- Rheoli dŵr ar y wyneb neu'n agos i'r wyneb, a hynny mor agos â phosibl at ffynhonnell y dŵr ffo.
- Trin glaw fel adnodd naturiol gwerthfawr.
- Sicrhau bod llygredd yn cael ei atal yn y fan y mae'n tarddu, yn hytrach na dibynnu ar y system ddraenio i'w drin neu i ymyrryd.
- Rheoli glaw er mwyn diogelu pobl rhag y perygl cynyddol o lifogydd, a diogelu'r amgylchedd rhag y difrod sy'n deillio o'r newidiadau mewn cyfraddau a phatrymau llif, a symudiadau gwaddodion y mae'r datblygiad yn eu hachosi.
- Rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n debygol o greu pwysau yn y dyfodol mewn perthynas â'r perygl o lifogydd, yr amgylchedd ac adnoddau dŵr, fel newid hinsawdd ac ymgripiad trefol.
- Sicrhau'r budd gorau o ran amwynder a bioamrywiaeth.
- Gwneud y defnydd gorau o'r tir sydd ar gael drwy ddefnydd amlswyddogaethol o fannau cyhoeddus a thir y cyhoedd.
- Osgoi'r angen i bwmpio lle bo hynny'n bosibl.Disgwylir i ddatblygwyr ddangos eu bod wedi cydymffurfio â'r safonau wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio.
Ymdrin â dŵr wyneb: y safonau newydd ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (systemau SuDS)
Cyhoeddwyd 08/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud
8 Chwefror 2016
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4640" align="alignnone" width="682"] Llun gan Gyfoeth Naturiol Cymru[/caption]
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau anstatudol dros dro ar gyfer draenio cynaliadwy yng Nghymru:
Safonau anstatudol ar gyfer draenio cynaliadwy
Beth yw draenio cynaliadwy?
Bwriad systemau draenio cynaliadwy (systemau SuDS) yw lleihau effaith datblygiadau ar ddraenio dŵr wyneb, a hynny drwy ddefnyddio prosesau naturiol i ddraenio dŵr wyneb ffo. Gwneir hyn drwy gasglu, storio, a glanhau dŵr cyn ei ryddhau'n araf yn ôl i'r amgylchedd.
Mae'r dull hwn yn wahanol i systemau draenio confensiynol sy'n seiliedig ar ddefnyddio pibellau tanddaearol i symud dŵr glaw i ffwrdd o safleoedd cyn gynted â phosibl. Gall systemau confensiynol gynyddu'r perygl o lifogydd, llygredd a halogi dŵr daear.
Mae manteision system SuDS yn cynnwys lleihau faint o ddŵr sydd wedi'i halogi â charthion ac sy'n cael ei bwmpio i gael triniaeth, ac yn lleihau'r risg o orlifo a llifogydd. Yn ogystal, yn dibynnu ar sut y maent yn cael eu dylunio, gall systemau SuDS wella ansawdd dylunio trefol, creu mannau gwyrdd cyhoeddus, cynyddu bioamrywiaeth, a gwella ansawdd yr aer a byffro sŵn.
Gallwch ddarllen rhagor am systemau SuDS ar wefan SuDS Wales.
I beth y mae'r safonau hyn yn berthnasol?
Mae'r safonau yn berthnasol i systemau SuDS sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd sydd â mwy nag un tŷ neu sydd ag arwynebedd llawr o dros 300m2. Maent yn pennu'r modd y dylid dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw'r systemau hyn. Maent yn darparu gwybodaeth i ddylunwyr, datblygwyr eiddo, awdurdodau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb, fel ymgymerwyr carthffosiaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r safonau'n cynnwys nifer o egwyddorion a ddylai fod yn sail i sut y mae systemau SuDS yn cael eu cynllunio. Maent hefyd yn cynnwys meini prawf ar gyfer blaenoriaethu'r dewisiadau o ran cyrchfannau ffo a'r meini prawf gofynnol o ran dylunio. Maent hefyd yn nodi sut y dylid adeiladu a chynnal a chadw systemau SuDS. Dyma rhai o'r egwyddorion dylunio: