A all Llywodraeth Cymru fenthyg arian?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2020   |   Amser darllen munud

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca cyfyngedig at ddibenion buddsoddi cyfalaf ac at ddibenion rheoli derbyniadau treth ansefydlog.  Mae yna gyfyngiadau ar y swm y gellir ei fenthyca bob blwyddyn.  Y terfynau benthyca cyffredinol tan 1 Ebrill 2018 yw:

  • £500 miliwn ar gyfer gwariant cyfalaf; a 
  • £500 miliwn ar gyfer adnoddau i gyfrif am ansefydlogrwydd refeniw treth.

Cynyddodd y Fframwaith cyllidol bwerau benthyca cyfalaf:​

  • £1 biliwn gyfer gwariant cyfalaf; a 
  • £500 miliwn ar gyfer adnoddau i gyfrif am ansefydlogrwydd refeniw treth.

Yn ogystal, mae gan awdurdodau lleol fynediad i system o fenthyca darbodus ar gyfer prosiectau cyfalaf, o dan Adran 3 Deddf Llywodraeth Leol 2003. Ers 2004 mae gan awdurdodau lleol rwymedigaeth i ddilyn y Cod Benthyca Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, a ddatblygwyd gan CIPFA. 

Mae gan ymddiriedolaethau'r GIG bwerau benthyca hefyd, er nad oes gan Fyrddau Iechyd y GIG y pwerau hynny ar hyn o bryd. Cynhaliwyd ymgynghoriad​ yn y Pedwerydd Cynulliad ynghylch ymestyn pwerau byrddau iechyd yn hyn o beth.