Sut y mae llywodraeth leol yn cael ei hariannu?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae maes llywodraeth leol yn cynnwys nifer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, heddluoedd, gwasanaethau tân a chyrff y parciau cenedlaethol.  Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw prif ffynonellau cyllid y sefydliadau hyn. ​

Mae awdurdodau lleol yn cael cyllid drwy'r setliad blynyddol ar gyfer llywodraeth leol. Mae'r setliad hwn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Tair prif elfen y pecyn cyllido ar gyfer awdurdodau lleol yw'r Grant Cynnal Refeniw (RSG), y dreth gyngor ac ardrethi busnes.

Mae heddluoedd yn cael cyllid drwy'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a praesept y dreth gyngor.  

Mae'r gwasanaeth tân yn cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru ond yn cael y rhan fwyaf ohono gan awdurdodau lleol.