Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27
Cyhoeddwyd 18/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2026
Gwybodaeth am y diagram hwn
Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i archwilio’r dyraniadau Ail Gyllideb Atodol 2026-2027 ar lefelau gwahanol, o bortffolio’r Prif Grŵp Gwariant i lawr i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (y lefel fanylaf sydd ar gael).
Mae’r gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl fel a ganlyn: dyraniadau adnoddau (neu refeniw) ynghyd â dyraniadau cyfalaf (sy'n cynnwys cyfalaf cyffredinol a dyraniadau Cyfalaf Trafodiadau Ariannol), ac eithrio cyllid Gwariant a Reolir yn Flynyddol. Mae maint pob nod yn cael ei raddio yn ôl gwerth y dyraniad a’i gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.
Mae'r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yng Nghyllideb Derfynol ailddatganedig 2026-27, ynghyd â'r newidiadau rhwng y rhain Ail Gyllideb Atodol 2026-2027, mewn termau arian parod a thermau canrannol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan dyraniadau Cyllideb Derfynol 2026-27 er mwyn adlewyrchu'r portffolios gweinidogol newydd ac er mwyn ailddosbarthu cyllidebau adnoddau anghyllidol sydd wedi'u neilltuo yn Wariant a Reolir yn Flynyddol.
O dan 'gweld yr opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canrannol o Gyllideb Derfynol ailddatganedig 2026-27. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth canrannol yn y dyraniad cyllideb. O ran lliwiau’r nodau, coch yw’r lliw ar gyfer gostyngiad a glas yw’r lliw ar gyfer cynnydd gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canrannol mwy.
O dan ‘gweld yr opsiynau’, gellir rheoli’r broses o leoli'r tabl a gweld y cynnwys ar sgrin lawn.