Ymchwiliad Iechyd Meddwl Amenedigol: Cyfle i ddweud eich dweud

Cyhoeddwyd 03/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

03 Ebrill 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno ar ei ymchwiliad cyntaf fel rhan o’i raglen waith ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol, gan ddefnyddio tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor cyn yr ymgynghoriad i lywio eu gwaith. Mae Iechyd Meddwl Amenedigol yn ymwneud â’r cyfnod rhwng beichiogi a diwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r babi gael ei eni. Mae a wnelo iechyd meddwl amenedigol â lles emosiynol menywod beichiog a’u plant, eu partneriaid a’u teuluoedd. Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn cynnwys nifer o anhwylderau sy’n amrywio o ran difrifoldeb; fe’u gwelir mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd ac fe’u rheolir ar hyn o bryd gan nifer o wahanol wasanaethau. Mae rhai o’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio’n benodol at anghenion menywod a’u babanod, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni. Darperir gwasanaethau eraill ar eu cyfer fel rhan o wasanaeth cyffredinol. Mae a wnelo gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ag atal, canfod a rheoli problemau iechyd meddwl amenedigol sy’n cymhlethu beichiogrwydd a’r flwyddyn ôl-enedigol. Mae’r problemau hyn yn cynnwys rhai newydd a phroblemau sy’n dychwelyd lle mae’r menywod wedi bod yn iach ers peth amser neu fod y problemau iechyd meddwl ganddynt cyn iddynt feichiogi.

Cylch Gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i bolisi presennol Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl amenedigol. Diben yr ymchwiliad yw helpu i greu darlun o’r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol a ddarperir ar hyn o bryd yng Nghymru, a hynny yn y cymunedau ac ar gyfer cleifion mewnol. Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, a bydd hefyd yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid er mwyn clywed gan fenywod (a’u teuluoedd) am eu profiadau ac am y gofal a gawsant. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed sut y mae gwasanaethau’n cysylltu â’i gilydd o dan adain Iechyd Meddwl Amenedigol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn gyffredinol, unedau mamau a babanod ar gyfer cleifion mewnol, gwasanaethau iechyd rhieni a babanod, ymwelwyr iechyd, seicoleg glinigol, a gwasanaethau bydwreigiaeth, meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol ehangach, rôl y trydydd sector a grwpiau cymorth lleol, a darparwyr gwasanaethau preifat.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran iechyd meddwl amenedigol, gan ganolbwyntio yn benodol ar atebolrwydd ac ariannu’r gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol sy’n cwmpasu atal, canfod a rheoli problemau iechyd meddwl amenedigol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a yw adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau.
  • Patrwm y gofal cleifion mewnol ar gyfer mamau â salwch meddwl dwys lle mae angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, a hynny o ran unedau mamau a babanod arbenigol (unedau mamau a babanod dynodedig yn Lloegr) a lleoliadau eraill ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru. (Nid oes uned mamau a babanod yng Nghymru er 2013.)
  • Lefel y ddarpariaeth iechyd meddwl amenedigol cymunedol arbenigol ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru ac a yw gwasanaethau yn bodloni safonau cenedlaethol.
  • Y llwybr gofal clinigol presennol ac a yw gwasanaethau gofal sylfaenol yn ymateb mewn modd amserol ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion mamau, tadau a’r teulu ehangach o ran iechyd meddwl a llesiant emosiynol yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf ym mywyd babi.
  • Ystyried i ba raddau y mae gofal iechyd meddwl amenedigol yn cael ei integreiddio, gan gwmpasu meysydd addysg gynenedigol a chyngor cyn beichiogi, hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, mynediad teg ac amserol at gymorth seicolegol ar gyfer ffurfiau ysgafn a chymedrol ar anhwylderau iselder a phryder, mynediad at gymorth yn y trydydd sector a chymorth profedigaeth.
  • A yw gwasanaethau yn adlewyrchu pwysigrwydd cefnogi mamau i fondio â’i babi a meithrin ymlyniad iach ag ef yn ystod y beichiogrwydd ac ar ôl geni, gan gynnwys cymorth bwydo ar y fron.
  • Y graddau y gellir mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd wrth ddatblygu gwasanaethau’r dyfodol.
  • Heddiw, mae’r Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig a fydd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ystyried amrywiaeth o safbwyntiau’r rhanddeiliaid.
A oes gennych stori i’w hadrodd? Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed am eich profiadau o’r gofal a gawsoch. Ewch i wefan y Pwyllgor am ragor o wybodaeth drwy glicio yma.
Erthygl gan Sarah Hatherley , Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun: o flickr gan Torsten Mangner. Dan dwydded Creative Commons   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Ymchwiliad Iechyd Meddwl Amenedigol: Cyfle i ddweud eich dweud (PDF, 153KB)