Cyhoeddiad Newydd: Yn mynd i’r afael â’r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 31/07/2019   |   Amser darllen munudau

Mae’r adroddiad hwn yn mynd i’r afael â’r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru. Mae’n tynnu ar arbenigedd yr awdur ac ymchwil ryngddisgyblaethol ers degawd ar bolisi ynni a’r hinsawdd, trawsnewidiadau ynni ac economeg ecolegol, a hefyd ar y rhan y mae’n ei chwarae ym mhrosiect aml-filiwn WiseGRID ar gridiau deallus y mae’r UE yn ei ariannu. Mae’r adroddiad hefyd wedi’i seilio ar waith craffu trylwyr ar gyd-destun polisi gwleidyddol ac hinsawdd Cymru a’r fframwaith deddfwriaethol presennol, gwaith Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dogfennau polisi cysylltiedig Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y diweddaraf, Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, a chyngor ac adroddiadau Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, gan gynnwys yr adroddiad diweddar iawn, Net Zero: The UK’s contribution to stopping global warming. Mae’r adroddiad yn cyfrannu mewnwelediadau a chysyniadau her newid yn yr hinsawdd ac yn dangos sut y mae’n rhyngweithio â blaenoriaethau gwleidyddol a pholisi allweddol eraill, ac mae’n rhoi sylw i dystiolaeth ac arferion gorau o bob cwr o’r byd.

Ar ôl mapio’r fframwaith polisi presennol, mae’r adroddiad yn dadlau dros dargedau hinsawdd mwy mentrus, yn unol â gwyddoniaeth hinsawdd, a chyllidebau carbon cymesur er mwyn dod yn garbon-niwtral cyn 2050. Mae’r cyngor hwn wedi’i seilio ar sylfaen gyfreithiol gref Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ar ddadleuon economaidd grymus ynglŷn â chostau peidio â gwneud rhywbeth ynglŷn â’r hinsawdd a rhinweddau gweithredu â dechrau dwys, ac ar sail wleidyddol ddatblygedig sy’n deillio o bwysau cymdeithas sifil a’r angen am i’r wladwriaeth gymryd rôl fwy canolog.

Mae’r adroddiad yn ymhelaethu ar fanteision polisi hinsawdd uchelgeisiol, ac yn darparu digon o dystiolaeth ac arferion gorau byd-eang y gellir eu defnyddio yng Nghymru. Mae hefyd yn trafod polisi hinsawdd Cymru o fewn y patrwm twf ehangach y mae Cymru’n ei ddilyn, ac yn nodi gwahanol lwybrau trawsnewid ynni.

Mae’r adroddiad hefyd yn ailaddasu cynlluniau polisi presennol a chynigion sydd ar y bwrdd. Yn fwy penodol, mae’n disgrifio’r angen am gwmni ynni i Gymru, ac yn darlunio’r rôl a’r tasgau y gallai eu chwarae, ac yn edrych i mewn i’r potensial i wneud y Cynllun Darnodi Parthau’n fwy deniadol i ddinasyddion / cymunedau lleol. O ystyried y dryswch ynglŷn â Brexit ar hyn o bryd, mae’r adroddiad hefyd yn dwyn sylw at nifer o oblygiadau a allai ddod yn sgil Brexit i bolisi hinsawdd Cymru.

Cyhoeddiad Newydd: Yn mynd i’r afael â’r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru (PDF, 1806KB)


Ysgrifennwyd y ddogfen friffio gan Dr Filippos Proedrou o Brifysgol De Cymru o dan Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd, at ddibenion cefnogi gwaith craffu Aelodau’r Cynulliad ym maes newid hinsawdd.

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gefnogaeth a gafwyd gan Brifysgol De Cymru, a alluogodd Dr Proedrou i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth hon.