Y Twrnai Cyffredinol yn cyfeirio Bil "parhad" Cymru i’r Goruchaf Lys

Cyhoeddwyd 19/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Rhoddodd Jeremey Wright QC AS, Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr wybod i’r Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 fod Llywodraeth y DU wedi cyfeirio’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad ar 21 Mawrth, i'r Goruchaf Lys. Mae’r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan y Twrnai Cyffredinol yn nodi bod Llywodraeth y DU yn gofyn i'r Goruchaf Lys am:

... a ruling on whether this legislation is constitutional, and properly within devolved legislative powers.

Yn ei ddatganiad i’r Cynulliad ar 18 Ebrill, dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, fod y Twrnai Cyffredinol wedi cyfeirio’r Bil am y rhesymau a ganlyn:

  • Nad yw’r Bil yn ymwneud â’r pynciau a restrir yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru,
  • Bod y Bil yn anghydnaws â chyfraith yr UE,
  • Bod y Bil yn gosod swyddogaethau nas caniateir ar Weinidogion y Goron,
  • Bod y Bil yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf Llywodraeth Cymru,
  • Bod y Bil yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd.

Beth yw'r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a pham y cafodd ei gyflwyno?

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn ceisio pasio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) drwy Senedd y DU. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer trosglwyddo deddfwriaeth yr UE sydd ar waith ar hyn o bryd yn y DU i ddeddfwriaeth y DU ar y diwrnod y bydd y DU yn gadael yr UE. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Datganoledig ddiwygio'r corff cyfreithiau a drosglwyddir fel y gall weithredu yn y DU ar ôl gadael.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn anghytuno ar y darpariaethau yn y Bil Ymadael sy'n ymwneud â datganoli. Mae Gweinidogion Cymru a’r Alban yn dadlau bod y Bil Ymadael, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn cyfateb i Lywodraeth y Du yn ‘bachu pŵer’ dros feysydd cymhwysedd datganoledig. Maent wedi argymell na ddylai Cynulliad Cymru na Senedd yr Alban roi eu Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Bil fel y'i drafftiwyd. Mae ein canllaw rhagarweiniol i'r Bil Ymadael yn egluro safbwyntiau’r gwahanol lywodraethau’n fanylach. EU and UK flag

Mae trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen rhwng y gwahanol lywodraethau ar y Bil Ymadael, ond hyd yma ni ddaethpwyd i unrhyw gytundeb ar sut y gellid diwygio’r Bil i fynd i'r afael â phryderon Llywodraethau Cymru ac Alban.

Yn wyneb y methiant hwn i gyrraedd cytundeb, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Bil ei hun, y Bil Cyfraith sy’n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), i'r Cynulliad ar 6 Mawrth. Yn ôl Llywodraeth Cymru, amcanion y Bil yw gwarchod cyfraith yr UE sy'n cwmpasu meysydd datganoledig ar ôl gadael yr UE mewn ffordd sy'n amddiffyn y setliad datganoli. Wrth gyflwyno'r Bil, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Llywodraeth Cymru:

Er ein bod yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r gwelliannau hyn - ac yn wir rydym wedi symud ymlaen cryn dipyn dros yr wythnosau diwethaf - rydym eto i ddod i gytundeb.
Dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n anghyfrifol i ni fethu â pharatoi ar gyfer sefyllfa o weld y Cynulliad yn gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil i Ymadael â'r UE. Mae'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn opsiwn wrth gefn i sicrhau parhad deddfwriaethol yng Nghymru mewn ffordd sy'n parchu'r setliad datganoli.

Cytunodd y Cynulliad i ystyried y Bil fel Bil Brys ac felly aeth drwy'r Cynulliad mewn ychydig dros bythefnos. Pleidleisiodd yr Aelodau i gefnogi'r Bil o 39 pleidlais i 13 gydag un yn ymatal ar 21 Mawrth.

Cymerodd Llywodraeth yr Alban gamau tebyg yn yr Alban gan gyflwyno Bil y DU yn Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) i Senedd yr Alban ar 27 Chwefror. Mae'r Bil wedi ei ddrafftio’n wahanol i Fil Cymru ond mae ganddo amcanion tebyg. Fe'i pasiwyd gan Senedd yr Alban ar 21 Mawrth.

Pam bod y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gyfeirio i’r Goruchaf Lys?

Caiff Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru gyfeirio unrhyw un o Filiau’r Cynulliad i'r Goruchaf Lys os ydynt yn credu bod amheuaeth ynghylch a yw Bil o fewn pwerau datganoledig y Cynulliad. Yn y datganiad i'r wasg adeg cyfeirio’r Bil, dywedodd Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr:

This Legislation risks creating serious legal uncertainty for individuals and businesses as we leave the EU. This reference is a protective measure which we are taking in the Public interest.

Mae'r datganiad i'r wasg hefyd yn datgan fel a ganlyn: ‘to leave these pieces of Legislation on the statute book would create very significant legal uncertainty as to how the law would operate’.

Rhaid i'r Llywydd, cyn neu wrth gyflwyno Bil i'r Cynulliad, ddatgan a yw'r Bil neu unrhyw ddarpariaeth o Fil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd y Cynulliad ai peidio. Dywedodd y Llywydd ar 27 Chwefror ei bod yn fodlon bod y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd o fewn cymhwysedd y Cynulliad a chyhoeddodd nodyn i Aelodau’r Cynulliad yn esbonio’r materion y bu'n eu hystyried wrth wneud ei phenderfyniad. Wrth wneud ei phenderfyniad, fodd bynnag, roedd y Llywydd yn cydnabod bod dadleuon sylweddol yn erbyn cymhwysedd deddfwriaethol yn bodoli ar gyfer y Bil.

Mewn ymateb i benderfyniad y Twrnai Cyffredinol i gyfeirio’r Bil, gwnaeth Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru ddatganiad i’r Cynulliad ar 18 Ebrill, yn dweud:

Byddwn yn parhau i ystyried y penderfyniad i gyfeirio, a’r dadleuon manylach y bydd gofyn i’r Twrnai Cyffredinol eu darparu maes o law i gefnogi’i benderfyniad i gyfeirio fel rhan o’r trafodion.
Ond, gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn, lle bo angen, yn amddiffyn y cyfeiriad yn llawn.
Yn benodol, rydym yn cymryd camau i gael gwrandawiad cyflym, a byddwn yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau yn hyn o beth.
Fel y pwysleisiais, rydym yn parhau i weithio tuag at sicrau cytundeb ar Fil yr UE (Ymadael).

Beth yw’r camau nesaf?

Mae trafodaethau’n parhau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig ar y Bil Ymadael. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai ei dewis yw sicrhau cytundeb ar Fil yr UE (Ymadael) yn hytrach na gorfod defnyddio'r pwerau a roddwyd iddi yn y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd yn cynnwys darpariaeth a fyddai'n galluogi'r Bil i gael ei ddiddymu ar ôl ei ddeddfu. Os deuir i benderfyniad ar welliannau i’r Bil Ymadael, ac os bydd y Cynulliad yn pleidleisio i roi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddiddymu’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd, ac y byddai’n disgwyl, bryd hynny, y byddai’r penderfyniad i gyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys yn cael ei dynnu’n ôl. Yn y datganiad i'r wasg adeg cyfeirio’r Bil, dywedodd y Twrnai Cyffredinol y byddai'n well gan Lywodraeth y DU hefyd ddod i gytundeb ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):

The Government very much hopes this issue will be resolved without the need to continue with this litigation.

Mae Bil yr UE (Ymadael) yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Daw'r cyfnod hwn i ben ar 8 Mai 2018. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno unrhyw welliannau i ddarpariaethau datganoli’r Bil yn y Cyfnod Adrodd.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru