Ydych chi'n gweithio neu'n astudio mewn sefydliad yn y sector addysg neu hyfforddiant ôl-16: mewn prifysgol, coleg addysg bellach neu ddarparwr hyfforddiant?

Cyhoeddwyd 30/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2020   |   Amser darllen munudau

30 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg   Disgwylir i Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wneud datganiad ynghylch argymhellion adroddiad Hazelkorn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth: Agenda'r Cyfarfod Llawn Dydd Mawrth 31 Ionawr 2017

Adolygiad yr Athro Hazelkorn

Ym mis Gorffennaf 2015, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Athro Ellen Dyma lun o'r SiambrHazelkorn gynnal adolygiad o oruchwylio a rheoleiddio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Cyhoeddwyd adolygiad yr Athro Hazelkorn, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, ym mis Mawrth 2016. Pan gafodd Kirsty Williams ei phenodi yn Ysgrifennydd y Cabinet, ymrwymodd y byddai'n ymgynghori ymhellach ar argymhellion penodol adolygiad Hazelkorn. Gofynnwyd i'r Athro Hazelkorn adolygu trefniadau goruchwylio a rheoleiddio addysg ôl-orfodol yng Nghymru, gan gyfeirio'n arbennig at swyddogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn y dyfodol. Roedd cylch gorchwyl yr Adolygiad yn cynnwys: Adolygu, dadansoddi a dogfennu'r trefniadau cyfredol ar gyfer goruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru, gan gynnwys:
  • Cyllid
  • Llywodraethu
  • Sicrhau ansawdd/safonau addysg a hyfforddiant, a
  • Rheoli risgiau.
Pan gyhoeddwyd yr adolygiad cyn Etholiad y Cynulliad, dywedodd Huw Lewis, sef y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, mai mater i'r Llywodraeth newydd fyddai ystyried a phenderfynu sut y byddai'n ymateb i'r adolygiad. At hynny, roedd yr adolygiad yn nodi a oedd angen deddfwriaeth neu beidio.

Prif argymhellion

Mae'r Athro Hazelkorn wedi gwneud pedwar argymhelliad lefel uchel ac is-argymhellion cysylltiedig, ac mae'r adroddiad yn nodi y gall yr argymhellion hyn 'gyda’i gilydd, helpu i wneud y newidiadau systemig sydd eu hangen er mwyn datblygu system addysg ôl-orfodol sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif'. Dyma'r chwe argymhelliad lefel uchel:
  1. Datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y system addysg ôl-orfodol i Gymru sy’n seiliedig ar gysylltiadau cryfach rhwng polisi addysg, 14 darparwyr a darpariaeth, a nodau cymdeithasol ac economaidd er mwyn sicrhau y caiff anghenion Cymru eu diogelu at y dyfodol hyd y gellir.
  2. Sefydlu un awdurdod newydd – a gaiff ei alw’n Awdurdod Addysg Drydyddol – fel un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydgysylltu i’r sector ôl-orfodol.
  3. Rhoi anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg, drwy sefydlu llwybrau dysgu a gyrfa clir a hyblyg.
  4. Dylai ymgysylltu dinesig fod yn rhan ganolog o genhadaeth greiddiol a dod yn ymrwymiad sefydliad cyfan ym mhob sefydliad ôl-orfodol.
  5. Sicrhau gwell cydbwysedd rhwng darpariaeth addysg ac ymchwil a arweinir gan gyflenwad a darpariaeth addysg ac ymchwil a arweinir gan y galw gan symud i ffwrdd oddi wrth system a ysgogir gan alw yn y farchnad i gyfuniad o reoleiddio a chyllid sy’n seiliedig ar gystadleuaeth.
  6. Creu’r polisïau, y prosesau a’r arferion priodol i annog syniadaeth hirdymor a chydgysylltiedig well ynglŷn ag anghenion a gofynion addysgol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.
Ymateb rhanddiliaid ac effaith ar fyfyrwyr Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, bu i'r cyrff ambarél a oedd yn cynrychioli colegau a darparwyr hyfforddiant addysg pellach yng Nghymru, sef Colegau Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, groesawu'r adroddiad mewn datganiad ar y cyd ar 10 Mawrth 2016. Dywedodd Colegau Cymru:
Mae strwythurau wedi dal Cymru yn ôl rhag medru bod yn ddigon ystwyth i fedru darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol di-dor sy’n gweithio i ddysgwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid ar bob lefel. […] Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfle […] i fynd i’r afael â’r gwendid strwythurol cynhenid sydd yn y systemau cynllunio ac ariannu cyfredol.
Nododd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru:
Mae ar ein economi angen system addysg sy’n cydnabod bod dysgu rhan amser a dysgu yn y gweithle yn gallu bod yr un mor heriol yn addysgol â dysgu pynciau academaidd mewn ystafell ddosbarth. […] Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r Cynulliad newydd i archwilio’r materion a godwyd a’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.
Dywedodd Prifysgolion Cymru, a oedd yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch, yn ei ymateb i'r adroddiad:
We are pleased to see the report recognising the vital role that universities play in securing economic prosperity and social justice for Wales. In broad terms, Professor Hazelkorn’s recognition of the importance of an arms-length body for distributing public funding for higher education is especially welcome. We look forward to considering the report in detail and working together with Government and key stakeholders to reach the very best outcome that we can for prospective students who aspire to go on to study at a higher level, and for ensuring continued high performance of higher education in Wales in the area of research and knowledge transfer. [my emphasis]
Mae cryn ganolbwyntio yn adolygiad Hazelkorn ar faterion sy'n ymwneud â llywodraethu a rheoleiddio. Fodd bynnag, mae rhai o'r argymhellion lefel uchel, os cânt eu derbyn a'u gweithredu gan Lywodraeth Cymru, â bwriad o gael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr. Dywedodd yr Athro Hazelkorn, er mwyn cyflawni hyn, bod angen gwneud fel a ganlyn:
  • Mabwysiadu ymagwedd gyfannol sy'n 'gwerthfawrogi ac yn gwobrwyo parch cydradd rhwng llwybrau 57 galwedigaethol ac academaidd, boed hynny’n llawn amser neu’n rhan amser, ar gampws neu oddi ar gampws'.
  • 'Sicrhau mwy o gyfranogiad a mynediad ymhlith pob oedran, rhyw a thalent, ac yn barhaus drwy gydol oes'.
  • 'Parhau i ehangu mynediad a chyfranogiad, gan gyflwyno mesurau i oresgyn rhagfarn gudd', er enghraifft ar sail rhyw, ethnigrwydd, hil a statws economaidd-gymdeithasol.
  • 'Gwella ansawdd y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael yn gyhoeddus ynglŷn â’r holl lwybrau dysgu a gyrfa, galwedigaethol ac academaidd, a’r holl sefydliadau, o oedran cynnar, er mwyn ategu dewis hyddysg i fyfyrwyr'.
Os yw Kirsty Williams yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion Hazelkorn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (a ddisgwylir am 15:45), bydd gennych gyfle i ddweud eich dweud. Gallwch wylio'r Cyfarfod Llawn ar: Senedd TV
Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru