Mae mesuryddion rhagdalu yn fath o fesurydd ynni domestig sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dalu am ynni cyn ei ddefnyddio. Mae’r mesuryddion hyn wedi cael eu gosod drwy rym wrth i gwsmeriaid frwydro i dalu costau ynni cynyddol. Nid yw aelwydydd agored i niwed wedi cael eu hepgor o’r drefn hon, fel sydd wedi dod i’r amlwg mewn gwaith newyddiadurol cudd a wnaethpwyd gan The Times.
Yng nghyd-destun y pwysau costau byw a welir ar hyn o bryd, y rhai ar y lefelau incwm isaf sydd wedi bod yn talu’r costau uchaf am eu hynni, ac ni fu modd i’r bobl hyn ledaenu'r gost o gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar y ffeithiau ynghylch mesuryddion rhagdalu, y bobl y maent yn effeithio arnynt, a sut y maent yn gwneud hynny.
Talu ymlaen llaw
Mewn datganiad diweddar, dywedodd Llywodraeth Cymru fod tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan, a bod hyn yn cynrychioli:
… tua 15% o bob aelwyd a 24% o denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae bron hanner tenantiaid tai cymdeithasol (45%) yn defnyddio mesuryddion rhagdalu.
Yn hanesyddol, mae ynni wedi bod yn ddrutach gyda mesurydd rhagdalu, ac mae gan gwsmeriaid opsiynau credyd mwy cyfyngedig gan nad ydynt yn gallu mynd i ôl-ddyledion. O dan y Warant Pris Ynni (mesur dros dro a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU i ostwng prisiau ynni mewn ymateb i’r cynnydd yn y cap ar brisiau), mae cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu yn talu pris uned is am drydan na chwsmeriaid eraill. Er hynny, maent yn talu pris uned uwch am nwy na chwsmeriaid sy'n talu trwy ddebyd uniongyrchol, ac yn talu taliadau sefydlog uwch na'r holl gwsmeriaid eraill am drydan a nwy.
Fodd bynnag, roedd cyllideb ddiweddar y Canghellor, Jeremy Hunt, yn cynnwys cynlluniau i roi terfyn ar y taliadau “premiwm” sy’n gysylltiedig â mesuryddion rhagdalu, a hynny drwy gysoni cyfraddau’r taliadau a wneir drwy fesuryddion â chyfraddau’r taliadau a wneir drwy ddebyd uniongyrchol. Dylai cwsmeriaid sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu arbed £45 y flwyddyn, ar gyfartaledd.
Yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru, roedd mwy o bobl wedi methu â fforddio ychwanegu arian at eu mesuryddion rhagdalu drwy 2022 na thrwy gydol y 10 mlynedd blaenorol gyda’i gilydd. Canfu’r sefydliad hefyd fod dros 70 y cant o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yng Nghymru yn poeni am sicrhau bod arian yn eu mesurydd rhagdalu, a bod:
32% o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu yng Nghymru wedi’u datgysylltu o’u cyflenwad ynni dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd na allan nhw fforddio ychwanegu ato.
Diogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed
Mae bron hanner tenantiaid tai cymdeithasol yn defnyddio mesuryddion rhagdalu. Mae ymchwil gan y felin drafod Resolution Foundation yn dangos bod gan y rhai sydd â mesuryddion rhagdalu y lefelau incwm isaf, i raddau anghymesur. Mae Barnardo's Cymru yn dweud bod hyn yn parhau i fod yn dreth tlodi real iawn, a bod aelwydydd iau hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o fod â mesuryddion rhagdalu.
Mae Disability Rights UK wedi egluro bod llawer o bobl anabl yn defnyddio mwy o ynni gan eu bod yn defnyddio offer hanfodol yn eu cartrefi ar gyfer eu hanghenion meddygol ac ar gyfer byw’n annibynnol. Felly, maent yn hynod ofnus o gael mesuryddion rhagdalu. Er bod yn rhaid i gyflenwyr ynni roi ystyriaeth i anableddau wrth ddelio â chwsmeriaid, mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg fod mesuryddion rhagdalu wedi'u gosod drwy rym yng nghartrefi pobl anabl.
Yn ôl Age UK, mae un o bob pedair aelwyd sydd â mesurydd rhagdalu yn cynnwys rhywun dros 60 oed. Mae’r elusen yn nodi bod anobaith yn peri pobl hŷn sy’n agored i niwed i ‘hunan-ddatgysylltu’. Mae hyn yn digwydd pan nad oes gan gwsmer sydd â mesurydd rhagdalu ddigon o arian i ychwanegu at ei fesurydd, neu pan nad yw’n sylweddoli bod y credyd ar y mesurydd yn dod i ben, ac mae’r pŵer yn cael ei ddiffodd.
Sefyllfa 'warthus' o ran nifer y mesuryddion sy’n cael eu gosod drwy rym
Gall cwmnïau ynni wneud cais i ynad am warant i orfodi cwsmer i gael mesurydd rhagdalu heb ei ganiatâd os yw wedi cronni dyledion.
Ym mis Ionawr, ysgrifennodd Grant Shapps AS, Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar y pryd, at gyflenwyr ynni, yn galw arnynt i roi'r gorau i’r arfer o osod mesuryddion rhagdalu drwy rym, heb gymryd pob cam i gefnogi defnyddwyr mewn trafferthion. Nododd Ofgem ei fwriad i gynnal adolygiad pellach o gydymffurfiaeth y farchnad, a fyddai’n canolbwyntio ar arferion cyflenwyr mewn perthynas â mesuryddion rhagdalu.
Cafwyd adroddiadau bod 32,790 o warantau wedi'u cyhoeddi ym mis Ionawr ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu drwy rym. Gofynnodd Ofgem i gyflenwyr roi’r gorau i’r cam o osod mesuryddion drwy rym am y tro, ac i gynnal adolygiad trylwyr o’u prosesau. Ers hynny, mae ynadon wedi cael gorchymyn i roi'r gorau i gyhoeddi gwarantau ar gyfer yr arfer hon yng Nghymru a Lloegr.
Mae Ofgem hefyd wedi galw ar bob cyflenwr i ddefnyddio'r saib o ran gosod mesuryddion fel cyfle i adolygu eu holl weithgarwch diweddar o ran gosod mesuryddion rhagdalu a newid trefniadau cwsmeriaid drwy rym ac o bell. Gofynnwyd iddynt ystyried a oes angen gwrthdroi unrhyw benderfyniadau i osod mesuryddion, a chynnig iawndal mewn achosion lle nad yw'r rheolau llym wedi'u dilyn.
Y bwriad oedd bod y gwaharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu drwy rym yn dod i ben ar 31 Mawrth. Fodd bynnag, bydd y gwaharddiad bellach ond yn cael ei godi os a phryd y bydd y cwmnïau dan sylw yn dilyn canllawiau Ofgem.
Yn dilyn cyfarfod gyda chyflenwyr ynni ym mis Ionawr 2023, dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod y cyflenwyr ynni wedi cytuno i rannu data ynglŷn â nifer yr aelwydydd sy’n cael cymorth gyda’u biliau ynni a/neu’n cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu, a’r rhesymau dros wneud hynny.
Dywedodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol er mwyn diogelu’r deiliaid tai mwyaf agored i niwed, a bod cefnogaeth eang ar gyfer y syniad hwn wedi’i mynegi ymhlith y cyflenwyr ynni. Dywedodd y Gweinidog ei bod wedi’i brawychu i glywed am nifer y mesuryddion rhagdalu a oedd wedi’u gosod drwy rym.
Bydd y mater hwn bellach yn destun gwaith craffu gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd, sydd ar fin cynnal ymchwiliad i'r hyn y mae'r deisebydd wedi ei ddisgrifio fel 'sgandal' ym maes mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru