toriad, ac ar ôl hynny bydd gan y DU Brif Weinidog newydd. Y Prif Weinidog newydd fydd yn penderfynu tynged y Bil;
  • Nid yw Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi ei ailgyfansoddi hyd yn hyn yn dilyn etholiad mis Mai pan ddaeth Sinn Féin i fod y blaid fwyaf. Ni fydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) yn ailymuno â threfniadau rhannu pŵer mewn protest yn erbyn y Protocol;
  • Mae gan yr UE saith tor-cyfraith 'byw' yn erbyn y DU gyda therfynau amser ymateb ym mis Awst a mis Medi. Efallai y bydd yr UE yn mynd â’r DU i’r llys, a allai arwain at daliad cosb, neu gamau dialgar drwy’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu os nad yw'r DU yn ymateb;
  • Bydd y Senedd yn dychwelyd o’r toriad ar 12 Medi pan allwn ddisgwyl mwy o eglurder ynghylch dyfodol y Bil.

Os bydd y Bil yn parhau â’i daith, bydd y broses gydsynio, yng ngeiriau’r Prif Weinidog:

...cyfle i'r Aelodau (…) edrych yn fanylach ar yr achos o dorri cyfraith ryngwladol a'r effaith y bydd yn ei chael yma yng Nghymru.

Mae’r sefyllfa ddigynsail hon yn un i’w gwylio a bydd yn nodi carreg filltir bwysig arall ar ôl Brexit.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru