Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb bob blwyddyn drwy broses sy’n cynnwys nifer o gamau. Mae tair elfen i’r broses o osod cyllideb:
- Cynigion y gyllideb ddrafft: caiff cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru eu cyflwyno gan ganiatáu i’r Senedd graffu arnynt a chynnig gwelliannau.
- Cynnig y gyllideb derfynol a’r gyllideb ddrafft: ceisio cymeradwyaeth ffurfiol y Senedd i ddefnyddio adnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol.
- Cynnig y gyllideb atodol: ceisio cymeradwyaeth ar gyfer newidiadau yn ystod y flwyddyn i gynnig y gyllideb flynyddol.
Fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’i chyllideb ddrafft yn nhymor yr hydref bob blwyddyn. Bydd pwyllgorau, ac eraill sydd â diddordeb, yn craffu ar y gyllideb ddrafft. Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyllideb ddrafft, a bydd y Senedd gyfan yn pleidleisio ar gynnig y gyllideb flynyddol.
Weithiau, bydd Adolygiad o Wariant neu gyhoeddiad Cyllidebol gan y DU yn golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno’i chyllideb yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Amserlen Cyllideb Ddrafft 2021-22
Mehefin 2020 - Y Pwyllgor Cyllid
Ymgynghoriad ar-lein ar flaenoriaethau cyn gosod Cyllideb Ddrafft
Mis Medi i fis Tachwedd 2020 - Dechrau galw am dystiolaeth
Ymgynghoriad y Pwyllgor Cylliad i lywio’r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft yn ddiweddarach ym mhwyllgorau’r Cynulliad
25 Tachwedd 2020 - Adolygiad o wariant y DU
21 Rhagfyr 2020
Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Amlinellol
Bydd cynigion amlinellol yn nodi gwariant strategol lefel uchel, trethiant a chynlluniau cyllidebu Llywodraeth Cymru a naratif cefnogol. Y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt.
21 Rhagfyr 2020
Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Fanwl
Cynigion cyllideb ar gyfer pob portffolio ar lefel Llinell Wariant yn y Cyllideb gyda naratif cefnogol. Pwyllgorau polisi yn craffu arnynt.
04 Chwefror 2021 - Dyddiad cau adrodd pob Pwyllgor
09 Chwefror 2021 - Dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn
02 Mawrth 2021 - Cyhoeddi’r Cyllideb Derfynol
09 Mawrth 2021 - Dadl ar y Gyllideb Derfynol
Mawrth 2021 - Cyhoeddi Cyllideb y DU