Y tu hwnt i'r pandemig: barn rhai arbenigwyr

Cyhoeddwyd 07/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2021   |   Amser darllen munudau

Y llynedd sefydlodd Ymchwil y Senedd gofrestr arbenigwyr COVID-19. Mae'r gofrestr yn galluogi i ni gael mynediad cyflym i academyddion ac arbenigwyr, sy'n helpu’r broses o graffu ar yr ymateb i'r pandemig a'i effaith ehangach.

Yn gynharach eleni gofynnom i arbenigwyr ar y gofrestr am eu barn ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys bylchau mewn data ac ymchwil, pwy sydd yn y perygl mwyaf, a'r materion allweddol yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy.

Fe wnaeth yr ymatebion lywio’n gwaith o ddatblygu ein casgliad ‘Beth nesaf? Y materion o bwys ar gyfer y Chweched Senedd’ ac mae’r erthygl hon yn crynhoi'r prif themâu o’r 40 o ymatebion a ddaeth i law.

COVID hir

Cododd nifer o ymatebwyr bryderon ynghylch cyn lleied rydym yn ei wybod am COVID hir. Galwodd rhai am sefydlu clinigau i gasglu data ac archwilio effeithiolrwydd ymarferion adsefydlu, yn ogystal â chefnogi cleifion. Dywedodd Dr Angharad Shaw o Brifysgol Aberystwyth:

“Up to 1 in 3 COVID cases result in some form of long COVID [and] we have no long COVID clinics in Wales […] England already had 69 such clinics in operation or shortly to start up. Per head of population we should therefore be seeing 3 or 4 [long COVID clinics] in Wales.”

Cafodd yr angen i ddeall effaith COVID hir ar bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith, ynghyd â phryderon ynghylch y stigma posibl ynghlwm â COVID hir, ei nodi gan Dr Amira Guirguis o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Gwasanaethau iechyd

Tynnodd llawer o ymatebwyr sylw at ôl-groniad cynyddol y GIG ac amseroedd aros hirach fel materion hanfodol i fynd i'r afael â hwy yn ystod y pum mlynedd nesaf. Nodwyd cefnogaeth i'r gweithlu gofal iechyd, isadeiledd ysbytai, a'r effaith ar gyflyrau iechyd eraill fel pryderon allweddol hefyd.

Yn y tymor byr, yr hyn oedd yn cael ei ystyried yn bwysig gan Dr Jiaqing O o Ysgol Seicoleg Prifysgol Aberystwyth oedd ffyrdd o gynyddu cydymffurfiaeth â chyfyngiadau iechyd cyhoeddus, a'r ffordd y caiff negeseuon am frechu eu fframio.

Amlygodd y meddyg gofal dwys a’r cymrawd ymchwil, Dr Matt Morgan, nad oes canolfan ymchwil gofal critigol mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru, a bod hyn yn fater i fynd i'r afael ag ef yn y tymor byr i'r tymor canolig.

Cafodd pobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd eu hamlygu’n aml mewn ymatebion fel grwpiau sydd mewn perygl. Roedd sicrhau parhad gwasanaethau iechyd yn cael ei ystyried yn fater allweddol ar gyfer cefnogi a diogelu’r grŵp hwn. Nododd Dr Stuart Todd o Brifysgol De Cymru effaith y cyfyngiadau ar iechyd pobl ag anableddau dysgu, a ffyrdd o ddal i fyny ar wiriadau iechyd blynyddol.

Fe wnaeth yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, nodi bod effeithiau gweithio gartref ar iechyd a llesiant yn fater i'w ystyried dros y 2 flynedd nesaf.

Iechyd meddwl

Tynnwyd sylw at effaith y pandemig ar iechyd meddwl a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl fel materion o bwys gan nifer o ymatebwyr. Dywedodd Dr Diana Beljaars o Brifysgol Abertawe:

"We need better understandings of how people with certain anxieties and phobia can be helped both during the pandemic and when dealing with its legacies, because their worst fears have come true and they will need specialist help [to cope with] being in public spaces again."

Amlygwyd iechyd meddwl pobl feichiog a rhieni newydd gan Dr Alys Einion-Waller o Brifysgol Abertawe. Roedd yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd o’r farn bod unigrwydd ac unigedd a achoswyd gan y pandemig yn fater i fynd i'r afael ag ef ar frys.

Galwyd am wasanaethau gwell ar gyfer pobl ifanc, pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau LGBTQIA+, a'r rhai sydd mewn profedigaeth.

Addysg

Cododd nifer o ymatebwyr yr angen am dechnoleg well mewn ysgolion i gefnogi myfyrwyr ac athrawon gyda dysgu ar-lein, ynghyd â gwella mynediad gwael i'r rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd, a hyfforddiant i athrawon, a nodwyd gan Dr Esyin Chew o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd rhai o'r farn y gallai manteisio ar dechnoleg newydd wella’r profiad addysg yn gyffredinol.

Tynnodd yr Athro Harold Thimbleby o Brifysgol Abertawe sylw at effaith tymor hir colli addysg ar genhedlaeth o blant, a'r potensial iddo arwain at 'gylch o amddifadedd'. Ategwyd hyn gan Dr Ruth Atkins o Brifysgol Abertawe, a awgrymodd y gallai plant ailadrodd y flwyddyn academaidd ddiwethaf i liniaru bylchau.

Cwestiynodd Dr Hiral Patel o Brifysgol Caerdydd beth fyddai dyfodol campysau prifysgol, ac ystyriodd rhai sut y gallai'r sefydliadau hyn addasu i fodel dysgu cyfunol o addysgu. Awgrymodd eraill fod angen i brifysgolion gysylltu mwy â'u cymunedau yn y dyfodol. Ac amlygwyd yr angen am ddysgu gydol oes fel rhan bwysig o fywyd unigolyn, yn enwedig gyda newidiadau yn y farchnad lafur.

Adferiad economaidd

Ymddangosodd adferiad a thwf economaidd yn aml yn yr ymatebion hefyd. Ond mae bylchau o ran y ddealltwriaeth o sut y bydd busnesau Cymru yn ymdopi ar ôl COVID ac ar ôl Brexit. Yn ôl Dr Louisa Huxtable-Thomas o Brifysgol Abertawe:

“There is little research that has been done in Wales which deals with mid-sized firm resilience or dealing with crisis - however these firms are the crucible of specialist and skilled employment that feeds both smaller and larger firms.”

Tynnodd yr Athro Brian Garrod ac eraill sylw at y sector teithio a thwristiaeth a’r ffaith fod angen cefnogaeth benodol arno. Pwysleisiwyd effaith symud i siopa ar-lein ar rai sectorau gan Dr Vasco Sanchez Rodrigues o Brifysgol Caerdydd.

Roedd effeithiau niweidiol posibl diweithdra ar bobl ifanc yn bryder arall, ynghyd â'r diffyg cyfleoedd iddynt symud ymlaen.

Roedd y syniadau i hyrwyddo’r adferiad economaidd yn cynnwys cymorth i fusnesau fasnachu ar-lein, buddsoddiad menter i gefnogi twf ac ymgysylltu rhyngwladol gwell a sgiliau.

Roedd llawer o ymatebwyr o'r farn bod y pandemig wedi cynnig ffordd newydd o weithio, gan dynnu sylw at ddysgu cyfunol ac arferion hyblyg o weithio gartref. Gofynnodd rhai sut y gallai fod angen i fusnesau addasu eu swyddfeydd, yn dibynnu ar sut a ble mae gwaith yn cael ei wneud.

Cydraddoldeb a thlodi

Roedd llawer o ymatebwyr o'r farn ei bod yn bwysig nodi'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn sgil y pandemig, ac i gefnogi pobl sydd mewn perygl o dlodi. Awgrymodd rhai efallai y bydd angen datganoli pwerau pellach i wneud hyn mewn modd effeithiol.

Tynnodd yr ymatebwyr sylw at ddiffyg data wedi'u dadgyfuno yn ôl anabledd, rhywedd ac ethnigrwydd ym maes iechyd, cyflogaeth, tlodi, tai a budd-daliadau. Ac amlygodd yr Athro Arman Eshraghi o Brifysgol Caerdydd nad oes gennym ddata o safon o hyd ynghylch sut mae cyllid cartrefi wedi addasu i'r sioc.

Nodwyd yr effeithiau ar sail rhywedd oherwydd newidiadau yn y farchnad lafur, ac yn benodol diffyg gofal plant i helpu menywod i fynd yn ôl i'r gwaith. Nododd Dr Alison Parken o Brifysgol Caerdydd bwysigrwydd yr hyn a ganlyn:

“creating apprenticeships and employment programmes that are fully inclusive of diverse participation, for example designing policy and programmes that aim to over-come occupational gender stereotyping in the move to decarbonisation, digitisation and the 'green' economy”.

Roedd pryder hefyd am bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig sydd wedi colli eu swyddi, neu wedi gorfod hunanynysu heb fawr o gefnogaeth ariannol. Roedd llawer o ymatebwyr yn poeni bod y pandemig yn arwain at fylchau economaidd-gymdeithasol llawer ehangach rhwng pobl.

Tynnodd yr Athro Richard Owen o Brifysgol Abertawe sylw at grwpiau sydd yn ei chael yn anodd cyrchu gwasanaethau ar-lein fel cyngor am iechyd, tai a lles cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pobl hŷn, pobl â nam ar eu synhwyrau, a'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Barn yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd oedd y dylid cryfhau deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Paratoi ar gyfer y pandemig nesaf

Dywedodd nifer o ymatebwyr bod angen i ni ddysgu o'r pandemig hwn i baratoi ar gyfer yr un nesaf, gan gynnwys gosod templedi rheoli ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Dr Thomas Wooley o Brifysgol Caerdydd fod angen gwneud yr hyn a ganlyn:

“Invest in robust infrastructure, such as a modelling community, and pharmaceutical development that can reduce the next pandemic time scale and hopefully stop it before it happens.”

Pan sefydlir Pwyllgorau newydd y Senedd, byddant yn trafod materion fel y rhain wrth osod eu rhaglenni gwaith. Os oes gennych arbenigedd yn ymwneud â COVID-19 neu ei effaith yng Nghymru, gallwch ymuno â’r gofrestr trwy gysylltu â Hannah Johnson.


Erthygl gan Lucy Morgan a Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru