Ystad y Goron: Pigion

Cyhoeddwyd 24/03/2025   |   Amser darllen munudau

Cyn y ddadl yn y Senedd ar Ystad y Goron (25 Mawrth), rydym ni’n rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir ac yn tynnu sylw at ein herthyglau blaenorol yn yr erthygl Pigion hon ar Ystad y Goron.

Casgliad o asedau morol a thir a daliadau sy'n eiddo i'r Brenin neu Frenhines sy'n teyrnasu yw Ystad y Goron. Mae’n cynnwys gwely'r môr allan i 12 môr-filltir, sef tua 65% o flaendraeth a gwely afonydd Cymru, a nifer o borthladdoedd a marinas. Ar y tir, mae Ystad y Goron yn berchen ar 50,000 erw o dir comin yng Nghymru.

Defnyddir y term "Ystad y Goron" hefyd ar gyfer y corff sy'n gweinyddu'r ystad, a sefydlwyd gan Ddeddf Ystad y Goron 1961 ac a gaiff ei harwain gan Gomisiynwyr Ystad y Goron. Mae'n annibynnol ar y llywodraeth a'r Brenin gyda swyddogaeth gyhoeddus i:

  • rheoli asedau eiddo penodol y mae’r Brenin yn berchen arnynt, a buddsoddi ynddynt; a
  • rhoi ei warged refeniw bob blwyddyn i gronfa gyfunol y DU.

Yn wahanol i Gymru, mae'r cyfrifoldeb am reoli asedau Ystad y Goron yn yr Alban wedi'i ddatganoli.

Sefydlodd Deddf Ystad y Goron yr Alban 2019 corff Ystad y Goron yr Alban yn ffurfiol i reoli Asedau Ystad y Goron yn yr Alban ar ran Gweinidogion yr Alban.

Mae’n rhoi dyletswyddau penodol ar Ystad y Goron yr Alban i reoli’r asedau hyn yn yr Alban ar ran Gweinidogion yr Alban yn unol â pholisi ac egwyddorion Llywodraeth yr Alban, megis datblygu cynaliadwy.

Argymhellodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylid creu grŵp arbenigol newydd i gynghori ar opsiynau ar gyfer datganoli Ystad y Goron i Gymru (ymhlith pethau eraill).

Croesawodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad o ran y grŵp arbenigol, gan ddweud y dylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru yn yr un modd â’r sefyllfa yn yr Alban.

Mae ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i “fynd ar drywydd datganoli’r pwerau sydd eu hangen i’n helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystad y Goron yng Nghymru”.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer Ystad y Goron yng Nghymru yn dangos iddi gynhyrchu refeniw o £8.7 miliwn yn 2020-21. Refeniw Ystad y Goron y DU oedd £1.6 biliwn yn 2023-24, o gymharu â £738.7 miliwn yn 2022-23 a’i helw sylfaenol oedd £1.5 biliwn, o gymharu â £643.1 miliwn yn 2022-23.

Yn ddiweddar nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylid datganoli’r cyfrifoldeb am reoli Ystad y Goron i Gymru, a nododd “pa mor bwysig yw creu amgylchedd sefydlog i sicrhau ein bod yn manteisio ar gyfleoedd gwynt ar y môr” fel un o fanteision posibl datganoli cyfrifoldeb.

Ym mis Chwefror 2024, lansiodd Ystad y Goron Rownd 5 y broses Prydlesau Gwynt ar y Môr, y disgwylir iddi arwain at adeiladu 260 o dyrbinau gwynt yn y Môr Celtaidd oddi ar arfordir de Cymru a de-orllewin Lloegr. Rhagwelir y bydd hyn darparu 4.5GW o gapasiti, sef digon i bweru mwy na 4 miliwn o gartrefi

Ym mis Gorffennaf 2024, cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil Ystad y Goron, sydd â’r nod o foderneiddio gweithrediad Ystad y Goron.

Bydd y Bil yn creu comisiynwyr â chyfrifoldeb arbennig, y mae’n rhaid iddynt gynnwys comisiynydd sy’n gyfrifol am roi cyngor yn ymwneud â Chymru mewn perthynas â gweithrediad Ystad y Goron. Rhaid i Lywodraeth y DU ymgynghori â Gweinidogion Llywodraeth Cymru cyn penodi’r comisiynydd.

Cafodd gwelliant i Fil Ystad y Goron a oedd yn ceisio datganoli rheolaeth dros Ystad y Goron yng Nghymru i Gymru ei wrthod yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Bil Aelod Preifat, sef Bil Ystad y Goron (Cymru), wedi cael ei gyflwyno ac wedi cyrraedd y cyfnod craffu gan bwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi erbyn hyn.

Nod y Bill yw trosglwyddo cyfrifoldeb am Ystad y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac at ddibenion cysylltiedig.

Ers etholiad cyffredinol 2024, bu trafodaethau pellach yn y Senedd am y posibilrwydd o ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron i Gymru. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth y DU o blaid datganoli Ystad y Goron, gan nodi ei bod am ganolbwyntio yn lle hynny ar fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir i Gymru gan ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.

I ddysgu mwy am Ystad y Goron, darllenwch ein herthygl ymchwil o 2021, a gallwch hefyd wylio'r ddadl ar senedd.tv.


Pigion gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru