Ystyried y mater o ddatganoli darlledu

Cyhoeddwyd 22/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/03/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 24 Mawrth bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad diweddar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?

Yn ôl Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, “Mae’r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol.” Mae'r Pwyllgor am weld rhagor o bwerau ym maes darlledu yn cael eu datganoli i Gymru, gan gynnwys rôl ffurfiol wrth bennu ffi'r drwydded, a chyfrifoldeb dros y darlledwr Cymraeg, S4C.

Nid yw datganoli darlledu yn fater deuaidd

Ar hyn o bryd, mae “darlledu a chyfryngau eraill” yn fater a gedwir yn ôl, sy'n golygu mai Llywodraeth y DU sydd â'r pŵer i basio cyfreithiau yn y maes hwn. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru wedi cael nifer o rolau ffurfiol ychwanegol, gan gynnwys penodi aelod Cymru o fwrdd Ofcom a chraffu ar ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u gweithgarwch yng Nghymru.

Gwnaeth yr Athro David Hutchison, arbenigwr ar faterion darlledu, ddisgrifio’r esblygiad a welir o ran y modd y dosberthir pŵer a gweithgarwch ym maes darlledu yn y DU fel achos o ddatganoli graddol. O'r safbwynt hwn, nid yw datganoli darlledu bellach yn fater deuaidd; yn hytrach, mae’n fater o raddau. Ym marn y Pwyllgor, felly, nid “a ddylid datganoli darlledu?” yw’r cwestiwn pwysig, ond “faint o ddarlledu y dylid ei ddatganoli?”

Rhoddodd y Pwyllgor gefnogaeth unfrydol i’r syniad o ddatganoli pellach ym maes darlledu, ac i’r syniad o wneud newidiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol. Fodd bynnag, roedd gwahaniaeth barn ymhlith yr Aelodau ynghylch hyd a lled y broses ddatganoli hon.

Ariannu: “Mae angen mwy o ddylanwad ar Gymru mewn trafodaethau ynghylch ffi’r drwydded”

Yr enghraifft fwyaf o ymyrraeth gyhoeddus ym maes darlledu'r DU yw ffi'r drwydded, sy'n ariannu'r BBC ac S4C. Yn 2018-19, gwariwyd cyfanswm o £253.5 miliwn yng Nghymru a gasglwyd drwy ffi’r drwydded (gan gynnwys cynnwys rhwydwaith), sef £69.5 miliwn yn fwy nag amcangyfrif y BBC o’r hyn a gasglwyd yng Nghymru.

Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio ffi’r drwydded i ariannu gweithgarwch ychwanegol, o gyflwyno band eang mewn ardaloedd gwledig i S4C, gan leihau faint o arian sydd ar gael fel arall i’r BBC. Yn fwyaf diweddar, yn 2019, penderfynodd Llywodraeth y DU roi’r gorau i ariannu trwyddedau ar gyfer pobl dros 75 oed a phasio’r cyfrifoldeb dros benderfynu ar ddyfodol y consesiwn hwn i’r BBC.

Effaith gronnus y newidiadau hyn i gyllid y BBC yw toriad termau real o 30 y cant yn y degawd diwethaf mewn cyllid cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau a ddarlledir i gynulleidfaoedd y DU.

Nododd yr Athro Justin Lewis fod y broses o ganoli pwerau darlledu yn Llundain yn golygu bod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud penderfyniadau ynghylch setliad ffi drwydded y BBC y mae Llywodraeth Cymru, yn ôl pob tebyg, wedi’u gwrthwynebu. Roedd ef o blaid yr hyn y gellid ei alw’n ‘fodel ffederal’, lle y byddai gan Gymru bŵer dros ddarlledu, ond y byddai’n defnyddio’r pŵer hwn i wneud penderfyniadau ar y cyd â chenhedloedd eraill y DU am ddarlledu ar lefel y DU.

Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r farn hon mewn perthynas â phennu’r ffi'r drwydded. Ar hyn o bryd, mae ffi’r drwydded yn cael ei phennu gan Lywodraeth y DU yn dilyn trafodaethau gyda'r BBC ac S4C. Ym marn y Pwyllgor, byddai’n well pe bai hyn yn cael ei wneud gan gomisiwn annibynnol, yn cynnwys cynrychiolaeth benodol o Gymru.

Rheoleiddio: a fydd darlledwyr yn talu mwy am adnodd y mae ei werth wedi lleihau?

Mae cyllid uniongyrchol, fel sy’n digwydd drwy ffi’r drwydded, yn un llwybr posibl ar gyfer sicrhau cynnwys i Gymru ar y cyfryngau. Llwybr arall yw sefyllfa lle mae’r wladwriaeth yn darparu adnodd prin (slot chwenychedig ar y canllaw rhaglenni electronig, er enghraifft, neu donfedd ddarlledu) i ddarlledwr masnachol (fel ITV neu radio masnachol) yn gyfnewid am swm penodol o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus (megis newyddion lleol).

Yn ddiweddar, gwelwyd tuedd tuag at ddadreoleiddio. Mae hyn yn adlewyrchu gwerth masnachol llai llwyfannau wedi’u rheoleiddio (fel teledu a radio a ddarlledir) mewn byd cystadleuol o lwyfannau ar-lein nad ydynt wedi’u rheoleiddio. Yn 2009, llaciodd Ofcom ofynion ITV mewn perthynas â Chymru a’r drwydded ar gyfer Sianel 3. Yn fwy diweddar, mae Ofcom, dan gyfarwyddyd Llywodraeth y DU, wedi bod yn llacio’r amodau ar gyfer trwyddedau radio masnachol.

Y cwestiwn i unrhyw un sy'n ceisio sicrhau mwy o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus drwy reoleiddio yw hyn: a fyddai darparwyr masnachol, yn y bôn, yn talu mwy am adnodd wedi’i reoleiddio?

Roedd Cymdeithas yr Iaith o’r farn y byddai’r darparwyr yn fodlon gwneud hyn, gan ddweud wrth y Pwyllgor ei bod yn “gyffredin iawn ar draws y byd fod yna reoliadau am ieithoedd lleiafrifol yng nghyd-destunau fel Gwlad y Basg a Catalwnia.” Anogodd y Gymdeithas y Pwyllgor “i beidio â gwrando ar y cyfalafwyr sydd ond yn poeni am elw.”

Fodd bynnag, dywedodd Martin Mumford o Nation Radio fod gweithredwyr masnachol yn cymryd yr opsiwn hawsaf, gan nodi y gallai darlledwyr adael y wlad os yw radio masnachol yng Nghymru yn destun rheoleiddio pellach.

Tynnodd Aelodau’r Pwyllgor sylw at sawl maes lle’r oeddent yn teimlo bod angen rheoleiddio pellach, a lle gallai'r farchnad ddygymod ag ef. Mae ITV yn gwario llai o arian ac yn cynhyrchu llai o oriau o gynnwys rhwydwaith yng Nghymru yn gyson o gymharu â’r holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Felly, roedd y Pwyllgor am weld Llywodraeth Cymru yn cael rôl newydd wrth gyfrannu at delerau'r drwydded nesaf ar gyfer Sianel 3, a ddylai gynnwys gofyniad bod ITV yn cynhyrchu mwy o gynnwys rhwydwaith yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, nid oes gan Ofcom bwerau i’w gwneud yn ofynnol i ddeunydd penodol, fel gofynion Cymraeg, gael ei gynnwys mewn fformatau radio masnachol. Mae ymgyrchwyr yn teimlo bod hyn wedi arwain at leihau cynnwys Cymraeg ar radio masnachol. Cytunodd y Pwyllgor â’r safbwynt hwn, gan alw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i gorff rheoleiddio fynnu cynnwys Cymraeg mewn trwyddedau radio masnachol, a hynny gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru unwaith eto.

S4C: “sefyllfa anarferol” nad yw pwerau dros ddarlledu Cymraeg yn gorwedd yng Nghymru

Mae'r darlledwr Cymraeg, S4C, yn gweithredu yn unol â chylch gwaith sy’n cael ei bennu gan Lywodraeth y DU, sydd â dyletswydd statudol i sicrhau bod S4C yn cael cyllid “digonol”. Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn “sefyllfa anarferol” bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain, yn hytrach na’r wlad ble y mae’r iaith sydd i’w chlywed yng nghynnwys y sianel yn cael ei siarad i raddau helaeth.

Ym marn y Pwyllgor, dylid datganoli pwerau dros S4C (fel pennu cylch gwaith ar gyfer y darlledwr, ac atebolrwydd parhaus) a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus iaith Gymraeg.

A ddylai Llywodraeth Cymru fod yn dweud, 'A wnewch chi plîs gofio am Gymru?’

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’n gyson y cam o ddatganoli darlledu. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wrth y Pwyllgor yn 2017 mai rôl bolisi Llywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwn oedd sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o anghenion Cymru yn unrhyw un o’i phenderfyniadau yn yr holl faes hwn.

Fodd bynnag, yn 2018, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i radio yng Nghymru, dywedodd: “Nid ydw i'n hoff o'r syniad yma mai swydd Gweinidogion y Goron yng Nghymru ydy mynd, â'n capiau yn ein dwylo neu ein capiau ar ein pennau neu le bynnag, i ofyn i Weinidogion DCMS, 'A wnewch chi plîs gofio am Gymru?'” Yn lle hynny, roedd yn teimlo mai’r dull cywir oedd sicrhau bod gan Gymru “gynrychiolaeth statudol gadarn yng nghyrff rheoleiddio y Deyrnas Unedig”. Yn achos Ofcom a’r BBC, roedd yn teimlo bod gan Gymru hyn.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ofcom i nodi sut y gellir gwella’r cynnwys a ddarperir ar y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru. I ba raddau y bydd datganoli pellach ym maes darlledu yn rhan o'r ateb i hyn?


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru