Ymdrin â dŵr wyneb: y safonau newydd ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (systemau SuDS)

Cyhoeddwyd 08/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

8 Chwefror 2016 Erthygl gan  Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4640" align="alignnone" width="682"]Pant yn Llanelli Llun gan Gyfoeth Naturiol Cymru[/caption]   Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau anstatudol dros dro ar gyfer draenio cynaliadwy yng Nghymru: Safonau anstatudol ar gyfer draenio cynaliadwy Beth yw draenio cynaliadwy? Bwriad systemau draenio cynaliadwy (systemau SuDS) yw lleihau effaith datblygiadau ar ddraenio dŵr wyneb, a hynny drwy ddefnyddio prosesau naturiol i ddraenio dŵr wyneb ffo. Gwneir hyn drwy gasglu, storio, a glanhau dŵr cyn ei ryddhau'n araf yn ôl i'r amgylchedd. Mae'r dull hwn yn wahanol i systemau draenio confensiynol sy'n seiliedig ar ddefnyddio pibellau tanddaearol i symud dŵr glaw i ffwrdd o safleoedd cyn gynted â phosibl. Gall systemau confensiynol gynyddu'r perygl o lifogydd, llygredd a halogi dŵr daear. Mae manteision system SuDS yn cynnwys lleihau faint o ddŵr sydd wedi'i halogi â charthion ac sy'n cael ei bwmpio i gael triniaeth, ac yn lleihau'r risg o orlifo a llifogydd. Yn ogystal, yn dibynnu ar sut y maent yn cael eu dylunio, gall systemau SuDS wella ansawdd dylunio trefol, creu mannau gwyrdd cyhoeddus, cynyddu bioamrywiaeth, a gwella ansawdd yr aer a byffro sŵn. Gallwch ddarllen rhagor am systemau SuDS ar wefan SuDS Wales. I beth y mae'r safonau hyn yn berthnasol? Mae'r safonau yn berthnasol i systemau SuDS sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd sydd â mwy nag un tŷ neu sydd ag arwynebedd llawr o dros 300m2. Maent yn pennu'r modd y dylid dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw'r systemau hyn. Maent yn darparu gwybodaeth i ddylunwyr, datblygwyr eiddo, awdurdodau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb, fel ymgymerwyr carthffosiaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r safonau'n cynnwys nifer o egwyddorion a ddylai fod yn sail i sut y mae systemau SuDS yn cael eu cynllunio. Maent hefyd yn cynnwys meini prawf ar gyfer blaenoriaethu'r dewisiadau o ran cyrchfannau ffo a'r meini prawf gofynnol o ran dylunio. Maent hefyd yn nodi sut y dylid adeiladu a chynnal a chadw systemau SuDS. Dyma rhai o'r egwyddorion dylunio:
  • Rheoli dŵr ar y wyneb neu'n agos i'r wyneb, a hynny mor agos â phosibl at ffynhonnell y dŵr ffo.
  • Trin glaw fel adnodd naturiol gwerthfawr.
  • Sicrhau bod llygredd yn cael ei atal yn y fan y mae'n tarddu, yn hytrach na dibynnu ar y system ddraenio i'w drin neu i ymyrryd.
  • Rheoli glaw er mwyn diogelu pobl rhag y perygl cynyddol o lifogydd, a diogelu'r amgylchedd rhag y difrod sy'n deillio o'r newidiadau mewn cyfraddau a phatrymau llif, a symudiadau gwaddodion y mae'r datblygiad yn eu hachosi.
  • Rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n debygol o greu pwysau yn y dyfodol mewn perthynas â'r perygl o lifogydd, yr amgylchedd ac adnoddau dŵr, fel newid hinsawdd ac ymgripiad trefol.
  • Sicrhau'r budd gorau o ran amwynder a bioamrywiaeth.
  • Gwneud y defnydd gorau o'r tir sydd ar gael drwy ddefnydd amlswyddogaethol o fannau cyhoeddus a thir y cyhoedd.
  • Osgoi'r angen i bwmpio lle bo hynny'n bosibl.Disgwylir i ddatblygwyr ddangos eu bod wedi cydymffurfio â'r safonau wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio.
Beth nesaf? Mae'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Atodlen 3)—Deddf nad yw wedi'i chychwyn yng Nghymru (nac yn Lloegr)—yn ei gwneud yn ofynnol ar ddatblygiadau newydd i gynnwys nodweddion systemau SuDS sy'n cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol. Mae'r safonau dros dro wedi'u cyhoeddi ar sail ymgynghorol fel y gall y partïon perthnasol (dylunwyr, datblygwyr, awdurdodau lleol, ac ati) ddangos eu bod wedi ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu a Pherygl o Lifogydd a Chynllunio a Chadwraeth Natur. Maent hefyd wedi'u cyhoeddi er mwyn eu treialu ac, os oes angen, eu diwygio os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid eu gwneud yn statudol. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran systemau SuDS wedi'i nodi yn ei Strategaeth Ddŵr i Gymru. Enghreifftiau o systemau SuDS yng Nghymru Grangetown Werddach, Caerdydd Mae cynllun Grangetown Werddach yn bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bwriad y cynllun yw casglu, glanhau a dargyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i mewn i'r afon Taf, yn hytrach na bod y dŵr hwn yn cael ei bwmpio wyth milltir drwy Fro Morgannwg i'r môr, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn cynnwys ardaloedd plannu a fydd yn amsugno'r dŵr glaw, cynyddu bioamrywiaeth a darparu mannau gwyrdd cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu fideo ar gynllun Grangetown Werddach: https://www.youtube.com/watch?v=Y_T7oiPjWak Gallwch ddarllen mwy ar flog Grangetown Werddach. GlawLif, Llanelli Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi tua £80 miliwn mewn nifer o brosiectau GlawLif yng Nghymru hyd at 2020. Mae prosiectau yn Llanelli wedi cael eu datblygu i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â'r dŵr glaw sy'n llifo i garthffosydd yn ystod cyfnodau o law trwm. Roedd un prosiect yn cynnwys ymdrin â materion dŵr wyneb mewn ysgol gynradd drwy gyflwyno pwll, pant, planwyr, palmentydd athraidd, casgenni dŵr a pharth addysgol awyr agored. Gallwch ddarllen mwy am brosiectau Dŵr Cymru ar ei wefan GlawLif. View this post in English Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg