Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol?

Cyhoeddwyd 05/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth, 9 Ionawr, cynhelir dadl Llywodraeth Cymru yn y Siambr ar adroddiad Tasglu Gweinidogol ar Gymoedd De Cymru Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

Ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Alun Davies, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg ar y pryd, ei fod am sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru. Mae aelodau'r Tasglu yn cynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, academyddion, a chynrychiolwyr y sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector.

Mae'r grŵp yn cwrdd bob chwarter, ac mae cofnodion ar gael ar-lein.

Ein Cymoedd, Ein Dyfodol

Cafodd cynllun y tasglu - Ein Cymoedd, Ein Dyfodol - ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2017, ac mae'n rhestru tair blaenoriaeth, ynghyd â gweledigaeth y tasglu ar gyfer 2021: Blaenoriaeth 1: Swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni

'Byddwn yn cau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru - mae hyn yn golygu helpu 7,000 yn rhagor o bobl i gael gwaith ac y bydd miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn cael eu creu yn y Cymoedd. Bydd pobl sy'n byw yn y Cymoedd yn cael mynediad at y sgiliau cywir i gael gwaith. Bydd busnesau'n cael cefnogaeth lawn i dyfu a ffynnu yng Nghymoedd y De.'

Blaenoriaeth 2: Gwell gwasanaethau cyhoeddus

'Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'r trydydd sector a chymunedau lleol i ymateb i anghenion pobl. Bydd cymorth ar gael i helpu pobl i fyw bywydau iachach, gan wella eu lles corfforol a meddyliol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn gydgysylltiedig, yn fforddiadwy ac yn helpu pobl i fynd i'r gwaith, i'r ysgol neu i hyfforddiant, ac i gyfleusterau hamdden. Byddwn yn gwella canlyniadau addysg i bob plentyn a chau'r bwlch cyrhaeddiad.'

Blaenoriaeth 3: Fy nghymuned leol

'Bydd Parc Tirweddau'r Cymoedd wedi ei sefydlu i helpu cymunedau lleol i ddathlu a manteisio i'r eithaf ar y defnydd o adnoddau naturiol a threftadaeth. Bydd canol trefi'r cymoedd yn llawn bywyd gyda digon o fannau agored gwyrdd, a fydd yn fodd i gefnogi'r economi leol. Bydd y Cymoedd yn gyrchfan gydnabyddedig i dwristiaid, a fydd yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt.'

Cynllun Cyflawni

Chwarel Blaen Onnau

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd y tasglu ei gynllun cyflawni - Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni. Mae'r cynllun cyflawni yn esbonio pa gamau a gymerir i gyflawni'r blaenoriaethau a restrir uchod.

Swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni

Mae'r camau i'w cymryd i annog swyddi o ansawdd da, a sicrhau bod gan bobl y sgiliau angenrheidiol i wneud y swyddi hynny, yn cynnwys:

  • Caiff saith hyb strategol eu creu ledled Cymoedd y De i fod yn ffocws i arian cyhoeddus a darparu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd;
  • Adleoli mwy o swyddi sector cyhoeddus yn y Cymoedd, gan gynnwys yn lleoliadau'r saith hyb strategol, lle bo'n briodol;
  • Cefnogi creu mwy o swyddi digidol yn y Cymoedd a datblygu dau hyb technoleg entrepreneuriaeth i helpu busnesau newydd sy'n dechrau yn y sector;
  • Ar gyfer busnesau'r Cymoedd sydd â'r potensial twf mwyaf, bydd mynediad at becyn integredig o gymorth i ddatblygu'r busnes, recriwtio a hyfforddi i greu swyddi, cynyddu lefelau sgiliau'r staff presennol a rhoi hwb i gynhyrchiant; a
  • Cyflwyno Swyddi Gwell yn Nes at Adref yn y Cymoedd i greu cyfleoedd go iawn a swyddi da lle mae'r angen mwyaf. Mae hyn yn cynnwys defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau lleol a chadwyni cyflenwi.

Gwell gwasanaethau cyhoeddus

Mae'r camau i'w cymryd i sicrhau gwell gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys:

  • Defnyddio hybiau cymunedol cyfredol - a chreu rhai newydd - lle gall y GIG, y gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a chanolfannau gwaith gydweithio â'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â chymunedau lleol a chynghorau lleol i ddatblygu'r rhain a phenderfynu lle dylid eu lleoli;
  • Adeiladu ar raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru i gydleoli gwasanaethau a chanolbwyntio ar ddefnydd cymunedol o adeiladau ysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod modd defnyddio ysgolion mewn ffordd fwy hyblyg a'u galluogi i gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus y tu allan i oriau ysgol;
  • Cydweithio â darparwyr bysiau a rheilffordd i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ledled y Cymoedd yn fwy mynych a fforddiadwy a'i bod yn cysylltu â theithio llesol - beicio a cherdded - fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru; a
  • Sefydlu clybiau bwyd a hwyl i ddarparu dau bryd o fwyd maethlon bob dydd yn ystod gwyliau'r haf ar gyfer plant yn y cymoedd sy'n agored i niwed, ac ymgysylltu ag asiantaethau amrywiol er mwyn cydweithio i ddarparu gweithgareddau addysgol cyfoethog a chyffrous.

Fy nghymuned leol

Bydd y drydedd flaenoriaeth yn cael ei chyflawni trwy ymgymryd â gwahanol gamau, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod strategaethau adfywio llywodraeth leol a chenedlaethol yn herio'r model traddodiadol o ganol tref, ar sail anghenion a dymuniadau'r cymunedau. Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo cymysgedd o dai, siopau, busnesau a mannau gwyrdd;
  • Cefnogi datblygiad cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol dan berchnogaeth leol yn y Cymoedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi'r cyfleoedd gorau trwy ddod ag asiantaethau lleol a chenedlaethol at ei gilydd i gyflawni prosiectau;
  • Datblygu naratif newydd a chadarnhaol ar gyfer twristiaeth yn y Cymoedd a nodi prosiectau i fodloni gofynion twristiaeth presennol a rhai'r dyfodol, gan ganolbwyntio ar y dirwedd, y dreftadaeth a'r bobl; a
  • Gwella amgylchedd ffisegol cymunedau trwy fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd.

Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Flickr gan Simon Rowe. Dan drwydded Creative Commons