Ystadegau arbrofol swyddogol ar gyfer derbyniadau treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Cymru yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd 15/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Hydref 2013 Ar 2 Hydref 2013 cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ystadegau arbrofol swyddogol a oedd yn dangos Gwahaniaeth rhwng Derbyniadau Treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyma’r tro cyntaf i ystadegau swyddogol gael eu cyhoeddi ar gyfer Cymru , gan adeiladu ar amcangyfrifon derbyniadau treth Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Holtham  a rhan 1 o waith Comisiwn Silk a oedd yn ymdrin â phwerau ariannol. Cafodd yr ystadegau eu cyhoeddi gan ddefnyddio dwy fethodoleg i adlewyrchu ansicrwydd o ran dyrannu rhai trethi.  Mae’r fethodoleg ddaearyddol yn dyrannu refeniw o Dreth Gorfforaethol ar y môr a Threth Refeniw Petrolewm ar gyfer refeniw nwy ac olew Môr y Gogledd i Loegr a’r Alban fesul maes. Mae dull y boblogaeth yn dyrannu refeniw o’r ddwy dreth hyn yn ôl cyfran poblogaeth y DU pob cenedl.   Ychydig o effaith y mae hyn yn ei gael ar dderbyniadau treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Fodd bynnag, pe bai derbyniadau ar gyfer y ddwy dreth hyn yn cael eu dyrannu ar sail ddaearyddol byddai derbyniadau’r Alban yn cynyddu.    Fel canran o dderbyniadau treth y DU, mae’r swm a gynhyrchir yng Nghymru wedi aros oddeutu 3.5% rhwng 1999-2000 a 2012-13. Yn 2012-13, gan ddefnyddio’r ddwy fethodoleg, cafodd 3.5% o dderbyniadau treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi y DU eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae hyn, mewn gwirionedd ychydig yn is na’r 3.6% a gynhyrchwyd yn 1999-2000. Mewn cymhariaeth, mae amcangyfrifon poblogaeth canol 2012 y Swyddfa Ystadegau Gwladol  yn dangos bod poblogaeth Cymru yn 4.8% o gyfanswm y DU. Gellir gweld o ffigur 1 bod:
  • Cyfanswm derbyniadau treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi codi o £10.5 biliwn yn 1999-2000 i £16.3 biliwn yn 2012-13 os cymerir agwedd ddaearyddol tuag at neilltuo derbyniadau o Dreth Gorfforaethol ar y môr a Threth Refeniw Petrolewm.
  • Os cymerir agwedd sy’n seiliedig ar y boblogaeth tuag at y ddwy dreth y cyfeirir atynt uchod, mae cyfanswm derbyniadau treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi codi o £10.6 biliwn yn 1999-2000 i £16.7 biliwn yn 2012-13.
Gan ddefnyddio’r ddwy fethodoleg, gostyngodd derbyniadau treth sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru rhwng 2007-08 a 2009-10, cyn dechrau cynyddu eto o 2010-11. Mae hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa economaidd ar y pryd. Ffigur 1: Derbyniadau treth Cymru gan ddefnyddio methodolegau daearyddol a methodolegau sy’n seiliedig ar y boblogaeth, 1999-2000 hyd at 2012-13 (mewn £ biliwn) HMRC tax receipts Cymraeg Ffynhonnell: Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Gwahaniaeth rhwng Derbyniadau Treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon: Tabl ystadegau Gan ddefnyddio’r ddau ddull o neilltuo Treth Gorfforaethol ar y môr a Threth Refeniw Petrolewm, cyfanswm derbyniadau treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Cymru dyfodd leiaf o genhedloedd y DU rhwng 1999-2000 a 2012-13. Os defnyddir y fethodoleg ddaearyddol, yr Alban oedd â’r cynnydd mwyaf yng nghyfanswm derbyniadau treth yn ystod y cyfnod hwn, ond os defnyddir y fethodoleg sy’n seiliedig ar y boblogaeth, Gogledd Iwerddon oedd â’r cynnydd mwyaf. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi amcangyfrifon o dderbyniadau treth Cymru ar gyfer trethi unigol yn 2012-13, a’r derbyniadau hyn fel canran o dderbyniadau’r DU.  Gellir gweld yr hyn a ganlyn: ¡    Y trethi a gynhyrchodd y cyfanswm mwyaf o dderbyniadau o Gymru oedd treth incwm (£4.8 biliwn), Treth Ar Werth (£4.2 biliwn) a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (£3.7 biliwn). ¡    Fodd bynnag, roedd derbyniadau Cymru o dreth incwm yn cyfrannu at 3.1% o dderbyniadau’r DU, gyda TAW a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cynnwys 4.1% a 3.6% o dderbyniadau’r DU yn ôl eu trefn. ¡    Roedd y trethi lle’r oedd derbyniadau o Gymru yn cyfrannu’r ganran fwyaf o dderbyniadau’r DU i gyd yn drethi gyda derbyniadau cymharol fach; sef yr Ardoll Agregau (8.2%), Tollau Seidr (8.0%) a’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (5.5%). Gellir ystyried y derbyniadau treth hyn hefyd yng nghyd-destun yr argymhellion gan adroddiad Comisiwn Silk ar bwerau ariannol. Ar sail yr argymhellion hyn, gallwn amcangyfrif faint o refeniw sy’n cael ei godi ar hyn o bryd o drethi a argymhellwyd eu bod yn cael eu datganoli’n llawn i Lywodraeth Cymru.  Yn 2012-13, codwyd £139 miliwn o Dreth Tir y Dreth Stamp, £50 miliwn o Dreth Tirlenwi a £22 miliwn o’r Ardoll Agregau . O ran yr argymhellion ar gyfer datganoli rhannau o Dreth Incwm a Tholl Teithwyr Awyr nid ydym wedi gallu amcangyfrif faint o gyfanswm y refeniw a godwyd a fyddai’n cael ei godi gan Lywodraeth Cymru. Gan fod yr ystadegau hyn yn parhau i fod yn y cyfnod datblygu, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ymgynghori ymhellach â defnyddwyr o fewn mis o’u cyhoeddi.   Dylai unrhyw un a hoffai fod yn rhan o’r ymgynghoriad gysylltu â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Erthygl gan Gareth Thomas