Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2026-27 - Newidiadau o dudalen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 25-26

Cyhoeddwyd 24/12/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/01/2026   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb Derfynol 2026-27 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau ac asiantaethau cysylltiedig, fel y byrddau iechyd neu’r awdurdodau lleol. Cyhoeddwyd y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 ar 20 Ionawr 2026.

Ynglŷn â'r diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i edrych yn fanwl ar ddyraniadau’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 ar lefelau gwahanol, o'r portffolio i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (sef y lefel fanylaf sydd ar gael).

Mae’r gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yn werthoedd refeniw yn unig (ac felly nid ydynt yn cynnwys dyraniadau cyfalaf). Caiff maint pob nod ei raddio yn ôl ei gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.

Gyda gwneud newidiadau sylweddol rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol eleni, mae dwy gymhariaeth wahanol ar gael.

Mae'r tabl isod yn dangos y dyraniadau a'r newidiadau cyfatebol o'r llinell sylfaen ddiwygiedig 2025-26 i ddyraniadau’r Gyllideb Derfynol 2026-27.

Os hoffech edrych ar sut mae'r dyraniadau wedi newid o'r Gyllideb Ddrafft 2026-27 i'r Gyllideb Derfynol 2026-27 yna gweler yma.

Mae'r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yn y llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2025-26, ynghyd â’r newid o ran arian parod a newid canrannol.

O dan 'dewisiadau gweld', gallwch ddewis dangos y newid canran o ran y llinell sylfaen ddiwygiedig 2025-26. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth o un flwyddyn i’r llall yn nyraniad y gyllideb. Lliwiau'r nod yw coch ar gyfer gostyngiad a glas ar gyfer cynnydd, ac mae arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canran mwy. Mae’r cyfrifiad termau real yn defnyddio datchwyddydd cynnyrch domestig gros (GDP) mis Rhagfyr , sef 2.23%.

Mae rheolyddion ar gyfer lleoli'r tabl a modd sgrin lawn ar gael yn y 'dewisiadau gweld'.

Lawrlwytho’r data