Cymrodyr Blaenorol

Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae’r academyddion a ganlyn wedi gweithio gyda gwasanaeth Ymchwil y Senedd fel rhan o’r Cynllun Ymgysylltu Academaidd. Gallwch hofran dros yr enw i gael rhagor o wybodaeth am y cymrawd a’i waith gyda’r Senedd.

CYNLLUN CYMRODORIAETH ACADEMAIDD 2019

 

Ymchwiliodd Dr Helen Taylor (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) i ehangu dyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â digartrefedd mewn perthynas â Deddf Tai (Cymru) 2014. Dadansoddodd y cynnig i gynnwys 'cysgu ar y stryd' fel categori angen blaenoriaeth gan gasglu data ar yr effaith y gallai hyn ei chael ar unigolion sy'n cysgu ar y stryd. Roedd ymchwil PhD Helen yn ymwneud ag agweddau tuag at fregusrwydd yn y Ddeddf ac ar hyn o bryd mae'n darlithio mewn Astudiaethau Tai, gan arbenigo mewn polisi, dulliau ymchwil a digartrefedd.

Cyhoeddwyd crynodeb o waith Dr Taylor mewn erthygl ar y blog Pigion, Beth sy'n cael ei wneud i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru?, ym mis Tachwedd 2019.

 

CYNLLUN CYMRODORIAETH ACADEMAIDD 2018

 

Mae’r Athro Ann John (Prifysgol Abertawe) wedi paratoi gwybodaeth a phapur ar hunanladdiad a hunan-niweidio i helpu’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i werthuso effeithiolrwydd strategaeth Llywodraeth Cymru, sef “Beth am siarad â mi 2,” yn 2018.

Mae ei chyhoeddiadau hyd yma yn cynnwys Cronfa Ddata Gwybodaeth am Hunanladdiad-Cymru (SID-Cymru).