Iechyd Meddwl Amenedigol
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno ar ei ymchwiliad cyntaf fel rhan o’i raglen waith ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol, gan ddefnyddio tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor cyn yr ymgynghoriad i lywio eu gwaith. Mae Iechyd Meddwl Amenedigol yn ymwneud â’r cyfnod rhwng beichiogi a diwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r babi gael ei eni. Mae a wnelo iechyd meddwl amenedigol â lles emosiynol menywod beichiog a’u plant, eu partneriaid a’u teuluoedd.
Cylch Gorchwyl
Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i bolisi presennol Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl amenedigol. Diben yr ymchwiliad yw helpu i greu darlun o’r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol a ddarperir ar hyn o bryd yng Nghymru, a hynny yn y cymunedau ac ar gyfer cleifion mewnol. Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, a bydd hefyd yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid er mwyn clywed gan fenywod (a’u teuluoedd) am eu profiadau ac am y gofal a gawsant. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed sut y mae gwasanaethau’n cysylltu â’i gilydd o dan adain Iechyd Meddwl Amenedigol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn gyffredinol, unedau mamau a babanod ar gyfer cleifion mewnol, gwasanaethau iechyd rhieni a babanod, ymwelwyr iechyd, seicoleg glinigol, a gwasanaethau bydwreigiaeth, meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol ehangach, rôl y trydydd sector a grwpiau cymorth lleol, a darparwyr gwasanaethau preifat.Bydd y Pwyllgor yn ystyried:
- Dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran iechyd meddwl amenedigol, gan ganolbwyntio yn benodol ar atebolrwydd ac ariannu’r gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol sy’n cwmpasu atal, canfod a rheoli problemau iechyd meddwl amenedigol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a yw adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau.
- Patrwm y gofal cleifion mewnol ar gyfer mamau â salwch meddwl dwys lle mae angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, a hynny o ran unedau mamau a babanod arbenigol (unedau mamau a babanod dynodedig yn Lloegr) a lleoliadau eraill ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru. (Nid oes uned mamau a babanod yng Nghymru er 2013.)
- Lefel y ddarpariaeth iechyd meddwl amenedigol cymunedol arbenigol ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru ac a yw gwasanaethau yn bodloni safonau cenedlaethol.
- Y llwybr gofal clinigol presennol ac a yw gwasanaethau gofal sylfaenol yn ymateb mewn modd amserol ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion mamau, tadau a’r teulu ehangach o ran iechyd meddwl a llesiant emosiynol yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf ym mywyd babi.
- Ystyried i ba raddau y mae gofal iechyd meddwl amenedigol yn cael ei integreiddio, gan gwmpasu meysydd addysg gynenedigol a chyngor cyn beichiogi, hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, mynediad teg ac amserol at gymorth seicolegol ar gyfer ffurfiau ysgafn a chymedrol ar anhwylderau iselder a phryder, mynediad at gymorth yn y trydydd sector a chymorth profedigaeth.
- A yw gwasanaethau yn adlewyrchu pwysigrwydd cefnogi mamau i fondio â’i babi a meithrin ymlyniad iach ag ef yn ystod y beichiogrwydd ac ar ôl geni, gan gynnwys cymorth bwydo ar y fron.
- Y graddau y gellir mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd wrth ddatblygu gwasanaethau’r dyfodol.
- Heddiw, mae’r Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig a fydd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ystyried amrywiaeth o safbwyntiau’r rhanddeiliaid.
Erthygl gan Sarah Hatherley , Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun: o flickr gan Torsten Mangner. Dan dwydded Creative Commons Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Ymchwiliad Iechyd Meddwl Amenedigol: Cyfle i ddweud eich dweud (PDF, 153KB)