Claf mewn gwely ysbyty

Claf mewn gwely ysbyty

Ymateb i’r her: lleihau arosiadau o ddwy flynedd am driniaeth gan y GIG

Cyhoeddwyd 08/11/2023   |   Amser darllen munudau

Gyda nifer y bobl ar restrau aros y GIG yn cyrraedd y lefel uchaf erioed, mae cleifion y mae angen triniaethau penodol arnynt yn wynebu oedi eithriadol o hir.

Ym mis Awst 2023, cynyddodd nifer llwybrau’r cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth gan y GIG yng Nghymru o tua 748,400 ym mis Mai 2023 i tua 760,300. Dyma'r chweched cynnydd yn olynol a'r ffigwr uchaf a gofnodwyd erioed.

Gosododd Llywodraeth Cymru darged adfer i fyrddau iechyd ddileu arosiadau o ddwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, sef un o bum targed a nodwyd yn y 'Cynllun Adfer Gofal a Gynlluniwyd'. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyrraedd pob un o’i thargedau adfer, gan gynnwys y targed i ddileu arosiadau o ddwy flynedd.

Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar arosiadau hir am driniaeth gan y GIG, yn benodol perfformiad presennol yn erbyn yr amser aros targed o ddwy flynedd.

Blaenoriaethu arosiadau o ddwy flynedd

Yn un o gyfarfodydd diweddar Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd, ei bod hi am flaenoriaethu cleifion sydd wedi wynebu’r amseroedd aros hiraf am driniaeth, hyd yn oed os yw hyn o bosibl yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau eraill ynghylch adfer gofal a gynlluniwyd.

Ym mis Ebrill 2023, ysgrifennodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru at y byrddau iechyd yn nodi y dylai cleifion sy’n aros dros ddwy flynedd am driniaeth gael eu rhoi yn yr un categori â chleifion brys wrth drefnu apwyntiadau.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sef ‘Aros yn iach?’ (Ebrill 2022), yn trafod y canlyniadau i gleifion yn sgil amseroedd aros estynedig am driniaeth gan y GIG. Canfu’r Pwyllgor fod profiad y claf yn y sefyllfaoedd hyn yn heriol yn gorfforol ac yn emosiynol (gweler ein herthygl o fis Mehefin).

Daeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r casgliad y gall aros am driniaeth olygu poen neu anghysur parhaus, gyda rhai cleifion yn profi hyn am gyfnod estynedig. Gall rhai cleifion weld eu cyflwr yn gwaethygu wrth iddynt aros. Gall cyflyrau cleifion waethygu, gan ddod yn fwy cymhleth a heriol, a gall gymryd mwy o amser a chostio mwy i’w trin.

Hefyd, canfu'r Pwyllgor fod y cleifion sydd wedi wynebu’r amseroedd aros hiraf yn aml yn fwy bregus o ran eu hiechyd meddwl, gydag amseroedd aros hir yn aml yn arwain at bryder a straen.

Fodd bynnag, mae yna gyfyngiadau i ddull gweithredu sydd dim ond yn canolbwyntio ar ymdrin â’r amseroedd aros hiraf. Mae’r King’s Fund eisoes wedi nodi y dasg gymhleth o geisio taro'r cydbwysedd cywir rhwng ymdrin â rhestrau aros hanesyddol a rhoi sylw i achosion newydd a brys.

Un anfantais sylweddol yw y gallai waethygu'r gwahaniaethau presennol o ran mynediad at ofal iechyd. Er bod darparu gofal y mae cleifion wedi bod yn aros yn hir amdano yn hanfodol, gall canolbwyntio ar y grŵp hwn gael yr effaith anfwriadol o esgeuluso cleifion sydd ag anghenion brys ond sydd ddim wedi bod yn aros cyhyd. Er enghraifft, mae’r Gweinidog Iechyd yr un mor ymroddedig i sicrhau bod gostyngiad yn yr ôl-groniad o gleifion sy’n aros yn rhy hir ar y llwybr canser (y mae diagnosis a thriniaeth gynnar ar eu cyfer yn aml yn hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus).

Gall canolbwyntio ar y cleifion sy'n aros hiraf yn unig arwain at dagfa yn y system. Mae’n ymdrin â'r symptomau yn hytrach na phroblemau sylfaenol o fewn y system gofal iechyd (hynny yw, y rhesymau sylfaenol am restrau aros hir, fel cyllid annigonol, prinder gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, seilwaith sydd wedi dyddio neu brosesau aneffeithlon). Nid yw'r dull hwn yn blaenoriaethu mesurau ataliol ychwaith, sy’n cael eu cydnabod yn hanfodol i leihau rhestrau aros mewn ffordd gynaliadwy.

Perfformiad presennol i leihau arosiadau o ddwy flynedd

Er gwaethaf y ffocws sylweddol ar leihau amseroedd aros, mae perfformiad wedi gwaethygu yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd nifer llwybrau’r cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth ym mis Awst 2023 64.1 y cant yn uwch nag ar ddechrau’r pandemig COVID-19 ym mis Chwefror 2020.

Mae cyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn hwy na dwy flynedd bellach yn gostwng bob mis ond mae'r niferoedd yn parhau i fod yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Ym mis Awst 2023, roedd tua 27,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hwy na dwy flynedd i ddechrau triniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau.

Mae rhagamcan sy’n defnyddio data o’r cyfnod o fis Mawrth i fis Awst 2023 yn dangos, yn ôl y gyfradd gyfredol o gynnydd (hynny yw, os yw cyfradd y cynnydd ers mis Mawrth 2023 yn cael ei chynnal), y caiff y targed o ddileu arosiadau o ddwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau ei gyflawni oddeutu mis Medi 2025. Y targed diwygiedig yw i fyrddau iechyd gyrraedd y targed hwn erbyn mis Mawrth 2024.

Ffigur 1: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 105 o wythnosau i ddechrau triniaeth a’r rhagamcan yn seiliedig ar y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Awst 2023

Graff yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros 105 wythnos i ddechrau triniaeth yn cynyddu

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi'u grwpio a chamau ar hyd y llwybr

Yn y targedau adfer, mae 'y rhan fwyaf' yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio’r saith sy’n cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol. Un o'r saith arbenigedd hyn yw trawma ac orthopedeg, sy'n cynnwys cleifion sy'n aros am driniaeth megis gosod pen-glin neu glun newydd. Mae'r cleifion hyn yn llawer mwy tebygol o orfod aros yn hir am driniaeth.

Mae arbenigeddau heriol eraill sydd ag arosiadau sylweddol dros ddwy flynedd yn cynnwys: wroleg; llawfeddygaeth gyffredinol; y glust, y trwyn a’r gwddf; offthalmoleg; gynaecoleg; a llawfeddygaeth y geg.

Ffigur 2: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros 105 wythnos i ddechrau triniaeth yn ôl y llwybrau sydd â'r amseroedd aros hiraf (hynny yw, yn ôl swyddogaeth y driniaeth)

Graff yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros 105 wythnos i ddechrau triniaeth yn ôl y llwybrau sydd â'r amseroedd aros hiraf, fesul swyddogaeth y driniaeth berthnasol

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi'u grwpio a swyddogaeth y driniaeth, o fis Ionawr 2021 ymlaen

Arosiadau o ddwy flynedd yn Lloegr

Yn ôl Llywodraeth Cymru, ni ddylid cymharu perfformiad o ran amseroedd aros gan GIG Cymru â pherfformiad y GIG yn Lloegr oherwydd amrywiadau yn y ffordd y caiff data am amseroedd aros eu casglu a’u hadrodd. Gall hyn wneud cymariaethau uniongyrchol yn gamarweiniol. Am y rheswm hwnnw, nid ydym wedi cymharu amseroedd aros yn yr erthygl hon. Yn ôl y GIG yn Lloegr, mae arosiadau o ddwy flynedd bron wedi’u dileu.

Y camau nesaf i leihau'r ôl-groniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod am flaenoriaethu cleifion sydd â’r amseroedd aros hiraf am driniaeth gan y GIG. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi nodi yn ei adroddiad fod hyn yn hollbwysig i'r miloedd o bobl sy'n aros mewn poen neu bryder. Fodd bynnag, gwnaeth y Pwyllgor hefyd gydnabod yn ei adroddiad fod yn rhaid gwneud hyn ar yr un pryd ag ymdrin â'r materion systematig sy’n gyfrifol am yr amseroedd aros estynedig hyn, a fydd yn y pen draw yn hwyluso’r gwaith o leihau'r ôl-groniad.

Gallwch gadw llygad ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn erbyn ei phum targed adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd drwy ddarllen ein Hadroddiadau Monitro Tymhorol ar Amseroedd Aros y GIG, a gyhoeddir gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru