Beth yw rôl y Senedd mewn perthynas â threfn gyllido a gwariant Llywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r Senedd am y ffordd y mae'n dyrannu cyllid, yn codi ac yn gwario incwm treth yng Nghymru ac yn rheoli benthyca.

Ymgymerir â swyddogaeth gyffredinol graffu cyllideb yn y Senedd gan  y Pwyllgor Cyllid, gyda phwyllgorau pwnc yn craffu ar eu meysydd pwnc cyfrifoldeb eu hunain.  

Mae gan bwyllgorau rôl hefyd wrth ddal y Llywodraeth i gyfrif am benderfyniadau polisi gyda chanlyniadau ariannol ac unrhyw newidiadau i ddyraniadau cyllidebol a wnaed yn ystod y flwyddyn.  

Swyddogaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw sicrhau bod dulliau priodol a thrylwyr o graffu ar wariant Llywodraeth Cymru.  Mae’r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau a baratowyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ar ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddiwyd adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus. 

Gall y Senedd graffu yn y Siambr trwy gwestiynau neu ddadleuon yr aelodau.