Ymateb yr heddlu i’r rhai sydd mewn argyfwng iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 21/01/2020   |   Amser darllen munudau

Yn aml iawn, yr heddlu fydd y rhai cyntaf i ddod i gysylltiad â pherson mewn argyfwng iechyd meddwl. Y flwyddyn diwethaf, cafodd dros 2,000 o bobl eu cadw’n gaeth gan yr heddlu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Credir bod ystyriaethau iechyd meddwl ynghlwm wrth bron 10% o'r digwyddiadau y mae'r heddlu'n ymdrin â nhw.

Diben y newidiadau cyfreithiol a gyflwynwyd drwy Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 oedd gwella ymatebion i’r rhai mewn argyfwng iechyd meddwl os swyddogion yr heddlu yw’r cyntaf i ymdrin â’r sefyllfa. Un newid allweddol oedd dod â’r arfer o ddefnyddio gorsaf heddlu fel 'man diogel' i ben. Mae hynny’n golygu nad oes modd defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel i bobl dan 18 oed, a dim ond o dan amgylchiadau “eithriadol” penodol y gellir eu defnyddio fel man diogel ar gyfer oedolion.

Ym mis Hydref 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithaol a Chwaraeon ymchwiliad byr i’w sicrhau ei hun nad yw dalfeydd yr heddlu’n cael eu defnyddio mwyach fel man diogel.

Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y defnydd o gelloedd yr heddlu fel ‘man diogel’

Clywodd y Pwyllgor na fu’r un achos o ddefnyddio cell mewn gorsaf heddlu fel man diogel i berson dan 18 oed yng Nghymru ers 2015. Cafodd y Pwyllgor hefyd ei sicrhau gan uwch-swyddogion yr heddlu, arolygwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru nad yw dalfa'r heddlu yn cael ei defnyddio mwyach fel man diogel i oedolion ac eithrio o dan yr amgylchiadau eithriadol a ganiateir ac, o ganlyniad, gwelwyd gostyngiad o 90 y cant yn nifer yr oedolion a gafodd eu cadw’n gadw’n gaeth yng nghelloedd yr heddlu.

Fodd bynnag, er bod gostyngiad yn nifer y bobl mewn argyfwng iechyd meddwl sy’n cael eu cadw’n gaeth yn nalfa'r heddlu, ymddengys bod y nifer sy’n cael eu cadw’n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynyddu. Yn ôl data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, cafodd 2,256 o bobl yng Nghymru eu cadw’n gaeth o dan adran 136 yn 2018/19, o’i gymharu â 1,955 yn 2017/18.

Nid oedd yr heddluoedd na Llywodraeth Cymru yn gallu esbonio’r cynnydd yn y nifer sy’n cael eu cadw’n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Er bod gostyngiad sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf yn y defnydd o ddalfa’r heddlu fel man diogel, y duedd gyffredinol yw bod y nifer sy’n cael eu cadw’n gaeth gan yr heddlu o dan adran 136 yn codi.

Mae adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn galluogi swyddogion heddlu i symud pobl o fan cyhoeddus os ydynt yn credu eu bod yn dioddef o anhwylder meddwl a bod angen gofal a rheolaeth arnynt ar unwaith, ac mae’n caniatáu iddynt eu cludoi fan diogel, er enghraifft, cyfleuster iechyd neu gyfleuster gofal cymdeithasol.

Diben cadw pobl mewn man diogel yw galluogi meddyg a Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (er enghraifft, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig) eu hasesu, a threfnu unrhyw driniaeth neu ofal angenrheidiol.

Mae bron pob heddlu yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn y nifer sy’n cael eu cadw’n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Nid oedd yr heddlu na Llywodraeth Cymru yn gallu esbonio pam mae’r nifer sy’n cael eu cadw’n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynyddu, ac argymhellodd y Pwyllgor y dylid dadansoddi’r data. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn ‘mewn egwyddor’, gan ddweud bod y gwaith o ddadansoddi’r dystiolaeth yn un o gyfrifoldebau craidd Grŵp Sicrwydd y Concordat Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl.

Cafodd yr ystadegau diweddaraf am ddefnyddio’r hawl i gadw pobl yn gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yng Nghymru eu cyhoeddi ar 5 Rhagfyr 2019. Er bod hon yn set ddata newydd, mae’r Pwyllgor yn credu bod lle i wella eto gan ei bod yn anodd cael darlun llawn o’r modd y defnyddir Adran 136 i gadw pobl yn gaeth. Mae'n dangos mai dim ond 36% o'r rhai a gafodd eu cadw’n gaeth yn ystod chwe mis cyntaf 2019/20 aeth i’r ysbyty, ond prin yw’r wybodaeth am y canlyniadau i unigolion.

Rôl yr heddlu

Bydd gan yr heddlu rôl i’w chwarae bob amser wrth ymdrin â’r rhai sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. Gwasanaeth brys ydyn nhw, wedi'r cyfan. Yn ei adroddiad, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen i’r heddlu fod mewn sefyllfa i drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i asiantaethau eraill a all ddiwallu eu hanghenion mewn ffordd fwy priodol. Fodd bynnag, dim ond os oes dwy elfen sylfaenol yn narpariaeth y gwasanaeth iechyd ar waith y gellir gwneud hyn yn ddiogel.

Yn gyntaf, mae angen i’r gwasanaethau iechyd fod ar gael i’r heddlu er mwyn iddynt fedru cael cyngor a chymorth. Mae gwahanol gynlluniau brysbennu ar waith drwy Gymru ond nid yw effaith y gwahanol fodelau’n glir. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r heddlu i adolygu’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am effeithlonrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu sydd ar waith yng Nghymru, a derbyniwyd yr argymhelliad hwn.

Yn gyntaf, mae angen i’r heddlu fedru mynd â phobl i fannau diogel yn y gwasanaeth iechyd. Mae gan bob Bwrdd Iechyd fannau diogel dynodedig sy'n seiliedig ar iechyd, ond mae’r ddarpariaeth yn amrywio drwy Gymru. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod nad yw ffiniau'r gwasanaeth iechyd yn cyd-fynd yn llwyr â'r ardaloedd daearyddol y mae’r heddluoedd yn gyfrifol amdanynt, ac argymhellodd y dylid ystyried y manteision a fyddai ynghlwm wrth fabwysiadu modelau rhanbarthol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi y byddai’n ysgrifennu at y Byrddau Iechyd i ofyn iddynt sicrhau bod y gallu ganddynt i fodloni’r galw.

Bydd yr heddlu hefyd yn cludo pobl i fan diogel. Gall beri cryn ofid i’r rhai sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl a'u teuluoedd iddynt gael eu cludo ymaith mewn car heddlu. Mae ystadegau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod cerbydau’r heddlu wedi'u defnyddio i gludo 86% o’r rhai a gafodd eu cadw’n gaeth yn 2018/19 o dan yr Iechyd Meddwl (adran 136); y ffigur cyfatebol yn Lloegr oedd 43%. Mae'r Pwyllgor am i’r rhai sy’n wynebu argyfwng iechyd meddwl gael eu cludo yng ngherbydau’r gwasanaeth iechyd.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi y bydd yn rhan o’r adolygiad y mae wedi’i gomisiynu, a ddylai gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020 (cyfeiriodd at Adolygiad o Fynediad a Chludiant Brys). Fodd bynnag, er iddi dderbyn yr argymhelliad, nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r ffaith bod y Pwyllgor yn galw am weithredu ar fyrder, yn enwedig gan y bydd unrhyw gamau a gymerir yn dibynnu ar argymhelliad yr adolygiad.

Y camau nesaf

Gellid ystyried bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor yn gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, er yr ymddengys ei bod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn, gellid amau a yw’n ymateb yn ddigon cyflym i argymhellion y Pwyllgor. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at yr Adolygiad o Fynediad a Chludiant Iechyd Meddwl Brys sy’n cael ei gynnal gan Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaetheol y GIG. Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Mae’r modd y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r gwaith yn y maes hwn yn dibynnu ar yr adolygiad hwn.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru