Ym mhle mae brechlynnau COVID-19 yn cael eu rhoi yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 29/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/01/2021   |   Amser darllen munud

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud yr wythnos hon bod “y gwaith sy’n mynd rhagddo i adeiladu ein seilwaith yn gwbl hanfodol” i gyflawni strategaeth frechu Llywodraeth Cymru.

Mae’r erthygl hon yn nodi’r seilwaith ar gyfer cyflwyno brechlynnau ym mhob un o saith bwrdd iechyd lleol Cymru. Cafodd ei diweddaru ar 27 Ionawr.

Byddwn yn parhau i diweddaru ac datblygu’r dudalen wrth i fyrddau iechyd ddiweddaru eu tudalennau gwe ac wrth i’w cynlluniau barhau i gael eu rhoi ar waith. I gael gwybodaeth gefndir a data am gyflwyno’r brechlyn darllenwch ein herthyglau yma ac yma.

Y strategaeth  frechu

Mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru yn defnyddio “model cyfun” o ddarparu’r brechlyn, sef cymysgedd o ganolfannau brechu torfol, meddygfeydd a chanolfannau brechu cymunedol. Bydd brechlynnau hefyd yn parhau i gael eu darparu mewn unedau symudol ac ar wardiau ysbytai.

Ar 19 Ionawr, eglurodd y Gweinidog fod 28 o ganolfannau brechu torfol ar hyn o bryd, a bod capasiti’r rhain yn amrywio., Roedd 17 yn rhagor wedi’u cynllunio, gan roi cyfanswm o 45. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl y bydd 250 meddygfa ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y broses gyflwyno’r brechlyn fesul cam erbyn diwedd mis Ionawr. At hyn, roedd cynllun peilot  mewn fferyllfeydd cymunedol wedi dechrau yng ngogledd Cymru.

Rhoddodd y Gweinidog ragor o wybodaeth i’r Senedd ar 26 Ionawr, yn esbonio bod 329 o feddygfeydd yn awr yn rhan o’r broses o gyflwyno’r brechlyn, a bod tri chlwstwr o feddygfeydd wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot i roi brechlyn Pfizer BioNTech (dwy yng ngogledd Cymru, ac un yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf). 

Sut mae pob bwrdd iechyd yn cyflwyno’r brechlyn

Mae’r adran hon yn dwyn ynghyd y seilwaith cyflenwi brechlyn a nodwyd gan bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru ar eu gwefannau. Cafodd y wybodaeth ei diweddaru ar 27 Ionawr 2021.  

Gwahaniaethau rhwng gwybodaeth Llywodraeth Cymru a gwybodaeth y byrddau iechyd lleol

Ond mae rhai gwahaniaethau rhwng rhestr Llywodraeth Cymru o ganolfannau brechu a’r rhestrau o ganolfannau y mae’r byrddau iechyd wedi’u rhoi ar eu gwefannau.

Er enghraifft, nid yw bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i agor canolfan frechu yn Llanelli ar fap na rhestr frechu Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw fwrdd iechyd, ar adeg diweddaru’r erthygl hon, wedi sôn am agor na chynllunio i agor canolfannau yn Aberfan, Abertyleri, Pontypridd na Llantrisant (sydd i gyd ar restr Llywodraeth Cymru) a dim ond un ganolfan a grybwyllir ar gyfer Casnewydd, yn hytrach na dwy ganolfan. Nid yw’n glir ychwaith a yw rhai o’r canolfannau brechu mewn ysbytai y mae rhai byrddau iechyd yn eu gweithredu, neu bob un ohonynt, wedi’u cynnwys ar restr Llywodraeth Cymru.

Mae gwahaniaethau hefyd rhwng y derminoleg a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddisgrifio canolfannau brechu, a’r derminoleg a ddefnyddir gan y byrddau iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r term “canolfannau brechu” a “chanolfannau brechu cymunedol”, ond mae’r byrddau iechyd yn defnyddio amrywiol dermau i’w disgrifio, fel “canolfannau brechu torfol”, “canolfannau brechu lleol” a “chanolfannau brechu mewn ysbytai”. Mae’r adran hon yn defnyddio’r derminoleg y mae pob bwrdd iechyd yn ei defnyddio i ddisgrifio eu canolfannau.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Tair canolfan frechu, sef Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam (mae’r rhain yn awr wedi cau dros dro a byddant yn ailagor yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth i staff rheng flaen ddecrau cael eu hail ddos);
  • Tair canolfan brechu torfol mewn safleoedd yn yr Ysbytai Enfys ym Mangor, Llandudno a Glannau Dyfrdwy;
  • Mae pob un o’r 98 meddygfa yn ardal y bwrdd iechyd yn rhan o’r broses gyflwyno fesul cam, gyda phob un yn darparu brechlynnau o’r wythnos sy’n dechrau ar 18 Ionawr, yn dibynnu ar y cyflenwad o’r brechlyn. Cymerodd dau glwstwr o feddygfeydd ran yn y cynllun peilot i roi brechlyn Pfizer dros benwythnos 23-24 Ionawr; ac
  • 17 canolfan brechu lleol yn y lleoliadau hyn, a fydd yn cael eu hagor yn ddiweddarach yn ystod y rhaglen frechu. Fel ar 27 Ionawr, roedd un ganolfan frechu wedi agor, sef Canolfan Catrin Finch yn Wrecsam,

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Tri chanolfan brechu torfol yn ySblot, Pentwyn (yn agor ar 1 Chwefror) a’r Barri (yn agor ar 8 Chwefror);
  • Dau is-glinig i staff rheng flaen yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac
  • Pedwar ar bymtheg o dimau symudol; a
  • Bydd pob un o’r 60 meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd yn rhan o’r broses gyflwyno’r brechlyn erbyn 15 Chwefror.

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Chwe canolfan brechu torfol sef Tŷ Penallta ym Mwrdeistref Caerffili, Glyn Ebwy, y Fenni, Casnewydd, Trecelyn a Chwmbrân, ac mae
  • 72 meddygfa yn cymryd rhan yn y broses gyflwyno o’r wythnos sy’n dechrau ar 18 Ionawr.

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Mae’r bwrdd iechyd yn egluro ei fod yn brechu mewn pedwar lleoliad:
    • Nifer heb ei ddatgelu o ganolfannau brechu mewn ysbytai ar gyfer staff rheng flaen;
    • Cartrefi gofal, gan ddefnyddio nifer heb eu datgelu o dimau symudol;
    • Pob un o’r 51 meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd,
    • a thair meddygfa mewn un clwstwr sy’n cymryd rhan mewn cynllun peilot i roi brechlyn Pfizer BioNTech; a
    • Phedair canolfan brechu cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ystrad, Abercynon, a Merthyr Tudful

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Mae pob un o’r 48 meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd wedi “cofrestru” i ddarparu’r brechlyn, a
  • Chwe canolfanbrechu torfol yn Hwlffordd, Aberteifi, Llanelli, Aberystwyth, Dinbych y Pysgod a Chaerfyrddin.

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Tair canolfan brechu torfol yn y Drenewydd, Bronllys a Llanfair-ym-Muallt, a
  • Bydd pob un o’r 16 meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd yn cymryd rhan yn y broses gyflwyno fesul cam o 25 Ionawr ymlaen, a brechir hefyd mewn cartrefi gofal ac ar wardiau ysbytai.

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Mae pob un o’r 49 meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd wedi “cofrestru” i ddarparu brechlynnau;
  • Tair canolfan brechu torfol, sef yn Orendy Margam, Canolfan Gorseinon ac yn Ysbyty Maes y Bae; a
  • Thair canolfan frechu mewn ysbytai yn Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Cefn Coed.

Cafwyd yr holl wybodaeth o Wefan y Bwrdd Iechyd .


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru