Cyllideb Ddrafft | Cyllideb Derfynol | Cyllidebau Atodol
Ar 19 Tachwedd 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft amlinellol ar gyfer 2020-21 sy'n nodi cynlluniau gwariant lefel uchel, trethi a benthyca'r Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb hon dros yr 8 wythnos ganlynol.
Amserlen Cyllideb 2020-21
Mehefin 2019 - Y Pwyllgor Cyllid
Digwyddiad i randdeiliaid cyn y Gyllideb Ddrafft yn Aberystwyth
Toriad yr haf 2019 - Agor galwad am dystiolaeth
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ymgynghori dros doriad yr haf i lywio gwaith craffu diweddarach ar y gyllideb ddrafft ym Mhwyllgorau’r Cynulliad
4 Medi 2019 - Arweiniodd rownd gwariant y DU at oedi yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru
6 Tachwedd 2019 - Cyhoeddi Cyllideb y DU
16 Rhagfyr 2019
Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Amlinellol
Bydd cynigion amlinellol yn nodi gwariant strategol lefel uchel, trethiant a chynlluniau cyllidebu Llywodraeth Cymru a naratif cefnogol. Y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt.
16 Rhagfyr 2019
Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Fanwl
Cynigion cyllideb ar gyfer pob portffolio ar lefel Llinell Wariant yn y Cyllideb gyda naratif cefnogol. Pwyllgorau polisi yn craffu arnynt.
31 Ionawr 2020 - Dyddiad cau adrodd pob Pwyllgor
4 Chwefror - Dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn
25 Chwefror 2020 - Cyhoeddi Cyllideb Derfynol
3 Mawrth 2020 - Dadl ar y Gyllideb Derfynol