Gydag Erthygl 50 wedi’i hymestyn yn ddiweddar, gan olygu y bydd y DU yn ymadael â’r UE erbyn 31 Hydref 2019, mae’n amserol edrych ar y sefyllfa o ran y ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â Brexit a beth allai ddigwydd yn ystod y misoedd nesaf.
Y darn mawr o ddeddfwriaeth sydd wedi’i basio hyd yma yw Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sy’n troi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU, ac yn rhoi’r pwerau i Weinidogion greu a diwygio is-ddeddfwriaeth i sicrhau parhad a bod y gyfraith a ddargedwir yn gwneud synnwyr y tu allan i gyd-destun yr UE.
Gallwch ddarllen mwy am Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 a’r ddwy Ddeddf arall sydd wedi’u pasio ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn yn ein blog blaenorol ar y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth Brexit o fis Tachwedd 2018. Hefyd, cafodd Deddf Dulliau Diogelu Niwclear 2018 a Deddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian 2018 eu pasio ym mis Mai a mis Mehefin 2018 yn ôl eu trefn.
Pa Filiau sydd wedi dod yn gyfraith ers ein blog diwethaf?
Daeth Deddf Gofal Iechyd (Trefniadau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Swistir) 2019 yn gyfraith yn ddiweddar. Mae hyn yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol drefnu gofal iechyd y tu allan i’r DU a rhoi cytundebau gofal iechyd cyfatebol ar waith rhwng y DU a gwledydd yr AEE a’r Swistir.
Cafwyd argymhelliad (PDF, 500KB) gan Lywodraeth Cymru y dylid rhoi cydsyniad i’r Bil. Sicrhaodd welliant i’r Bil, yn ogystal â memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n cynnwys gofyniad statudol i ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig ar gytundebau sy’n cwmpasu meysydd datganoledig.
Derbyniodd y Cynulliad y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Mawrth 2019 a chafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 23 Mawrth 2019.
Hefyd, cafodd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2019 ei chyflwyno fel Bil Aelod Preifat ar 3 Ebrill 2019. Roedd y Ddeddf hon yn darparu mecanwaith i Senedd y DU roi cyfarwyddiadau i Brif Weinidog y DU ofyn am estyniad i Erthygl 50 gan y Cyngor Ewropeaidd os na ellid sicrhau cytundeb ar gyfer ymadael o fewn y cyfnod gwreiddiol. Aeth y Bil drwy Senedd y DU drwy ddefnyddio gweithdrefn garlam, a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 8 Ebrill 2019.
Beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y Biliau sy’n weddill?
Mae’r Bil Masnach bellach wedi cyrraedd pen ei daith drwy Dŷ’r Arglwyddi a bydd yn awr yn mynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin er mwyn i Aelodau Seneddol drafod gwelliannau’r Arglwyddi. Mae’r Bil Masnach yn rhan o’r fframwaith cyfreithiol a fydd yn galluogi’r DU i lunio cytundebau masnach sy’n sicrhau ‘parhad’ â gwledydd a blociau masnachu sydd â chytundebau o’r fath â’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.
Ar 12 Mawrth, rhoddodd y Cynulliad gydsyniad deddfwriaethol i’r Bil, ar ôl i Lywodraeth Cymru osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (PDF, 160 KB) y mis blaenorol. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod gwelliannau ac ymrwymiadau nad ydynt yn ddeddfwriaethol eu natur wedi ymdrin â’i phryderon ynghylch agweddau ar y Bil. Roedd y pryderon hyn yn gysylltiedig â gallu Gweinidogion y DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig a chyfyngiadau ar allu Gweinidogion Cymru i ddeddfu i weithredu’r Bil mewn meysydd datganoledig.
Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (PDF, 115 KB) ychwanegol ei osod ar 10 Mai 2019. Mae hyn yn cynnwys gwelliant i’r Bil, a wnaed ar ôl y bleidlais ar 12 Mawrth, sy’n ehangu’r term ‘is-ddeddfwriaeth’ i gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddfau a Mesurau’r Cynulliad. Dywed Llywodraeth Cymru mai un o effeithiau hyn yw ei bod yn ehangu pwerau datganoledig o dan y Bil. Bydd y gofyniad i Lywodraeth Cymru ymgynghori â Llywodraeth y DU cyn gwneud rheoliadau o dan y Bil Masnach yn cael ei ddatgymhwyso mewn achosion lle y gallai Gweinidogion Cymru wneud yr un peth mewn rheoliadau o dan Ddeddf neu Fesur y Cynulliad. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod y Cynulliad yn cydsynio i hyn, gan fod y gwelliant hwn yn gwella’r Bil yn ei barn hi. Bydd y Cynulliad yn trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol hwn yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mai.
Mae Bil Amaethyddiaeth a Bil Pysgodfeydd y DU yn ddwy enghraifft o Filiau’r DU mewn meysydd datganoledig, a fydd yn darparu fframweithiau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Biliau ei hun ynddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’w Bil Amaethyddiaeth arfaethedig ddod yn gyfraith erbyn diwedd y Cynulliad hwn, er y bydd yr ateb i’r cwestiwn a yw’n gallu gwneud yr un peth mewn perthynas â’i Bil Pysgodfeydd arfaethedig yn dibynnu ar gynnydd Bil Llywodraeth y DU.
Bydd Bil Amaethyddiaeth y DU yn darparu fframwaith cyfreithiol i ddisodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ac i sefydlu system yn y dyfodol ar gyfer cymorth amaethyddol a chymorth i reoli tir ar ôl Brexit. Aeth y Bil drwy’r cyfnod pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin ar 20 Tachwedd 2018, ac rydym yn aros am ddyddiad ar gyfer y cyfnod adrodd a’r trydydd darlleniad.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (PDF 163 KB) ar 26 Mawrth a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfuniad o ddiwygiadau ac ymrwymiadau nad ydynt yn ddeddfwriaethol eu natur wedi ymdrin â’i phryderon. Roedd y pryderon hyn yn seiliedig ar y cwestiwn i ba raddau y mae cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar amaethyddiaeth wedi’i ddatganoli, a dosbarthiad yr ardoll cig coch. Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ychwanegol ar ôl i’r Bil basio drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, gan ystyried unrhyw welliannau eraill a wneir iddo.
Nod Bil Pysgodfeydd y DU yw disodli’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a rhoi fframwaith deddfwriaethol wedi’i seilio yn y DU yn ei le o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar y Gyfraith ar y Môr. Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 29 Ebrill fod rhywfaint o gynnydd cadarnhaol wedi’i wneud mewn perthynas â phryderon Llywodraeth Cymru am agweddau ar y Bil. Mae’r un pryder sy’n weddill yn gysylltiedig â chymal 18 o’r Bil, lle cynigir bod Ysgrifennydd Gwladol y DU yn pennu cwotâu ar gyfer cyfleoedd i bysgota yn nyfroedd y DU. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi sut y byddai’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio.
Mae dau Fil arall ynghylch Brexit mewn meysydd sydd heb eu datganoli yn mynd drwy Dŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd. Rydym yn aros am ddyddiad ar gyfer cyfnod adrodd a thrydydd darlleniad y Bil Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) yn Nhŷ’r Cyffredin. Byddy Bil hwn yn rhoi terfyn ar y rhyddid i symud ac yn ymestyn rheolaethau mewnfudo i fod yn gymwys i ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir. Mae’n cynnwys amddiffyniad i ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon yng nghyfraith mewnfudo’r DU pan fydd y rhyddid i symud wedi ei ddiddymu, yn ogystal â phwerau i ddiwygio cyfraith yr UE a ddargedwir ynghylch nawdd cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw’n nodi’r rheolau mewnfudo yn y dyfodol ar gyfer dinasyddion yr UE.
Mae mewnfudo ei hun yn fater a gedwir yn ôl, ond bydd y Bil hwn yn berthnasol i ystod o feysydd polisi datganoledig, gan gynnwys y GIG, gofal cymdeithasol, addysg uwch a rhai diwydiannau penodol.
Dechreuodd y Bil Gwasanaethau Ariannol (Gweithredu Deddfwriaeth) yn Nhŷ’r Arglwyddi ac rydym bellach yn aros am ddyddiad ar gyfer y cyfnod adrodd a’r trydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin. Bydd y Bil yn caniatáu i Lywodraeth y DU wneud darpariaeth drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth gwasanaethau ariannol yr UE a gaiff ei mabwysiadu hyd at ddwy flynedd ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.
Y Bil arall sy’n weddill nad yw wedi’i gyflwyno eto gan Lywodraeth y DU yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), a fydd yn gweithredu’r cytundeb ymadael yng nghyfraith y DU. Ar 14Mai 2019, gwnaeth Prif Weinidog y DU ddatganiad yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil ar y cytundeb ymadael yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 3 Mehefin.
Darllenwch am Brexit a’r Cynulliad yma.
Erthygl gan Natasha Cowley, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Natasha Cowley gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.