Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Cyhoeddwyd 23/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb 2021-22 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau ac asiantaethau cysylltiedig megis byrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Cafodd Cyllideb Ddrafft 2021-22 ei chyhoeddi ar 21 Rhagfyr 2020.

Ynglŷn â'r diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i archwilio dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2021-22 ar lefelau gwahanol, o'r portffolio i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (y lefel fanylaf sydd ar gael).

Y gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yw refeniw, ynghyd â dyraniadau cyfalaf. Mae maint pob nod yn cael ei raddio yn ôl ei gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.

Mae’r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yng Nghyllideb Derfynol 2020-21 (fel yr ailddatganwyd yn nogfennaeth y Gyllideb Ddrafft) ynghyd â newid canrannol ac arian parod. Sylwer fod y cynnydd mawr yn Nhaliadau Uniongyrchol Colofn 1 Amaethyddiaeth yr UE oherwydd bod y taliadau hyn yn dod drwy Lywodraeth y DU yn hytrach na’r UE yn 2021-22.

O dan 'gweld yr opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canran ar Gyllideb Derfynol 2020-21. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth o flwyddyn i flwyddyn yn y dyraniad cyllideb. Lliwiau'r nod yw coch ar gyfer gostyngiad a glas ar gyfer cynnydd gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canran mwy.

Lawrlwytho’r data.