Mae Cyllideb Atodol Gyntaf 2026-27 yn nodi newidiadau yn ystod y flwyddyn Llywodraeth Cymru i’w chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i Lywodraeth Cymru, ei hadrannau ac asiantaethau cysylltiedig, megis byrddau iechyd, ac awdurdodau lleol. Cafodd Cyllideb Atodol Gyntaf 2026-27 ei chyhoeddi ar 23 Mehefin 2026.
Mae'r ffeithluniau isod yn crynhoi'r dyraniadau allweddol fesul adran y llywodraeth a sut mae'r rhain wedi newid ers Cyllideb Derfynol 2026-27 (ailddatganwyd Mehefin 2026)
Newidiadau rhwng y Terfynau Gwariant Adrannol yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2026-27 o Gyllideb Derfynol 2026-27 (ailddatganwyd Mehefin 2026)

Newidiadau rhwng y Prif Grwpiau Gwariant yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2026-27, o Gyllideb Derfynol 2026-27 (ailddatganwyd Mehefin 2026)

Gwybodaeth am y diagram hwn
Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i archwilio’r dyraniadau yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2026-27 ar lefelau gwahanol, o bortffolio’r Prif Grŵp Gwariant i lawr i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (y lefel fanylaf sydd ar gael).
Mae’r gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl fel a ganlyn: dyraniadau adnoddau (neu refeniw) ynghyd â dyraniadau cyfalaf (sy'n cynnwys cyfalaf cyffredinol a dyraniadau Cyfalaf Trafodiadau Ariannol), ac eithrio cyllid Gwariant a Reolir yn Flynyddol. Mae maint pob nod yn cael ei raddio yn ôl gwerth y dyraniad a’i gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.
Mae'r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yng Nghyllideb Derfynol ailddatganedig 2026-27, ynghyd â'r newidiadau rhwng y rhain a Chyllideb Atodol Gyntaf 2026-27, mewn termau arian parod a thermau canrannol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan dyraniadau Cyllideb Derfynol 2025-26 er mwyn adlewyrchu'r portffolios gweinidogol newydd ac er mwyn ailddosbarthu cyllidebau adnoddau anghyllidol sydd wedi'u neilltuo yn Wariant a Reolir yn Flynyddol.
O dan 'gweld yr opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canrannol o Gyllideb Derfynol ailddatganedig 2026-27. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth canrannol yn y dyraniad cyllideb. O ran lliwiau’r nodau, coch yw’r lliw ar gyfer gostyngiad a glas yw’r lliw ar gyfer cynnydd gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canrannol mwy.
O dan ‘gweld yr opsiynau’, gellir rheoli’r broses o leoli'r tabl a gweld y cynnwys ar sgrin lawn.