cy

cy

Y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 a’r brechiadau

Cyhoeddwyd 14/03/2023   |   Amser darllen munudau

Mae hi ychydig dros dair blynedd ers 11 Mawrth 2020 pan wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan bod COVID-19 yn bandemig. Mae niferoedd yr achosion yn parhau’n isel o’i gymharu â’r niferoedd mawr yn gynharach yn y pandemig. Ond mae pryderon o hyd, gan gynnwys ynghylch y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a COVID hir.

Mae’r erthygl ddiweddaru hon yn edrych ar y sefyllfa bresennol, nifer yr achosion, y tueddiadau yn y niferoedd hynny, faint o bobl sy’n cael eu brechu, a rhai o’r materion polisi allweddol sy’n dod i’r amlwg.

Heintiau COVID-19

Mae data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y duedd gyffredinol mewn pobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 yng Nghymru wedi cynyddu ers diwedd mis Ionawr 2023.

Cyfraddau dyddiol wedi’u modelu o ganran y boblogaeth sy’n profi'n bositif am COVID-19 yn ôl gwledydd y DU (21 Rhagfyr 2022 - 20 Chwefror 2023)

Mae’r graff yn dangos gostyngiadau cyffredinol ar gyfer pob cenedl yn y DU o rhwng 3.4% a 6.8% ar 21 Rhagfyr 2022 i thua 1-2% ar 20 Chwefror 2023. Disgrifir tueddiadau ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf isod.

 

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau COVID-19, y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r ardal lliw pinc yn cynrychioli'r cyfwng credadwy o 95% ar gyfer Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion cadarnhaol, felly dylem fod yn ofalus ynghylch gor-ddehongli unrhyw symudiadau bach yn y duedd ddiweddaraf. Nid oes gennym yr un lefel o ffigurau yn eu cyfanrwydd fel y cyfnod lle roedd profion torfol; Efallai y bydd y ffigurau'n dal yn ddefnyddiol i ddangos tueddiadau ehangach, ond bydd yn destun newidiadau mewn cyfraddau dyddiol ac wythnosol.

Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 28 Chwefror 2023 cynyddodd canran y bobl a brofodd yn bositif yn yr Alban. Fodd bynnag, roedd y tueddiadau yn ansicr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r ffigurau amcangyfrifedig diweddaraf yn dangos y canlynol:

  • Cymru: 66,200 – tua 2.14% neu 1 o bob 45 o’r boblogaeth;
  • Lloegr: 1,333,400 – tua 2.38% neu 1 o bob 40 o’r boblogaeth;
  • Gogledd Iwerddon: 24,700 – tua 1.35% neu 1 o bob 75 o’r boblogaeth; ac
  • Yr Alban: 128,400 – tua 2.44% neu 1 o bob 40 o’r boblogaeth.

Marwolaethau yn sgil COVID-19

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfradd marwolaethau oedran safonol COVID-19 Cymru yn 58.0 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym mis Ionawr 2023, o gymharu â 82.9 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym mis Ionawr. Y gyfradd yn Lloegr oedd 42.8 o farwolaethau fesul 100,000 ym mis Ionawr 2023 o gymharu ag 81.2 fesul 100,000 ym mis Ionawr 2022.

Yn y prif achosion a ddangosir isod, COVID-19 oedd y 7fed prif achos marwolaethau yng Nghymru ym mis Ionawr 2023.

Nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru ar gyfer achosion blaenllaw dethol, Ionawr 2023

Dementia a chlefyd Alzheimer 477, clefydau isgemig y galon 443, ffliw a niwmonia 343, clefydau anadlol isaf cronig 329, clefydau serebro-fasgwlaidd 225, neoplasm malaen broncws y tracea a'r ysgyfaint 188, COVID-19 169, arwyddion symptomau a chyflyrau heb eu diffinio 131, neoplasm malaen colon sgimoid rectwm ac anws 93, methiant y galon a chymhlethdodau a chlefyd y galon heb ei ddiffinio 79.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r marwolaethau a gofrestrir gan Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys pobl a fu farw yn y gymuned ac yn yr ysbyty. Mae’r data yn dangos faint o bobl a fu farw o bob math o achosion, sef rhywbeth y byddem fel arfer yn disgwyl ei weld drwy gymharu’r cyfartaledd dros bum mlynedd. ‘Marwolaethau gormodol’ yw’r cynnydd uwchlaw’r cyfartaledd 5 mlynedd.

Marwolaethau cofrestredig wythnosol a marwolaethau gormodol

Mae marwolaethau gormodol a marwolaethau COVID-19 yn dangos dau bwynt brig o tua 400 i 500 o farwolaethau yr wythnos wedi’u canoli ym mis Ebrill 2020 ac Ionawr 2021. Mae marwolaethau wythnosol wedi amrywio ers hydref 2021, ac mae marwolaethau COVID-19 yn parhau i fod yn is na 100 yr wythnos, a marwolaethau gormodol o dan 200 yr wythnos, ar wahân i bwynt brig o 264 ganol fis Ionawr 2023.

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Defnyddiwyd y cyfartaledd pum mlynedd rhwng 2015 a 2019 i wneud cymhariaeth â nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2020 a 2021. Mae marwolaethau a gofrestrwyd yn 2023 yn cael eu cymharu â chyfartaledd pum mlynedd 2017, 2018, 2019, 2021 a 2022.

Amrywolion COVID-19

Ers canol mis Ionawr 2023, yr amrywiad Omicron BA.2.75 a'i is-linachau sydd wedi cynnwys y gyfran fwyaf o'r holl heintiau dilyniannol. Yn yr wythnos a ddaeth i ben 26 Chwefror 2023, o’r holl heintiau dilyniannol:

  • Roedd BA.2.75 a'i is-linachau (gan gynnwys XBB a CH.1.1 a'u his-linachau priodol) yn cynrychioli 85.8%;
  • roedd yr is-linach CH.1.1 a'i is-linachau yn cynrychioli 19.7%;
  • roedd yr is-linach XBB.1.5 a'i is-linachau yn cynrychioli 50.4%, ac roedd yr is-linach XBB.1.9 a'i is-linachau yn cynrychioli 10.6%;
  • roedd BQ.1 (is-linach Omicron BA.5) a'i is-linachau yn cynrychioli 11.7%.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data wythnosol ar amrywolion sy’n peri pryder ac amrywolion sy’n cael eu hymchwilio ar gyfer Cymru.

COVID hir

COVID hir yw pan fydd y symptomau’n parhau, neu pan fydd symptomau newydd yn datblygu, fwy na 12 wythnos ar ôl i rywun cael ei heintio â COVID-19. Nid yw’n dal i fod yn glir faint sy’n cael eu heffeithio.

Yn ôl ffigurau mwyaf diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifwyd fod 2.0 miliwn o bobl sy'n byw mewn aelwydydd preifat yn y DU (3.0% o'r boblogaeth) yn profi COVID hir, yn ôl eu hadroddiadau eu hunain ar 2 Ionawr 2023. Cododd yr amcangyfrif diweddaraf i Gymru i 95,000 yn ôl y ffigur ar 2 Ionawr 2023.

Y galw ar wasanaethau gofal iechyd

Er bod nifer y cleifion COVID-19 sydd yn yr ysbyty yn is na’r brigau blaenorol, mae data yn dangos y bu pwysau parhaus ar wasanaethau yn sgil pobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys a derbyniadau brys i ysbytai. Ar 8 Mawrth roedd tua 94.7% o welyau cyffredinol ac acíwt yn ysbytai Cymru yn cael eu defnyddio.

Cyrhaeddodd nifer y rhai a oedd yn yr ysbyty ei anterth o dros 1,000 ym mis Ebrill 2020 a thros 3,000 ym mis Ionawr 2021. Aeth y nifer i lawr i’r isafswm ym mis Gorffennaf 2021 ac ers hynny mae wedi amrywio, gan aros rhwng 500 a 1.500 fel arfer.

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Rhaglen frechu COVID-19 y DU

Ar 7 Mawrth 2023, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Imiwneiddio a Brechu ei gyngor ar y rhaglen frechu COVID-19 ar gyfer gwanwyn 2023. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor hwn ac o 1 Ebrill bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion 5 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan

Mae’r datganiad hefyd yn nodi:

{…}y bydd y cynnig cyffredinol o frechiad atgyfnerthu COVID-19 yn dod i ben ar 31 Mawrth. Bydd grwpiau risg uwch a phobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu gwneud yn gymwys i gael eu brechu yn dal i allu cael eu brechiad atgyfnerthu, os bydd meddyg neu glinigydd arall yn eu cynghori i’w gael.

Bydd pobl sydd heb dderbyn eu cwrs sylfaenol o frechiadau yn gallu gwneud hynny hyd at 30 Mehefin. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell bod modd gwneud y newidiadau hyn ar sail y lefel uchel o imiwnedd sydd wedi’i meithrin ymhlith y boblogaeth.

Yn ogystal â rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn, bydd rhaglen atgyfnerthu’r hydref yn cael ei chynnal yn hwyrach yn ystod y flwyddyn, yn dilyn cyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Hefyd, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mai “prif nod y rhaglen brechu rhag COVID-19 o hyd yw sicrhau nad yw pobl yn datblygu salwch difrifol (gan arwain at fynd i'r ysbyty a marwolaethau) sy'n codi o COVID-19”. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi adolygiad cyflym ar effaith brechu ar drosglwyddo COVID-19 sy’n dod i’r casgliad:

Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi llwyddo i leihau effaith clefyd COVID-19 difrifol ar nifer y rhai sy’n mynd i mewn i’r ysbyty, yn dod yn sâl ac yn marw. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19 yn erbyn ei drosglwyddiad yn llai eglur, yn enwedig yn achos pobl â haint ysgafnach neu asymptomatig, neu mewn oes o amrywiolion newydd.

Mae’r siartiau isod yn dangos lefel y defnydd o’r rhaglenni brechlyn cynharach, yn ogystal â rhaglen atgyfnerthu’r hydref.

Nifer y bobl sydd wedi cael brechiad yn ôl dos

Ar ôl i nifer fawr fanteisio arno’n gyflym ar y dechrau, a barodd tua phedwar mis, gwastadodd y cromliniau ar gyfer dosau cyntaf a’r ail a’r dosau atgyfnerthu yn 2021/22 ac ers hynny maent wedi aros yn agos at y niferoedd presennol.  O 19 Chwefror 2023, dyma’r nifer sydd wedi cael y brechlyn: Dos cyntaf 2,570,304. Ail ddos 2,462,850. Dos atgyfnerthu 2021/22 2,011,293. Atgyfnerthiad hydref 2022/23 1,129,670.

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y nifer sydd wedi cael pigiad atgyfnerthu hydref 2022/23 yn ôl grŵp blaenoriaeth

Pobl sy’n byw mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn 88.9%, Pob oedolyn 65 oed a hŷn 82.5%, Imiwnoataliedig difrifol 76.8%, Pob oedolyn 50 i 64 oed 59.8%, Staff gofal iechyd 56.9%, Staff yn gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn 41.8%, Oedolion 5 i 19 oed mewn grŵp risg clinigol 34.2%, Staff gofal cymdeithasol 23,430 wedi'u himiwneiddio (nid yw maint y grŵp ar gael).

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Noder: Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ystod o ddata yn ymwneud â COVID-19, gan gynnwys gwybodaeth am frechiadau, marwolaethau, amrywolion, rhai sy’n mynd i’r ysbyty, heintiau a gafwyd yn yr ysbyty, a phrofion.

Y sefyllfa fyd-eang

Ar 7 Mawrth 2023, roedd dros 759 miliwn o achosion o COVID-19 wedi'u cadarnhau ledled y byd, yn cynnwys dros 6.9 miliwn o farwolaethau a adroddwyd i Sefydliad Iechyd y Byd). Mae’r feirws yn dal i fod yn actif ac yn lledaenu ar raddfa fyd-eang, gyda thua 32,000 o farwolaethau bob mis o COVID-19 ledled y byd, ond mae’r gwaith o ganfod ac adrodd am achosion newydd yn amrywio o ran dibynadwyedd ar draws gwledydd. Ym mis Ionawr, cadwodd Sefydliad Iechyd y Byd COVID-19 yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol.

Mae erthygl olygyddol ddiweddar yn y British Medical Journal yn nodi’r risg bosibl o amrywiolion newydd sy’n peri pryder, ond pwysleisiodd rôl mesurau iechyd cyhoeddus a chymdeithasol, brechlynnau, a therapiwteg wrth reoli COVID-19. Pwysleisiodd yr erthygl hefyd pa mor hanfodol oedd ymateb rhyngwladol cydgysylltiedig a bod anghyfartaledd brechlyn yn fyd-eang yn cyfrannu at wahaniaethau parhaus mewn canlyniadau iechyd ac yn parhau â’r risg o amrywiolion pellach o bryder.

Serch hynny mae Sefydliad Iechyd y Byd yn obeithiol y gallai 2023 weld diwedd yr argyfwng iechyd o bryder rhyngwladol.

Adroddodd Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror:

Current upwards trends in data on COVID-19 infections and pressures, when compared to previous waves, suggest that another wave could be imminent. This wave would be likely driven by the increasing trend of XBB.1.5 variants. […] Deaths related to COVID-19 remain at low levels in Wales.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi rhyddhau briff technegol ar amrywiolyn newydd ar gyfer Lloegr sy’n adrodd am rai amrywiolion Omicron sy’n dod i’r amlwg, ond maent yn isel o ran cyffredinrwydd ac nid oes tystiolaeth o risg uwch o bobl yn mynd i’r ysbyty.


Erthygl gan Paul Worthington, Joe Wilkes, Božo Lugonja a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru