Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyfran fawr o gyllid blynyddol i Lywodraeth Cymru, a adwaenir yn anffurfiol fel y 'grant bloc'.  Mae'r grant bloc heb ei neilltuo, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn o ran sut mae'n dyrannu'r arian hwn.

Wrth bennu ei chyllideb, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn trin y gweinyddiaethau datganoledig yn yr un modd ag y mae'n trin adrannau llywodraethol y DU.​

Mae adolygiadau gwariant y DU  yn amlinellu'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn pennu Cyllideb yr Hydref fanwl bob blwyddyn sy'n nodi unrhyw addasiadau a wneir i wariant a threth a gofynion benthyca, sy'n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â mentrau cyllidebol blaenorol, sefyllfa ariannol y Llywodraeth, a chynigion posibl ar gyfer cyllidebau'r dyfodol.  Bydd unrhyw newidiadau i adrannau â chyfrifoldebau a ddatganolwyd i Gymru yn debygol o arwain at newid i'r cyllid a ddarperir i Lywodraeth Cymru.​

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu codi arian trwy drethi datganoledig a threthi lleol.