Delwedd o athro mewn ystafell ddosbarth

Delwedd o athro mewn ystafell ddosbarth

Yr heriau sydd ynghlwm wrth recriwtio a chadw athrawon: Pigion

Cyhoeddwyd 23/03/2026

Ddydd Mercher (25 Mawrth), bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Recriwtio a chadw athrawon. Rydym yn nodi rhywfaint o wybodaeth gefndir berthnasol isod.

  • Trafododd erthygl flaenorol ac adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Plant y pryderon sylweddol sy’n bodoli ynghylch recriwtio a chadw athrawon – yn enwedig ar gyfer rhai pynciau mewn ysgolion uwchradd ac ymhlith athrawon sy'n gallu addysgu drwy'r Gymraeg. Gwnaeth Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gydnabod y sefyllfa hon mewn dogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sef y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg.
  • Nid yw cyfanswm y myfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon ysgol uwchradd wedi cyrraedd y targed derbyn ers blynyddoedd lawer.  Yn 2023/24, cofrestrodd 505 o fyfyrwyr ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer y sector uwchradd, sy'n llai na hanner (44%) y targed.
  • Mae heriau penodol mewn rhai pynciau, fel cemeg a ffiseg, a dim ond 10 o ymgeiswyr a gafwyd ar gyfer y naill bwnc a’r llall yn 2023/24, yn erbyn targed fesul pwnc o 67. Ar gyfer mathemateg, dim ond 45 o ymgeiswyr a gafwyd, yn erbyn targed o 136; ac ar gyfer ieithoedd tramor modern, dim ond 25 o ymgeiswyr a gafwyd, yn erbyn targed o 69.
  • Ar ben hynny, mae prinder penodol o athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc (30 yn hyfforddi, yn erbyn targed o 87) a'r rhai sy'n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd y rhain yn cyfrif am 30% o’r cyfanswm). Yn 2023/24, roedd y ganran hon yn 20% ar gyfer y sector uwchradd ac yn 23% ar gyfer y sector cynradd. Tynnwyd sylw at brinder athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhwystr posibl i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn llwyddiannus.
  • Mae cadw athrawon hefyd yn destun pryder, yn enwedig o ystyried nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn o fewn y pum mlynedd gyntaf. Dywedodd NEU Cymru fod y duedd hon wedi cynyddu’n sylweddol, gyda chwarter yr athrawon yn gadael o fewn y cyfnod dan sylw. Dywedodd Estyn fod y niferoedd uchaf o bobl sy’n gadael ysgolion uwchradd ymhlith y rhai sy'n addysgu pynciau lle ceir prinder o athrawon, sef Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth a Chymraeg ail iaith.
  • Mae’r materion eraill a drafodir yn adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys sicrhau cynnydd i rolau arwain mewn ysgolion, amrywiaeth y gweithlu, yr effaith ar ddysgwyr a’r broses o gyflawni diwygiadau addysgol, a'r gweithlu addysg ehangach, gan gynnwys staff cymorth. O ran yr olaf o’r rhain, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi ymrwymo i sefydlu Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion, a bod “gwaith paratoi ar gyfer deddfwriaeth eisoes wedi dechrau”.
  • At ei gilydd, gwnaeth y Pwyllgor 16 o argymhellion, gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ohonynt.  Elfen allweddol o ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i nifer o’r argymhellion yw'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg, a gafodd ei gyhoeddi ar 18 Mawrth

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru