Adolygiad yr Athro Hazelkorn
Ym mis Gorffennaf 2015, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Athro Ellen
- Cyllid
- Llywodraethu
- Sicrhau ansawdd/safonau addysg a hyfforddiant, a
- Rheoli risgiau.
Prif argymhellion
Mae'r Athro Hazelkorn wedi gwneud pedwar argymhelliad lefel uchel ac is-argymhellion cysylltiedig, ac mae'r adroddiad yn nodi y gall yr argymhellion hyn 'gyda’i gilydd, helpu i wneud y newidiadau systemig sydd eu hangen er mwyn datblygu system addysg ôl-orfodol sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif'. Dyma'r chwe argymhelliad lefel uchel:- Datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y system addysg ôl-orfodol i Gymru sy’n seiliedig ar gysylltiadau cryfach rhwng polisi addysg, 14 darparwyr a darpariaeth, a nodau cymdeithasol ac economaidd er mwyn sicrhau y caiff anghenion Cymru eu diogelu at y dyfodol hyd y gellir.
- Sefydlu un awdurdod newydd – a gaiff ei alw’n Awdurdod Addysg Drydyddol – fel un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydgysylltu i’r sector ôl-orfodol.
- Rhoi anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg, drwy sefydlu llwybrau dysgu a gyrfa clir a hyblyg.
- Dylai ymgysylltu dinesig fod yn rhan ganolog o genhadaeth greiddiol a dod yn ymrwymiad sefydliad cyfan ym mhob sefydliad ôl-orfodol.
- Sicrhau gwell cydbwysedd rhwng darpariaeth addysg ac ymchwil a arweinir gan gyflenwad a darpariaeth addysg ac ymchwil a arweinir gan y galw gan symud i ffwrdd oddi wrth system a ysgogir gan alw yn y farchnad i gyfuniad o reoleiddio a chyllid sy’n seiliedig ar gystadleuaeth.
- Creu’r polisïau, y prosesau a’r arferion priodol i annog syniadaeth hirdymor a chydgysylltiedig well ynglŷn ag anghenion a gofynion addysgol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.
Mae strwythurau wedi dal Cymru yn ôl rhag medru bod yn ddigon ystwyth i fedru darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol di-dor sy’n gweithio i ddysgwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid ar bob lefel. […] Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfle […] i fynd i’r afael â’r gwendid strwythurol cynhenid sydd yn y systemau cynllunio ac ariannu cyfredol.Nododd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru:
Mae ar ein economi angen system addysg sy’n cydnabod bod dysgu rhan amser a dysgu yn y gweithle yn gallu bod yr un mor heriol yn addysgol â dysgu pynciau academaidd mewn ystafell ddosbarth. […] Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r Cynulliad newydd i archwilio’r materion a godwyd a’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.Dywedodd Prifysgolion Cymru, a oedd yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch, yn ei ymateb i'r adroddiad:
We are pleased to see the report recognising the vital role that universities play in securing economic prosperity and social justice for Wales. In broad terms, Professor Hazelkorn’s recognition of the importance of an arms-length body for distributing public funding for higher education is especially welcome. We look forward to considering the report in detail and working together with Government and key stakeholders to reach the very best outcome that we can for prospective students who aspire to go on to study at a higher level, and for ensuring continued high performance of higher education in Wales in the area of research and knowledge transfer. [my emphasis]Mae cryn ganolbwyntio yn adolygiad Hazelkorn ar faterion sy'n ymwneud â llywodraethu a rheoleiddio. Fodd bynnag, mae rhai o'r argymhellion lefel uchel, os cânt eu derbyn a'u gweithredu gan Lywodraeth Cymru, â bwriad o gael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr. Dywedodd yr Athro Hazelkorn, er mwyn cyflawni hyn, bod angen gwneud fel a ganlyn:
- Mabwysiadu ymagwedd gyfannol sy'n 'gwerthfawrogi ac yn gwobrwyo parch cydradd rhwng llwybrau 57 galwedigaethol ac academaidd, boed hynny’n llawn amser neu’n rhan amser, ar gampws neu oddi ar gampws'.
- 'Sicrhau mwy o gyfranogiad a mynediad ymhlith pob oedran, rhyw a thalent, ac yn barhaus drwy gydol oes'.
- 'Parhau i ehangu mynediad a chyfranogiad, gan gyflwyno mesurau i oresgyn rhagfarn gudd', er enghraifft ar sail rhyw, ethnigrwydd, hil a statws economaidd-gymdeithasol.
- 'Gwella ansawdd y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael yn gyhoeddus ynglŷn â’r holl lwybrau dysgu a gyrfa, galwedigaethol ac academaidd, a’r holl sefydliadau, o oedran cynnar, er mwyn ategu dewis hyddysg i fyfyrwyr'.
Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru