Hunanwasanaeth

Atebion cyfrinachol i gwestiynau rydych yn eu gofyn i ni mewn perthynas â'ch gwaith pwyllgor, eich gwaith yn y Cyfarfod Llawn, deddfwriaeth a gwaith etholaethol.

Hwb gwaith achos

Canllawiau cyllid etholaethol, proffiliau etholaethol ystadegol, ffynonellau gwybodaeth gyfreithiol, cyngor budd-daliadau lles a rhifau 'llinell gymorth' asiantaethau allweddol y llywodraeth - pob un ar gael gyda'i gilydd ar fewnrwyd yr Aelodau.

Cyllid, cyllidebau ac ystadegau

Cyngor ar gyllid cyhoeddus, cyllidebau, trethiant, ynghyd â chymorth i ddod o hyd i ystadegau a'u dehongli, gan gynnwys delweddau data.

Cymorth i'r Pwyllgorau

Darperir ymchwil a chyngor ar gyfer pob pwyllgor, gan gynnwys papurau briffio a chymorth arall.

Cyhoeddiadau

Erthyglau ymchwil, cyhoeddiadau a delweddau data diduedd o ansawdd uchel, a gyhoeddir ar ein gwefan (ymchwil. senedd.cymru) i bawb eu darllen. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ar Twitter @SeneddYmchwil.

Llyfrgell a gwasanaethau gwybodaeth

Mae cyhoeddiadau, cyfnodolion, papurau newydd, adnoddau electronig a chymorth ar gael o'n hystafelloedd darllen ac o bell drwy fewnrwyd yr Aelodau.

Hyfforddiant, canllawiau a chymorth

Gan gynnwys: sesiynau rhagarweiniol ar sut i wneud y gorau o'n gwasanaethau; sut i ddefnyddio cronfeydd data a theclynnau ymchwil penodol; sut i ganfod, dadansoddi a defnyddio ystadegau; a phapurau briffio polisi ar bynciau penodol.

Materion Allanol a Rhyngwladol

Cyngor ar sefydliadau Ewropeaidd a byd-eang, masnach a materion rhyngwladol.

Cymorth cyfansoddiadol a deddfwriaethol

Cyngor ar ddatganoli a'r broses ddeddfwriaethol yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys cymorth gyda datblygu cynigion deddfwriaethol a phob cam o'r broses Bil Aelod.

Cyfnewid gwybodaeth

Rydym yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd rhwng ymchwilwyr allanol a'r Senedd. Gan weithio gydag ymchwilwyr a sefydliadau o Gymru a'r tu hwnt, rydym yn hwyluso ac yn cryfhau cyfnewid gwybodaeth mewn ystod o ffyrdd.

 

Gwasanaethau mapio

Mapiau rhyngweithiol i'ch helpu i ddeall a chymharu data daearyddol y Senedd, a mapiau statig sy'n dangos etholaethau, rhanbarthau ac ardaloedd eraill mewn ystod o raddfeydd ar gais.