Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu diddordeb o'r newydd yn yr amgylchiadau lle gallai cleifion groesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr am driniaeth GIG - a rhywfaint o ddryswch yn eu cylch.
Yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym mis Medi, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, bartneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ostwng rhestrau aros ar y ddwy ochr i’r ffin.
Disgrifiodd rhai adroddiadau cyfryngau hyn fel menter newydd wedi'i thargedu, lle gallai cleifion o Gymru gael triniaeth y GIG yn Lloegr, ac i’r gwrthwyneb, er mwyn lleihau rhestrau aros mewn rhai arbenigeddau.
Fodd bynnag, yn dilyn hynny, eglurodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS, nad oes unrhyw gynlluniau i brynu capasiti gan y GIG yn Lloegr ar hyn o bryd. Nododd:
nid yw'r un ohonom ni wedi dweud y byddwn ni'n prynu capasiti gan y GIG yn Lloegr. Efallai y byddwn ni'n gwneud hynny ar ryw adeg, ond nid ydym ni erioed wedi ei ddweud ar lafar; pobl sy'n dehongli hynny i ni.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog fod llif cleifion trawsffiniol eisoes yn nodwedd sylweddol o’r system bresennol rhwng y ddwy wlad.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar y trefniadau ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, a beth mae hyn yn ei olygu i gleifion lle mae gwahaniaethau o ran polisïau rhwng y GIG yng Nghymru a Lloegr.
Pam mae cleifion yn croesi'r ffin am ofal iechyd?
Mae cleifion yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr am sawl rheswm:
Mae diffyg darpariaeth yn ardal y claf yn ffactor allweddol. Nid oes gan rai ardaloedd, yn enwedig ardaloedd gwledig fel Powys, y sylfaen boblogaeth angenrheidiol i gefnogi ysbytai mawr neu ganolfannau arbenigol. Efallai y bydd angen i gleifion o’r ardaloedd hyn deithio ymhellach – gan gynnwys dros y ffin – i gael triniaeth. I lawer o gleifion mewn ardaloedd ar y ffin, gall fod yn llawer mwy cyfleus cael mynediad at wasanaethau yn y wlad gyfagos. Er enghraifft, mae llawer o drigolion Powys yn cael gofal ysbyty mewn dinasoedd yn Lloegr fel Amwythig neu Gaer.
Yn 2023-24, derbyniwyd 60,000 o drigolion Cymru i ysbytai yn Lloegr. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 7,300 o drigolion Lloegr ofal ysbyty yng Nghymru.
Mewn gofal sylfaenol, gall cleifion sy'n byw mewn ardaloedd ar y ffin ddewis cofrestru â meddyg teulu mor agos at eu cartrefi â phosibl, hyd yn oed os nad yw hynny yn y wlad y maent yn byw ynddi.
Ym mis Ebrill 2024, roedd 13,300 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, ac roedd mwy na 21,100 o drigolion Lloegr wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.
Beth mae gan gleifion hawl iddo?
Mae'r hawliau a'r safonau y gall cleifion eu disgwyl yn amrywio yn dibynnu ar eu statws preswylio, lleoliad eu meddyg teulu a lle maent yn cael triniaeth.
Yn Lloegr, mae gan gleifion yr hawl i ddewis i ba ysbyty y bydd eu meddyg teulu yn eu hanfon. Mae hyn hefyd yn berthnasol i drigolion Cymru sydd yn byw mewn ardaloedd ar y ffin ac sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr. Mae'r hawl gyfreithiol hon yn caniatáu i gleifion ddewis unrhyw ysbyty yn Lloegr sy'n cynnig triniaeth addas sy'n cyrraedd safonau ac o fewn costau'r GIG.
Nid yw'r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o roi'r dewis i gleifion, ond mae'n ceisio darparu gwasanaethau yn agos at gartref y claf pan fo hynny'n bosibl. O dan brotocol blaenorol, byddai trigolion o Loegr sydd â meddyg teulu yng Nghymru yn cael eu hatgyfeirio'n awtomatig am driniaeth yng Nghymru.
Yn y Datganiad o werthoedd ac egwyddorion yn 2018 amlinellwyd safonau clir ar gyfer gofal trawsffiniol. Nod y datganiad oedd mynd i'r afael â phryderon nad oedd hawliau cleifion o Loegr yn cael eu cynnal o dan Gyfansoddiad GIG Lloegr, fel dewis y claf o ysbyty, a’r hawl i gael triniaeth o fewn amseroedd aros targed GIG Lloegr. Mae’r sefyllfa yn parhau o hyd i drigolion Cymru sydd â meddyg teulu yng Nghymru: nid oes ganddynt hawl statudol i ddewis i ba ysbyty y cânt eu hatgyfeirio iddo.
Mae'r tablau isod yn rhoi crynodeb o'r hyn y gall cleifion mewn ardaloedd ar y ffin ei ddisgwyl o ran y safonau ar gyfer cael gafael ar ofal iechyd arbenigol a gofal iechyd nad yw’n arbenigol yn dibynnu ar ble y maent yn byw, lleoliad eu meddyg teulu a'u darparwr gofal iechyd. (Mae ‘safonau’ yn cynnwys trothwyon ar gyfer triniaeth a meini prawf atgyfeirio eraill a bennir gan y bwrdd iechyd lleol neu'r bwrdd gofal integredig.)
Preswylfa |
Lleoliad meddyg teulu |
Darparwr yn Lloegr i fodloni |
Darparwr yng Nghymru i fodloni |
Cymru |
Cymru |
Safonau GIG Cymru |
Safonau GIG Cymru |
Cymru |
Lloegr |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
Lloegr |
Lloegr |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
Lloegr |
Cymru |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
Presgripsiynau am ddim
Mae gan bob claf sydd wedi'i gofrestru â meddyg teulu yng Nghymru yr hawl i gael presgripsiynau am ddim, gan gynnwys cleifion o Loegr sydd â'u meddyg teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond mewn fferyllfeydd yng Nghymru y caiff presgripsiynau eu rhoi yn rhad ac am ddim. Codir tâl ar gleifion sy'n casglu eu presgripsiynau y tu allan i Gymru ar y cyfraddau sy'n gymwys yn y wlad honno.
Mae cleifion o Gymru sydd â meddyg teulu yn Lloegr hefyd yn gymwys i gael presgripsiynau am ddim, ond byddai angen iddynt wneud cais am 'gerdyn hawlio' gan eu Bwrdd Iechyd.
Os caiff cleifion o Gymru eu trin mewn ysbytai neu gan wasanaethau y tu allan i oriau yn Lloegr, ac os codir tâl arnynt am bresgripsiynau yn ôl cyfradd Lloegr, gallant hawlio ad-daliad.
Pwy sy'n talu? Deall trefniadau ariannu
Mae byrddau iechyd yng Nghymru a byrddau gofal integredig yn Lloegr yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau brys ac argyfwng ar gyfer unrhyw un sy'n bresennol yn eu hardal ddaearyddol, ni waeth ble y mae'r claf yn byw neu ble y mae wedi'i gofrestru â meddyg teulu.
Ni throsglwyddir cyllid rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir dros y ffin, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu, deintyddiaeth a gwasanaethau offthalmig. Bydd unrhyw gostau yn cael eu talu lle y maent yn codi, drwy drefniant dwyochrog sy'n taro rhyw fath o gydbwysedd bras.
O ran cleifion sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu dros y ffin, nod y datganiad o werthoedd ac egwyddorion yw na fydd bwrdd iechyd yng Nghymru neu fwrdd gofal integredig yn Lloegr yn wynebu unrhyw ddiffyg ariannol o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i drigolion y wlad arall.
Mae Llywodraeth Cymru yn cael taliad blynyddol gan yr Adran Iechyd er mwyn cydnabod y costau gofal eilaidd ychwanegol a ysgwyddir gan y GIG yng Nghymru oherwydd y swm net o gleifion o Loegr sy'n defnyddio gofal sylfaenol yng Nghymru (h.y. nifer y trigolion yn Lloegr sy’n byw wrth y ffin sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru). Ffigur y setliad ar gyfer 2023-24 oedd tua £6 miliwn.
Ar gyfer cleifion yng Nghymru (gyda meddyg teulu yng Nghymru) sy’n cael triniaeth yn Lloegr, mae comisiynwyr Cymru (byrddau iechyd lleol a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru) yn talu darparwyr yn Lloegr, naill ai o dan drefniadau cytundebol neu drefniadau nad ydynt yn gytundebol, yn unol â phrisiau Cynllun Talu'r GIG.
Pan fo cleifion o Loegr sydd â meddyg teulu yn Lloegr yn cael gwasanaethau gofal eilaidd/trydyddol yng Nghymru, mae'r darparwr yng Nghymru a'r comisiynydd yn Lloegr yn cytuno'n lleol ar daliad am y driniaeth. Nid yw GIG Cymru yn defnyddio tariff safonol. Dylai'r swm a delir adlewyrchu faint a gostiodd y gweithgaredd i'r darparwr yng Nghymru.
Nid yw gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn rhywbeth newydd, ond yn hytrach yn agwedd allweddol ar sicrhau bod cleifion yn y ddwy wlad yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Er bod gwahaniaethau mewn polisïau a chyllid yn creu cymhlethdod, mae'r trefniadau hyn yn rhoi hyblygrwydd i gymunedau gwledig a chymunedau ar y ffin. Wrth i restrau aros a hawliau cleifion barhau i fod dan y chwyddwydr, mae’r trefniadau cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn debygol o barhau i ddatblygu.
Rhagor o wybodaeth
Mae GIG Lloegr wedi cyhoeddi atebion i gwestiynau cyffredin am ofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru