Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Cytundeb Fframwaith Ymchwil Brexit
Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2020   |   Amser darllen munudau
Mae’r Senedd wedi creu cronfa o arbenigwyr a all ddarparu gwasanaethau ymchwil a briffio sy'n gysylltiedig â phenderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Ymchwil y Senedd yn darparu gwasanaethau ymchwil a gwybodaeth yn Senedd Cymru. Fodd bynnag, ar adegau, mae angen brîff neu gyngor arbenigol i ategu'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gall Pwyllgorau'r Senedd hefyd nodi materion penodol lle mae angen arbenigedd ychwanegol.
Mae’r Cytundeb Fframwaith Brexit yn caniatáu i’r Senedd ymrwymo i gontractau ‘galw-i-ffwrdd’ unigol gyda’r gronfa hon o arbenigwyr wrth i'r angen am wasanaethau ymchwil a briffio godi.
Cyhoeddwyd y gwaith canlynol hyd yma o dan y Fframwaith hwn:
- Cynlluniau rheoli tir yn seiliedig ar ganlyniadau: dadansoddiad o astudiaeth achos (Tachwedd 2018)
- Asesiad a chrynodeb o’r goblygiadau i Gymru sy’n deillio o’r Cytundeb Ymadael, a gyhoeddwyd fel Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (PDF, 768KB) (Tachwedd 2018)
- Sut y gallai newidiadau yn yr economi wledig ar ôl Brexit effeithio ar anghydraddoldebau gofal iechyd/iechyd yng Nghymru wledig (Chwefror 2019)