Pryd a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn pennu ei Chyllideb?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2020   |   Amser darllen munudau

Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb bob blwyddyn drwy broses sy’n cynnwys nifer o gamau. Mae tair elfen i’r broses o osod cyllideb:

  • Cynigion y gyllideb ddrafft: caiff cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru eu cyflwyno gan ganiatáu i’r Senedd graffu arnynt a chynnig gwelliannau.
  • Cynnig y gyllideb derfynol a’r gyllideb ddrafft: ceisio cymeradwyaeth ffurfiol y Senedd i ddefnyddio adnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol.
  • Cynnig y gyllideb atodol: ceisio cymeradwyaeth ar gyfer newidiadau yn ystod y flwyddyn i gynnig y gyllideb flynyddol.

Fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’i chyllideb ddrafft yn nhymor yr hydref bob blwyddyn. Bydd pwyllgorau, ac eraill sydd â diddordeb, yn craffu ar y gyllideb ddrafft. Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyllideb ddrafft, a bydd y Senedd gyfan yn pleidleisio ar gynnig y gyllideb flynyddol. 

Weithiau, bydd Adolygiad o Wariant neu gyhoeddiad Cyllidebol gan y DU yn golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno’i chyllideb yn ddiweddarach yn y flwyddyn.   

Amserlen Cyllideb Ddrafft 2021-22

Mehefin 2020 - Y Pwyllgor Cyllid

Ymgynghoriad ar-lein ar flaenoriaethau cyn gosod Cyllideb Ddrafft

Mis Medi i fis Tachwedd 2020 - Dechrau galw am dystiolaeth

Ymgynghoriad y Pwyllgor Cylliad i lywio’r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft yn ddiweddarach ym mhwyllgorau’r Cynulliad

25 Tachwedd 2020 - Adolygiad o wariant y DU

21 Rhagfyr 2020

Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Amlinellol

Bydd cynigion amlinellol yn nodi gwariant strategol lefel uchel, trethiant a chynlluniau cyllidebu Llywodraeth Cymru a naratif cefnogol. Y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt.

21 Rhagfyr 2020

Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Fanwl

Cynigion cyllideb ar gyfer pob portffolio ar lefel Llinell Wariant yn y Cyllideb gyda naratif cefnogol. Pwyllgorau polisi yn craffu arnynt.

04 Chwefror 2021 - Dyddiad cau adrodd pob Pwyllgor

09 Chwefror 2021 - Dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn

02 Mawrth 2021 - Cyhoeddi’r Cyllideb Derfynol

09 Mawrth 2021 - Dadl ar y Gyllideb Derfynol

Mawrth 2021 - Cyhoeddi Cyllideb y DU