Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth ynghylch lefelau staff nyrsio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 13/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/07/2021   |   Amser darllen munudau

Mae rôl hanfodol nyrsys o ran rhoi gofal ac achub bywydau wedi bod yn amlycach yn ystod y pandemig COVID-19 nag erioed o’r blaen.

Yn 2016, pasiwyd y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yng Nghymru. Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gydnabod – mewn deddfwriaeth – y cysylltiad rhwng nifer y staff nyrsio, ynghyd â’r cymysgedd o sgiliau sydd ganddynt, a chanlyniadau i gleifion. Dilynwyd hyn gan yr Alban, lle pasiwyd yr Health and Care (Staffing) (Scotland) Act yn 2019, sy’n amlinellu gofynion staffio diogel ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn parhau i ymgyrchu dros ddeddfwriaeth ynghylch lefelau staff nyrsio diogel yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

I ddechrau, roedd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd yng Nghymru gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio priodol ar wardiau ysbyty acíwt i oedolion. Drwy gydol y broses o lunio a phasio’r ddeddfwriaeth, roedd yna fwriad clir y byddai hyn yn cael ei ehangu i gynnwys lleoliadau gofal iechyd eraill yn y dyfodol.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi prif ddarpariaethau Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i ymestyn y ddeddfwriaeth yng nghyd-destun COVID-19.

Cefndir y Ddeddf

Cyflwynodd Kirsty Williams AC y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ym mis Rhagfyr 2014 ar ôl iddi lwyddo yn y balot ar gyfer Bil Aelod. Diben y ddeddfwriaeth oedd:

  • ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd wneud darpariaeth ar gyfer lefelau diogel o staff nyrsio, a sicrhau bod nyrsys yn cael eu lleoli mewn niferoedd digonol i wneud y canlynol:
  • galluogi gofal nyrsio diogel i gael ei ddarparu i gleifion bob amser;
  • gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff eraill; a
  • chryfhau atebolrwydd ynglŷn a diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli’r gweithlu.

Dileodd gwelliant gan Lywodraeth Cymru y gair ‘diogel’ o deitl y Bil yn ystod trafodion Cyfnod 2. Cafodd y Bil ei basio gan y Cynulliad ym mis Chwefror 2016. Mae manylion llawn am daith y ddeddfwriaeth drwy’r Cynulliad ar gael ar wefan y Senedd.

Prif elfennau:

Mewnosododd y Ddeddf yr adrannau newydd a ganlyn i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (yn aml, defnyddir rhifau’r adrannau hyn i gyfeirio at y prif ddyletswyddau):

25A An overarching duty on local health boards and NHS trusts to have regard to the importance of providing sufficient nurses in all settings. This also applies where health boards are commissioning services from a third party. This duty came into force in April 2017.

25B A duty to calculate and maintain nurse staffing levels in specified settings (the ‘nurse staffing level’ is defined as “the number of nurses appropriate to provide care to patients that meets all reasonable requirements in that situation”). For adult acute medical and surgical wards, this came into force in April 2018. From October 2021, it will also apply to paediatric inpatient wards. This section also makes provision for extending the duty to further settings.

25C Sets out the method of calculation for nurse staffing levels.

25D Requires the Welsh Government to issue statutory guidance to health boards/trusts about their duties under 25B and 25C.

25E Health boards (and trusts where applicable) are required to report to Welsh Government on their compliance with section 25B after a three year period. The Welsh Government must subsequently publish a summary report. The first of these summary reports, for the period April 2018-April 2021, is expected to be published in autumn 2021.

Ymestyn y Ddeddf

Ar ddechrau’r Bumed Senedd, cafwyd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau “mwy o nyrsys mewn mwy o leoliadau, drwy gyfraith estynedig ar lefelau staffio nyrsys”. Mae gan y rhaglen staff nyrsio Cymru gyfan bum ffrwd waith, sef:

  • cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion – mae’r ddyletswydd i gyfrifo/cynnal lefelau staff nyrsio wedi bod yn berthnasol i wardiau acíwt ers mis Ebrill 2018;
  • cleifion mewnol pediatreg – bydd y ddyletswydd i gyfrifo/cynnal lefelau staff nyrsio yn berthnasol i wardiau pediatreg o fis Hydref 2021;
  • cleifion mewnol iechyd meddwl – gwaith yn parhau;
  • ymweliadau iechyd – gwaith yn parhau; a
  • nyrsio ardal – gwaith yn parhau.

Yn ei ymchwiliad i nyrsio cymunedol yn 2019, galwodd Pwyllgor Iechyd y Bumed Senedd ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn y Ddeddf i bob lleoliad. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddatgan:

Mae gwahaniaethau sylfaenol sylweddol a niferus rhwng y gwahanol leoliadau y mae nyrsys yn darparu gofal ynddynt yng Nghymru. (…). Mae'n llawer rhy gynnar i ddechrau deall lefel y cymhlethdod o ran yr amrywioldeb hwnnw mewn lleoliadau, a bydd angen i'r Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan wneud gwaith mapio helaeth cyn y gellir ystyried strategaeth genedlaethol. Mae Rheolwr y Rhaglen wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith hwnnw

Cynhaliodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru arolwg o’i aelodau cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Nododd dros dri chwarter o’r ymatebwyr y dylai cartrefi gofal a lleoliadau cymunedol gael eu blaenoriaethu wrth ymestyn y ddeddfwriaeth. Mewn llythyr at y Prif Weinidog (Mehefin 2021), galwodd ‘glymblaid’ o sefydliadau iechyd dros lefelau staff nyrsio diogel (dan arweiniad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru) am ymestyn y Ddeddf i gynnwys nyrsio cymunedol a wardiau iechyd meddwl i gleifion mewnol yn ystod tymor y Senedd hon.

Capasiti’r gweithlu nyrsio

Wrth graffu ar y Bil, nodwyd dro ar ôl tro mai’r prif rwystr rhag gweithredu’r ddeddfwriaeth oedd diffyg capasiti yn y gweithlu presennol,

Yn 2017, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd: “It is well known that the Act is being implemented at a time of global shortage in nurse staff”. Aeth ymlaen i egluro bod y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) wedi’i dylunio i gynnwys cyfnod rhagarweiniol hir i alluogi byrddau iechyd i baratoi ar gyfer y goblygiadau o ran cynllunio’r gweithlu. Hefyd, pwysleisiodd y Gweinidog y gwaith a oedd yn cael ei wneud i ymdrin â heriau wrth recriwtio nyrsys (er enghraifft, yr ymgyrch Hyfforddi/Gweithio/Byw) a’r ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i nyrsys.

Cyhoeddodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru adroddiad cynnydd ar y gwaith o weithredu’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ym mis Tachwedd 2019, gan nodi cwestiynau allweddol ar gyfer byrddau iechyd unigol a gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys parhau i fuddsoddi mewn addysg i nyrsys a chymryd camau i wella cyfraddau recriwtio a chadw nyrsys.

Ym mis Medi 2020, nododd y Gweinidog Iechyd ar y pryd fod y pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau sylweddol ychwanegol ar y gweithlu nyrsio, a’i fod wedi cael effaith ar y rhaglen waith ar gyfer ymestyn y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio. Wrth roi tystiolaeth yn ystod ymchwiliad Pwyllgor Iechyd y Bumed Senedd i effaith COVID-19, ailadroddodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ei alwad am i gamau gweithredu gael eu cymryd i ymdrin â’r diffyg nyrsys ac i gymryd pob cyfle i wella cyfraddau cadw nyrsys:

In the first wave, we saw so many nurses returning to the workforce to try and help out. (…). What work has been done to actually bring that group in permanently, and what work has been done to ask that group of people what would make them come back? That would be a really valuable lesson in terms of going forward.

Dylai’r adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar y camau a gymerwyd gan y byrddau iechyd i weithredu’r Ddeddf yn ystod y tair blynedd gyntaf (y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn hydref 2021) roi syniad i ni o lwyddiant y Ddeddf hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae’n glir y bydd gwireddu uchelgais y ddeddfwriaeth hon yn dibynnu ar sicrhau cyflenwad cynaliadwy o nyrsys a datblygu sylfaen dystiolaeth i gefnogi camau i ymestyn y Ddeddf i gynnwys lleoliadau eraill. Fel y’i nodir yn y Memorandwm Esboniadol:

Mae nyrsys yn darparu gofal 24 awr ar gyfer cleifion, yn gweithio ym mhob math o leoliad gofal iechyd a maes ymarfer clinigol, ac yn gofalu am bobl cyn eu geni hyd at farwolaeth. Fel y cyfryw, mae nyrsys mewn sefyllfa unigryw i gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pob aelod o‘r boblogaeth.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru