Yr argyfwng natur: atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030 yn “her aruthrol”

Cyhoeddwyd 17/04/2025   |   Amser darllen munudau

Mae’r targed byd-eang o ran atal colli natur erbyn 2030 yn prysur agosáu. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, a dim ond pum mlynedd sy’n weddill ar gyfer sicrhau bod y gwaith o adfer byd natur ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed. Mae'r erthygl hon, felly, yn bwrw golwg ar yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i ddiogelu bioamrywiaeth.

Cyhoeddir yr erthygl hon cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad hollbwysig y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â cholli byd natur.

Byd natur yn parhau i ddirywio

Yn 2021, datganodd y Senedd 'argyfwng natur' er mwyn cydnabod y dirywiad mewn bioamrywiaeth a achoswyd gan bobl.

Dywed gwyddonwyr ein bod ar drothwy’r chweched digwyddiad difodiant torfol yn hanes y byd, a'r cyntaf sy’n gysylltiedig â gweithgarwch pobl. Mae Cymru yn safle 224 o blith y 240 o wledydd sydd i’w gweld ar Fynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth yr Amgueddfa Hanes Natur, sy’n golygu ei bod ymhlith y 10% isaf. Mae’r rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru yn cynnwys tegeirian y fign galchog, llygoden y dŵr a madfall y tywod.

Ffigur 1. Rhywogaethau yng Nghymru sydd mewn perygl o ddiflannu – tegeirian y fign galchog, llygoden y dŵr a madfall y tywod

Lluniau o rywogaethau yng Nghymru sydd mewn perygl o ddiflannu – tegeirian y fign galchog, llygoden y dŵr a madfall y tywod.

Daw’r pwysau ar fioamrywiaeth o lawer o ffynonellau, gan gynnwys llygredd, newid hinsawdd, rhai technegau rheoli amaethyddol a rheoli coetir, gorddefnydd a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, bu cydnabyddiaeth gynyddol o werth hanfodol byd natur, gan gynnwys ei rôl yn y broses o fynd i'r afael â newid hinsawdd, a'i fanteision o ran iechyd a lles pobl.

Targedau byd-eang yn prysur agosáu

Rai blynyddoedd yn ôl, ymunodd y DU ag ymrwymiad rhyngwladol Cynhadledd y Partïon i'r Confensiwn ar Fioamrywiaeth(COP15) i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a sicrhau adferiad erbyn 2050 (Ffigur 2). Golyga hyn y dylid sicrhau bod bioamrywiaeth yn cynyddu erbyn 2030 o waelodlin 2020 (effaith gadarnhaol net), a sicrhau bod bioamrywiaeth, erbyn 2050, “…yn cael ei werthfawrogi, ei warchod, ei adfer a’i ddefnyddio’n ddoeth, gan gynnal gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a sicrhau buddion sy’n hanfodol i bawb”.

Gan fod hwn yn faes datganoledig, mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ran i’w chwarae.

Ffigur 2. Targed y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yw atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050

Graff o fioamrywiaeth sy’n dangos yr uchelgais byd-eang i atal colli byd natur erbyn 2030 (o waelodlin 2020) a sicrhau adferiad llawn erbyn 2050. Defnyddir eiconau o rywogaethau'r DU i gynrychioli bioamrywiaeth.

 

Ffynhonnell: wedi'i addasu o adnodd gan naturpositive.org

Mae targedau lluosog yn cyfrannu at uchelgais 2030: er enghraifft, targedau ar gyfer gwarchod rhywogaethau ac ecosystemau, llygredd, ac integreiddio bioamrywiaeth ar draws meysydd polisi, a chyllid. Mae’r targed ar gyfer yr ecosystem i ddiogelu 30% o’r tir, y dŵr a’r môr ar gyfer natur erbyn 2030 (sef y targed '30 erbyn 30') – yn uchelgais proffil uchel yn y fframwaith.

Angen gwneud mwy o waith yng Nghymru i gyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth

Nid oes diffyg polisïau yng Nghymru o ran adfer bioamrywiaeth. Mae'n dirwedd bolisi gymhleth, gyda llawer o gynlluniau gweithredu, dyletswyddau statudol, dynodiadau a rhaglenni.

Fodd bynnag, mae adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn tynnu sylw at ddiffyg gwirioneddol o ran gweithredu’r uchelgeisiau hyn a’r angen am fwy o adnoddau i gyflawni ym maes natur. Daw’r adroddiad i'r casgliad y bydd cyflawni’r ymrwymiad byd-eang “yn her aruthrol”.

Tirweddau gwarchodedig

Mae asesu’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at warchod 30% o’r tir, y dŵr a’r môr yng Nghymru, yn unol â tharged 2030, yn anodd.

Mae llu o ddynodiadau yng Nghymru, gan gynnwys y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, gwarchodfeydd natur a Pharciau Cenedlaethol (ymhlith eraill).

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae ychydig yn llai na 70% o’r ardal forol a 10.5% o’r ardaloedd daearol a’r ardaloedd o ddŵr mewndirol yn cael eu hystyried yn ‘ardaloedd gwarchodedig’. Fodd bynnag, ychwanegodd fod angen rheoli’r ardaloedd hyn mewn modd ystyrlon er mwyn iddynt gyfri tuag at y targed.

Mae cyrff anllywodraethol yn pwysleisio cyflwr gwael ardaloedd gwarchodedig. Yn ôl yr asesiadau cyflwr o nodweddion mewn safleoedd gwarchodedig a gynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2020, amcangyfrifwyd bod 20% mewn cyflwr ffafriol; bod tua 30% mewn cyflwr anffafriol; a bod tua 50% mewn cyflwr nad oedd yn ddymunol.

Yn amlwg, nid yw dynodiad yn ddigon.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Bu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn craffu ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (y 'Ddeddf') a'r broses o’i gweithredu fel rhan o'i ymchwiliad. Disgrifiodd WWF Cymru y ddeddfwriaeth fel casgliad o uchelgeisiau a strwythurau adrodd aneglur nad ydynt wedi sicrhau llawer o newid, mewn gwirionedd.

Un ddyletswydd allweddol yn y Ddeddf, sydd â’r nod o adfer byd natur, yw i awdurdodau cyhoeddus wneud cynllun ar gyfer gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau, ac adrodd yn gyson ar yr hyn y maent wedi’i wneud (adran 6). Ym mis Medi 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith ymchwil er mwyn gwerthuso’r broses o weithredu’r ddyletswydd yn adran 6. Fodd bynnag, ni chyhoeddwyd canfyddiadau’r gwaith hwn erioed. Gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y bydd yn gwneud hynny.

Cyhoeddodd Archwilio Cymru waith ymchwil yn ddiweddar a oedd yn dangos nad yw bron i hanner yr awdurdodau cyhoeddus a oedd yn rhan o’i astudiaeth wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd yn adran 6 i baratoi a chyhoeddi cynllun bioamrywiaeth. Canfu nad yw tua chwarter yr awdurdodau cyhoeddus erioed wedi cynhyrchu adroddiad bioamrywiaeth. Nid yw awdurdodau cyhoeddus nad ydynt yn cydymffurfio â'r ddyletswydd yn wynebu unrhyw ganlyniadau.

O dan y Ddeddf, mae gofyn i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi Polisi Adnoddau Naturiol sy’n nodi’r blaenoriaethau allweddol, y risgiau, a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar draws y Llywodraeth. Mae’n rhaid adolygu'r polisi ar ôl pob etholiad ar gyfer y Senedd. Cafodd y Polisi Adnoddau Naturiol cyntaf ei gyhoeddi yn 2018, ac nid yw wedi cael ei adolygu ers hynny. Nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y ffaith nad oedd cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn credu bod y polisi “wedi cael llawer o effaith”.

Buddsoddi mewn natur

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan sefydliad Cyswllt Amgylchedd Cymru (WEL) ym mis Medi 2024, sef Llwybrau i 2030, yn cynnwys map ffordd ar gyfer ariannu camau gweithredu y dylid eu blaenoriaethu er mwyn adfer byd natur. Mae’n amcangyfrif bod angen gwariant blynyddol ychwanegol o £438 miliwn i gyflawni'r camau hyn.

Gan gydnabod na fydd y lefel hon o fuddsoddiad ar gael gan y wladwriaeth, mae Llywodraeth Cymru ac amgylcheddwyr wedi tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddiadau preifat o ran mynd i’r afael â’r ‘bwlch ariannu natur’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ddulliau o fuddsoddi cyfrifol. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf wrth fwrw ymlaen â'r maes gwaith hwn. Dywedodd Cyswllt Amgylchedd Cymru wrth y Pwyllgor nad oes llwybr nac amserlen glir ar hyn o bryd i gefnogi ac arwain buddsoddiad priodol mewn cadwraeth yng Nghymru gan ffynonellau preifat.

Y camau nesaf – y Bil hir-ddisgwyliedig

Mae’n amlwg bod mwy o waith i’w wneud. Er gwaethaf uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer byd natur, daeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i'r casgliad bod diffyg gweithredu ymarferol ac adnoddau.

Mae sector yr amgylchedd yn aros yn eiddgar am Fil hanesyddol, a ddisgwylir ym mis Mehefin, a fydd yn cyflwyno uchelgeisiau newydd ar gyfer byd natur. Rhagwelir y bydd y Bil hwn yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer adfer byd natur (gan gynnwys targedau bioamrywiaeth), ac egwyddorion amgylcheddol, ac y bydd hefyd yn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol ar gyfer dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif o ran perfformiad amgylcheddol.

Gyda golwg ar dargedau 2030, mae rhanddeiliaid yn argymell gweithredu cyflym gan y Llywodraeth i gyflwyno a gweithredu’r ddeddfwriaeth hon fel mater o frys, a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru