Menyw yn derbyn frechlyn

Menyw yn derbyn frechlyn

Ym mha grwpiau mae cyfraddau is o bobl yn cael eu brechu?

Cyhoeddwyd 07/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r bylchau anghydraddoldeb o ran faint sydd wedi cael o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 rhwng grwpiau ethnig ac economaidd-gymdeithasol mewn oedolion hŷn yng Nghymru wedi lleihau ychydig ers mis Mawrth, ond mae anghydraddoldebau wedi cynyddu mewn grwpiau iau.

Dyma yw canfyddiadau diweddaraf o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ers mis Chwefror, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau misol ar anghydraddoldebau yn y cyfraddau brechu, sy'n rhoi dadansoddiad o'r rhai sydd wedi cael dos cyntaf ac ail ddos brechlyn yn ôl grŵp ethnig, cwintel amddifadedd, rhyw ac oedran.

Mae'r erthygl hon yn ddiweddariad o'n herthygl ym mis Mawrth: ‘Pwy sy'n cael eu gadael ar ôl wrth i raglen frechu’r coronafeirws gael ei chyflwyno?’. Rydym yn cyhoeddi diweddariadau wythnosol ar ddata brechu sy'n amlinellu pwy sydd wedi cael dos cyntaf ac ail ddos yn ôl grŵp blaenoriaeth ledled Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol.

Pwy sydd mewn perygl o hyd?

Cyn i'r broses o gyflwyno'r brechlyn ddechrau, fe wnaeth arbenigwyr iechyd y cyhoedd fynegi pryderon y gallai cyfraddau brechu fod yn is mewn rhai grwpiau ethnig. Fe wnaeth eraill rybuddio y gallai'r rhaglen frechu wneud anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes yn waeth.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth brechu teg, a oedd yn nodi y bydd Pwyllgor Brechu Teg newydd yn “sicrhau bod y rhaglen frechu yn cynnwys pawb”. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Llywodraeth ddiweddariad i’r strategaeth brechu, gan nodi ei bod yn dilyn “egwyddor o beidio â gadael neb ar ôl”.

Wrth i achosion o COVID-19 gynyddu, bydd cymunedau a grwpiau lle mae llai o bobl wedi cael eu brechu mewn mwy o berygl yn sgil y feirws.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi canfod bod un dos o’r brechlyn 17 y cant yn llai effeithiol o ran atal salwch o’r amrywiolyn Delta (sy’n deillio o India) o'i gymharu â'r amrywiolyn Alpha (sy’n deillio o Gaint, y DU). Felly, rydym yn gwybod bod angen ail ddos i sicrhau cyfradd uwch o effeithiolrwydd ac amddiffyniad.

Pobl o rai grwpiau ethnig

Mae'r graff isod yn dangos bod y nifer y bobl 30-39 oed sydd wedi cael eu brechu yn y grŵp ethnig Du 26.3 pwynt canran yn is na phobl 30-39 oed yn y grŵp ethnig Gwyn.

Pobl sydd wedi cael un dos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a grŵp ethnig

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Er bod y gwaith o roi’r ail ddos yn mynd rhagddo o hyd, mae'r data hyd yn hyn eisoes yn dangos patrwm tebyg o wahaniaethau rhwng grwpiau ethnig fel y gwelir yn y graff isod.

Pobl sydd wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a grŵp ethnig

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pobl yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig

Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod anghydraddoldebau i’w gweld o hyd rhwng oedolion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig.

Mae'r ddau graff isod yn dangos nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn ôl grŵp oedran ac ardaloedd o amddifadedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD). Mae WIMD yn fesur cyffredinol o amddifadedd ar sail ar nifer o ffactorau fel incwm, cyflogaeth, iechyd ac addysg.

Mae'r graff isod yn dangos bod y gwahaniaethau mwyaf yn y nifer sy'n cael dos cyntaf i’w gweld ymhlith y rhai dan 50 oed. Yn y grwpiau oedran 18-29, 30-39 a 40-49, mae gwahaniaeth o oddeutu 10 pwynt canran rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig.

Pobl sydd wedi cael un dos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a chwintel WIMD o amddifadedd ardal breswyl

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pobl sydd wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a chwintel WIMD o amddifadedd ardal breswyl

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwrywod

Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi gwahaniaethau yn y cyfraddau brechu rhwng y rhai sydd â rhyw wedi'i recordio fel gwryw neu fenyw.

Mae'r graff isod yn dangos bod y nifer sydd wedi’u brechu yn llawer is ymhlith dynion dan 60 oed nag ymhlith menywod. Y bwlch mwyaf yw 8.3 pwynt canran rhwng gwrywod a benywod yn y grŵp oedran 40-49.

Pobl sydd wedi acel o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a rhyw

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau yn dod yn fwy amlwg fyth wrth edrych ar yr ail ddos, yn enwedig ymhlith y rhai o dan 60 oed.

Pobl sydd wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19 yn ôl oedran a rhyw

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pam nad yw rhai pobl yn dewis cael y brechlyn?

Ers mis Ionawr 2021 mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynnwys cwestiynau am y rhesymau dros ddewis peidio â chael y brechlyn yn ei harolygon sy’n ceisio deall effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r graff isod yn dangos y pum rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd dros amser ac mae’n dangos bod y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd gan ymatebwyr oedd yn dweud nad oeddent eisiau cael eu brechu wedi newid yn aml dros y pum mis diwethaf.

Ar 2 Gorffennaf, roedd 51 y cant o'r ymatebwyr yn dweud eu bod yn poeni am yr effeithiau hirdymor ar eu hiechyd a dywedodd 49 y cant eu bod yn poeni am y sgil-effeithiau.

Rhesymau dros ddewis peidio â chael brechlyn COVID-19 os caiff/pan gaiff ei gynnig

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae gwaith ymchwil gan is-grŵp ethnigrwydd Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar gyfer Argyfyngau (SAGE) yn awgrymu bod y rhesymau penodol ymhlith rhai grwpiau ethnig dros betruso ynghylch cael y brechlyn yn cynnwys:

  • diffyg hyder yn y brechlyn;
  • canfyddiad o risg;
  • diffyg ffydd mewn awdurdodau cyhoeddus;
  • anghyfleustra a rhwystrau mynediad;
  • cyd-destun cymdeithasol-ddemograffig a diffyg cymeradwyaeth, a
  • diffyg cynnig brechlyn neu ddiffyg cyfathrebu gan ddarparwyr dibynadwy ac arweinwyr cymunedol.

Mae einherthygl wadd gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o Brifysgol Abertawe yn edrych ar betruster brechu yng Nghymru.

Beth sy'n cael ei wneud i gynyddu'r nifer sy’n cael eu brechu yn y grwpiau hyn?

Yn niweddariad ei strategaeth brechu, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y GIG yn adolygu data ar y rhai nad ydynt yn dod i’w hapwyntiad brechu i “ddeall patrymau o ran amseriad a daearyddiaeth”. Mae’n dweud bod hyn yn caniatáu “deunydd cyfathrebu wedi'i dargedu i roi gwybodaeth i bobl a’u galluogi i fanteisio ar eu cynnig”.

Roedd strategaeth brechu Llywodraeth Cymru yn cynnwys tair carreg filltir. Y drydedd o’r rhain oedd y bydd dos cyntaf o frechlyn yn cael ei gynnig i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021. Dywedodd, ar ôl cyflawni'r garreg filltir hon, y “bydd cyfnod penodol o ganolbwyntio ar degwch a mynediad at y brechlyn”. Ar 13 Mehefin 2021, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd dos cyntaf o frechlyn yn cael ei gynnig i bob oedolyn erbyn 14 Mehefin.

Fe wnaeth is-grŵp ethnigrwydd SAGE awgrymu rhai atebion ar gyfer goresgyn y rhwystrau hyn, gan gynnwys:

  • Gwella ymddiriedaeth drwy feddygon teulu a chanolfannau iechyd drwy argymell a chynnig brechlynnau, a gwella nifer y gweithwyr gofal iechyd o bob grŵp ethnig sy’n cael eu brechu;
  • Ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys gweithio gydag arweinwyr cymunedol, gan ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd am y broses MNRA, fideos addysgiadol mewn gwahanol ieithoedd, gwybodaeth glir am sgil-effeithiau, a datgysylltiad o ffigurau gwleidyddol;
  • Mynd i'r afael â materion mynediad a chyfleustra ar lefel leol, er enghraifft drwy frechu pobl mewn gweithleoedd, canolfannau cymunedol, a lleoliadau crefyddol, digolledu ariannol (costau teithio, neu golli enillion), helpu pobl i wneud apwyntiadau (gan gynnwys cludiant), ac annog pobl i wneud apwyntiadau a’u hatgoffa i ddod iddynt; a
  • Deunydd cyfathrebu wedi'i deilwra'n ddiwylliannol sy’n cael ei rannu gan ffynonellau dibynadwy, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer staff gofal iechyd i alluogi sgyrsiau am gredoau ynghylch brechlynnau, a hyfforddiant i arweinwyr ffydd ar ymchwil i frechlynnau.

Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru