Mae maes llywodraeth leol yn cynnwys nifer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, heddluoedd, gwasanaethau tân a chyrff y parciau cenedlaethol. Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw prif ffynonellau cyllid y sefydliadau hyn.
Mae awdurdodau lleol yn cael cyllid drwy'r setliad blynyddol ar gyfer llywodraeth leol. Mae'r setliad hwn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Tair prif elfen y pecyn cyllido ar gyfer awdurdodau lleol yw'r Grant Cynnal Refeniw (RSG), y dreth gyngor ac ardrethi busnes.
Mae heddluoedd yn cael cyllid drwy'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a praesept y dreth gyngor.
Mae'r gwasanaeth tân yn cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru ond yn cael y rhan fwyaf ohono gan awdurdodau lleol.