Y Senedd i drafod deiseb newydd ynghylch carthu Hinkley Point

Cyhoeddwyd 19/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ddydd Mercher 21 Hydref, bydd y Senedd yn trafod deiseb yn galw i Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) gael ei gynnal cyn i ragor o ddeunydd carthu o Hinkley Point gael ei waredu ar safle gwaredu Cardiff Grounds.

Mae Pwyllgor Deisebau’r Senedd wedi trafod yn fanwl ddeiseb sy’n ymwneud â'r safle hwn a'r gweithgarwch yno. Roedd y prif bryder yn ymwneud â chyfansoddiad y deunyddiau sy'n cael eu carthu a'u gwaredu. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad o'i drafodaethau y cynhaliwyd dadl yn eu cylch yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018. Gellir darllen crynodeb o’r adroddiad mewn erthygl blog flaenorol gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Cynigion newydd

Fel rhan o waith adeiladu gorsaf ynni niwclear newydd Hinkley Point C, mae EDF Energy yn cynllunio ail gam o garthu llaid a gwaddod o flaendraeth Gwlad yr Haf yn Lloegr er mwyn gosod seilwaith oeri dŵr yr orsaf ynni.

Mae EDF yn bwriadu cyflwyno cais am drwydded forol newydd i waredu'r gwaddod morol a garthwyd i safle gwaredu dynodedig sefydledig oddi ar arfordir Caerdydd, o'r enw Cardiff Grounds.

Yn flaenorol, bu EDF yn carthu ac yn gwaredu gwaddod yn 2018. Mae’r gwaith arall ar y safle, i garthu a gwaredu 470,000m3 arall,yn yr arfaeth ar gyfer dechrau 2021. Cyn y gall hyn ddigwydd, bydd ar EDF angen i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gymeradwyo cynllun samplu gwaddod a rhoi trwydded forol.

Mae CNC ac EDF wedi dechrau trafodaethau cyn ymgeisio, gyda'r canlyniadau nodedig a ganlyn hyd yn hyn:

  • Mehefin 2020 - Rhoddodd CNC ei gyngor cyn ymgeisio i EDF (PDF 954KB) ynghylch cynnwys y cynllun samplu a’i gydymffurfedd â chanllawiau rhyngwladol;
  • Awst 2020 – Cyflwynodd EDF ei gynllun samplu terfynol i’w gymeradwyo gan CNC;
  • Medi 2020 – Hysbysodd CNC EDF fod ei gynllun samplu wedi'i gymeradwyo.

O gofio’r dadleuon ynghylch gwaredu gwaddod o’r blaen, mae CNC yn dweud ei fod yn cydnabod bod pobl hefyd yn poeni am y cynllun gwaredu newydd a'i fod:

…am hysbysu, cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl wrth inni asesu a ellir cynnal y gwaith gwaredu. Rydym hefyd yn deall bod EDF yn bwriadu gwneud ei waith cyfathrebu ac ymgysylltu ei hun.

Mae CNC yn tynnu sylw at ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos a gynhaliwyd rhwng 5 Chwefror a 18 Mawrth 2020, a roddodd y “cyfle i bobl wneud sylwadau ar gynllun samplu arfaethedig EDF”. Cafwyd 151 o ymatebion, ac mae CNC yn dweud ei fod wedi’u defnyddio i ategu'r cyngor cyn ymgeisio i EDF.

Samplu gwaddod

Mae’n ofynnol i EDF gynnal asesiad cemegol a radiolegol o'r gwaddod yn y lleoliadau carthu, i ddarganfod a yw'n addas i'w waredu yn y môr.

Mae CNC wedi cymeradwyo (PDF 187KB) nifer, lleoliad a dyfnder y samplau i'w cymryd, yr hyn sydd i'w fesur, a sut y bydd EDF yn profi'r gwaddod. Ystyriodd hefyd a oedd yn cydymffurfio â’r canllawiau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol dan Gonfensiwn OSPAR a gweithdrefn a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (AYAR).

Mae CNC yn dweud ei fod yn “fodlon bod y samplu a'r dadansoddi yn briodol i gefnogi cais am drwydded forol”.

Trwyddedau morol

Bydd angen tair trwydded forol benodol ar EDF ar gyfer gweithgareddau yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Mae angen dwy drwydded gan y Sefydliad Rheoli Morol (SRhM) yn Lloegr. Yn gyntaf, er mwyn casglu samplau ar y safleoedd carthu yn Hinkley Point C. Bydd y samplau gwaddod hyn wedyn yn cael eu profi'n annibynnol ar gyfer deunydd cemegol a radiolegol gan Ganolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas). Mae’r ail drwydded forol ar gyfer cynnal y broses o garthu'r gwaddod, os bernir ei fod yn ddiogel i'w waredu yn y môr yn dilyn profion.

At hynny, mae angen i EDF gael trwydded forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i waredu'r gwaddod yn nyfroedd Cymru. Bydd y cais yn cynnwys canlyniadau'r profion gwaddod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi’r canlynol:

Rydym ond yn rhoi trwyddedau os ydym yn fodlon y gall y gweithgaredd gael ei gynnal heb niweidio iechyd pobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol

Mae ceisiadau am drwydded forol yn cael eu hasesu ar gyfer yr effeithiau tebygol ar yr amgylchedd. Os gall yr effeithiau hyn gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, mae’n rhaid cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) cyn gwneud penderfyniad ar drwydded.

Mae'r gofyniad ar gyfer Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol wedi'i nodi yn Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) 2007 (fel y'u diwygiwyd). Mae'r Rheoliadau'n cynnwys rhestrau o brosiectau yr ystyrir eu bod yn cael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd a fydd bob amser yn gofyn AEA (prosiectau Atodlen A1), a phrosiectau sy'n gofyn asesiad o'r effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd (prosiectau Atodlen A2), gan ddefnyddio meini prawf a nodir yn y Rheoliadau.

Os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch pa atodlen y mae prosiect yn perthyn iddi, gellir gofyn am farn sgrinio. Mae hyn yn cyfarwyddo CNC i asesu cais (yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau priodol) o ran a yw'r prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

Ar 14 Awst, cafodd CNC gais am farn sgrinio gan EDF i ystyried a fydd angen AEA fel rhan o'r cais newydd am drwydded forol.

Fodd bynnag, ar 2 Hydref, cyhoeddodd EDF ei fwriad i gynnal AEA llawn fel rhan o'i gais am drwydded gwaredu morol a thynnodd yn ôl yn ffurfiol ei gais am farn sgrinio AEA gan CNC. Dywedodd EDF y canlynol:

…wants to reassure the public of the safety of this activity and has listened carefully to the concerns and questions that were raised during the first phase of dredging activities.

… believe[s] it is right to go beyond technical arguments to provide the necessary public confidence that all concerns have been addressed.

Ar 12 Hydref, cadarnhaodd CNC gydag EDF y bydd angen AEA ar gyfer y cais am drwydded forol. Gwnaed y penderfyniad hwn yn unol â Rheoliadau Gwaith Morol (AEA) 2007 a gelwir hyn yn 'ofyniad AEA drwy gytundeb'.

Y camau nesaf

Mae CNC wedi darparu llinell amser ar gyfer camau nesaf y cais am drwydded forol:

  • Diwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr 2020 – cyflwyno cais EDF am drwydded forol i CNC;
  • Dechrau 2020 – ymgysylltu ac ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y cais am drwydded forol;
  • 2021 – Penderfyniad CNC ar y cais am drwydded forol.

Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru