Llun o weithwyr yn y swyddfa

Llun o weithwyr yn y swyddfa

Yr wythnos pedwar diwrnod – rhan o fywyd gwaith Cymru yn y dyfodol?

Cyhoeddwyd 09/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae llawer ohonom wedi gweld newidiadau i’r ffordd rydym yn gweithio dros y blynyddoedd diwethaf, o ddyfodiad gweithio o bell a hybrid i gynnydd mewn awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. Un o'r awgrymiadau sy'n cael ei drafod yn fwyaf ffyrnig ar gyfer newid pellach yw symud i wythnos waith pedwar diwrnod.

Yn gynharach eleni, argymhellodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd (ac eithrio un Aelod) y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cynllun peilot wedi’i dargedu ar gyfer wythnos pedwar diwrnod. Daeth i’r casgliad na ddylai hynny arwain at weithwyr yn colli cyflog, ac y byddai’n cael ei weithredu’n fwyaf effeithiol mewn rhai rhannau o’r sector cyhoeddus datganoledig. Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 10 Mai.

Pa faterion allweddol sydd angen eu hystyried wrth asesu rhinweddau wythnos pedwar diwrnod?

Mae ein herthygl flaenorol ar y pwnc hwn yn edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn wythnos pedwar diwrnod. Mae eiriolwyr wythnos pedwar diwrnod yn dadlau y byddai’n cynnig ystod eang o fanteision. Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol 4 Day Week Global, Joe O'Connor wrth y Pwyllgor Deisebau:

…reduced work time can lead to improved worker well-being, reduced burnout, reduced stress, and it’s something that can be really transformative in terms of work-life balance for employees when it comes to being able to spend more time with family, in the community, learning new hobbies, new skills and so on.

Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor hefyd am amrywiaeth o heriau o ran symud i wythnos pedwar diwrnod. Ceir cytundeb helaeth ynghylch anawsterau rhoi wythnos pedwar diwrnod ar waith mewn rhai sectorau, fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a lletygarwch. Awgrymodd Shavanah Taj o TUC Cymru y gallai fod blaenoriaethau mwy uniongyrchol i fynd i'r afael â hwy yn y sectorau hyn, a bod targedu cynlluniau peilot at y sectorau cywir yn arbennig o bwysig.

Mae consensws ar y ddwy ochr i’r ddadl bod angen newidiadau i'r sefyllfa sydd ohoni, yn enwedig mewn perthynas â lleihau gorweithio a chynnig mwy o drefniadau gweithio hyblyg. Fodd bynnag, mae safbwyntiau gwahanol am y ffordd orau o'u cyflawni.

Mae’r Athro Abigail Marks o Brifysgol Newcastle yn dadlau, os na all pobl reoli eu gwaith mewn wythnos bum niwrnod oherwydd eu bod yn gorweithio, yna ni fyddant yn ei reoli mewn wythnos pedwar diwrnod. Er bod y felin drafod Autonomy yn cytuno bod angen newid sefydliadol ac arweinyddiaeth i fynd i'r afael â gorweithio, mae'n dadlau bod angen i hyn ddod ochr yn ochr ag wythnos waith fyrrach.

Roedd y rhai sydd o blaid yr wythnos pedwar diwrnod yn dweud bod angen edrych ar wythnos waith fyrrach mewn ffordd hyblyg. Dywedodd Mark Hooper, a ddaeth â’r ddeiseb i’r Senedd, pan gyflwynodd wythnos pedwar diwrnod yn IndyCube, y byddai rhai pobl yn gweithio pum diwrnod byrrach tra byddai eraill yn cymryd un diwrnod i ffwrdd bob wythnos. Yn groes i hyn, dywedodd Cheney Hamilton o Find Your Flex, sefydliad gweithio hyblyg, ei fod yn credu bod wythnos pedwar diwrnod yn cynnug un datrysiad i bawb, a bod angen mwy o hyblygrwydd a chynwysoldeb i ddiwallu anghenion pobl.

Beth yw’r datblygiadau diweddaraf y tu hwnt i Gymru?

I ddechrau, treialodd cwmnïau unigol wythnos pedwar diwrnod yn Seland Newydd a Japan, tra y treialwyd diwrnod chwe awr yn Sweden ac fe wnaeth sefydliadau sector cyhoeddus yng Ngwlad yr Iâ leihau eu hwythnos waith. Yn fwy diweddar, mae 4 Day Week Global, sefydliad dielw sy’n ymgyrchu am wythnos pedwar diwrnod, wedi sefydlu nifer o gynlluniau peilot yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cynhaliodd 4 Day Week Global dreial chwe mis yn y DU gyda 61 o gyflogwyr rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2022. Roedd dau gyflogwr o Gymru yn rhan o’r peilot hwn – Cartrefi Cymoedd Merthyr a Comcen, cwmni TG o Abertawe. Mae gwerthusiad y peilot gan Autonomy wedi canfod:

  • O'r 61 cwmni, penderfynodd 56 ohonynt i barhau ag wythnos pedwar diwrnod yn dilyn y peilot, a dewisodd 18 o'r rhain i wneud hyn yn newid parhaol;
  • Roedd manteision i lesiant gweithwyr, gyda 39 y cant o weithwyr yn dweud eu bod yn teimlo dan lai o straen, a 71 y cant wedi gorflino llai ar ddiwedd y treial; a
  • Dywedodd y gweithwyr ei bod yn haws cydbwyso gwaith ag ymrwymiadau teuluol a chymdeithasol.

Yn y sector cyhoeddus, dechreuodd Cyngor Dosbarth De Swydd Gaergrawnt dreial wythnos pedwar diwrnod ar gyfer eu staff desg ym mis Ionawr, yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae adrodd ar ganfyddiadau'r treial yn argymell ymestyn y treial ar gyfer staff desg tan fis Mawrth 2024 i asesu’r effaith ar recriwtio a chadw staff, a chymeradwyo treial tri mis ar gyfer staff rheoli cyfleusterau.

Dywedodd y Cyngor fod perfformiad ar draws metrigau allweddol a boddhad cwsmeriaid wedi cael ei gynnal drwy'r cyfnod prawf, a bod sgorau mewn arolwg iechyd a llesiant staff wedi gwella'n sylweddol ers dechrau'r treial.

Yn Sbaen, mae'r llywodraeth yn derbyn ceisiadau gan fusnesau bach a chanolig ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn treial wythnos pedwar diwrnod a fydd yn para am o leiaf dwy flynedd. Fel rhan o’r treial hwn, bydd o leiaf 25-30 y cant o weithwyr cwmni yn gweithio o leiaf 10 y cant yn llai o oriau ar eu cyflog llawn, a bydd Llywodraeth Sbaen yn digolledu cyflogwyr yn rhannol ac yn talu costau llunio cynlluniau gwaith newydd.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gronfa o £10 miliwn i ganiatáu i gwmnïau dreialu wythnos pedwar diwrnod, ond nid yw hyn wedi dechrau eto. Mae hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun peilot pedwar diwrnod yr wythnos yn y sector cyhoeddus.

A allai Cymru adeiladu ar y datblygiadau hyn?

Mae'r rhai sy'n cefnogi cynllun peilot pedwar diwrnod yng Nghymru wedi galw’n bennaf am ddatblygu cynllun o’r fath yn y sector cyhoeddus datganoledig.

Mae adroddiad gan Autonomy, a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn dweud mai dyma sydd yn cyd-fynd orau â phwerau datganoledig Llywodraeth Cymru, a hynny oherwydd y gyfran gymharol uchel o weithwyr a gyflogir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn yr un modd, dywedodd Shavanah Taj:

…running a four-day week pilot in the devolved public sector is going to be a really good opportunity for us to learn more about what we could achieve for workers in Wales, as long as this is done in consultation with the recognised unions, and takes into account some of the agreements that already exist around condensed working hours.

Dywedodd Joe O'Connor hefyd y gallai treial yng Nghymru archwilio sut mae wythnos pedwar diwrnod yn cysylltu â pholisïau eraill Cymru gyfan i fynd i’r afael â heriau fel cydraddoldeb rhywiol, cynaliadwyedd, recriwtio a llesiant gweithwyr. Byddai hyn yn adeiladu ar dreialon presennol, sy'n tueddu i ganolbwyntio ar weithwyr a chwmnïau unigol.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, er mwyn adeiladu ar y treialon sector preifat sy’n cael eu cynnal yn y DU ac yn rhyngwladol, y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun peilot ar gyfer oriau gwaith byrrach yn y sector cyhoeddus datganoledig. Dylai'r cynllun peilot hwn anelu at sicrhau bod cynhyrchiant yn cael ei gynnal o leiaf, ac na ddylai arwain at weithwyr yn colli cyflog. Wrth ddatblygu cynllun peilot, byddai angen i Lywodraeth Cymru a phartneriaid cymdeithasol fynd i’r afael â materion fel hyblygrwydd a chanlyniadau anfwriadol posibl fel gorweithio, a nodi cynlluniau i fynd i’r afael â heriau ymarferol.

A fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun peilot yng Nghymru?

Rhaid i ni aros i weld. Mae eisiau i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, lle mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig ac undebau llafur ar faterion gweithlu, edrych ar y mater hwn yn fanylach. Bwriad Llywodraeth Cymru yw i weithgor adrodd i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Tachwedd 2023, a bydd yn penderfynu a ddylid cefnogi cynllun peilot ar ôl hyn.

Gallwch wylio dadl y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru