Y system gynllunio – cyfres o ganllawiau cyflym

Cyhoeddwyd 05/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'r system gynllunio yn llywio’r cymunedau o'n cwmpas, gan gynnwys y cartrefi rydyn ni'n byw ynddyn nhw, ein seilwaith ynni, ein system drafnidiaeth a'n cefn gwlad. Ond mae'n gallu bod yn ddryslyd.

Rydym wedi diweddaru ein cyfres o ganllawiau sy'n rhoi trosolwg sydyn o brif agweddau'r system.

Mae’r Aelodau a'u staff yn cael cwestiynau gan etholwyr yn rheolaidd ynghylch cynllunio, megis: sut mae polisi cynllunio'n cael ei wneud; a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect; sut y gellir cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad; beth yw cytundeb Adran 106 a sut y gall cymunedau ddweud eu dweud ar gynnig datblygu mawr yn eu hardal.

Mae ein cyfres o ganllawiau cyflym yn rhoi'r atebion i'r cwestiynau hyn a mwy.

Polisi cynllunio cenedlaethol

BMae'r hysbysiad hwylus hwn ar y polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru yn disgrifio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y system gynllunio ac yn cyflwyno'r prif ddogfennau cynllunio cenedlaethol: Polisi Cynllunio Cymru a Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.

Polisi cynllunio lleol

Mae ein canllaw ar bolisi cynllunio lleol yn disgrifio sut y caiff cynlluniau datblygu lleol eu paratoi ac mae’n cynnwys gwybodaeth am y categori newydd, sef “Cynllun Datblygu Strategol”.

Datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio arnynt

Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn egluro’r mathau o ddatblygiadau nad oes angen caniatâd arnynt ac yn egluro beth yw datblygiad a ganiateir.

Caniatâd cynllunio

Mae’r hysbysiad hwylus  hwn yn esbonio beth yw caniatâd cynllunio, yn disgrifio'r gwahanol fathau o ganiatâd cynllunio ac yn nodi sut y gwneir penderfyniadau cynllunio.

Galw ceisiadau cynllunio i mewn

Mae ein hysbysiad hwylus  yn rhoi trosolwg o’r broses o alw ceisiadau cynllunio i mewn ac yn disgrifio o dan ba amgylchiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galw cais i mewn.

Apelio

Mae'r hysbysiad hwylus  hwn yn rhoi trosolwg o'r broses o apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio. Mae'n disgrifio ar ba sail y gellir apelio, y broses ar gyfer ystyried apêl a'r hyn y gellir ei wneud os bydd apêl yn methu.

Gorfodi

Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn egluro beth yw gorfodi, pryd y gellir cymryd camau gorfodi, mathau o gamau gorfodi, terfynau amser, pwerau gorfodi Llywodraeth Cymru, a sut i apelio yn erbyn camau gorfodi.

Offer telegyfathrebu

Mae'r hysbysiad hwylus  hwn yn rhoi trosolwg o'r broses gynllunio ar gyfer offer telathrebu.

Cynlluniau ynni adnewyddadwy graddfa fach

Mae'r hysbysiad hwylus ar ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yn ystyried sut y caiff y math hwn o ddatblygiad ei reoli, pa fath o offer sy'n cael ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir, a phryd mae angen gwneud cais cynllunio.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol

Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn rhoi trosolwg o’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol - gweithdrefn sy'n sicrhau bod y goblygiadau amgylcheddol sydd ynghlwm wrth ddatblygiadau yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniadau cynllunio. 

Yr Ardoll Seilwaith Cymunedol

Mae ein hysbysiad hwylus ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn egluro diben yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, sut y gellir ei gweithredu a'i gorfodi ac mae’n amlygu gwahaniaethau allweddol rhwng cytundebau adran 106 a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol. 

Cytundebau adran 106

Mae ein hysbysiad hwylus ar gytundebau adran 106 yn esbonio diben cytundebau adran 106 ac yn nodi sut y gellir cytuno arnynt, eu defnyddio a'u gorfodi.

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Mae’r hysbysiad hwylus hwn yn rhoi trosolwg o’r hyn yw datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, y broses o roi caniatâd ar eu cyfer a sut y mae cymunedau’n rhan o’r broses.

Gorchmynion Prynu Gorfodol

Mae'r hysbysiad hwylus hwn yn rhoi cefndir Gorchmynion Prynu Gorfodol, y pwerau y caniateir eu defnyddio i weithredu’r Gorchmynion a pha awdurdodau gaiff wneud hynny. Mae hefyd yn disgrifio'r broses o’u gwrthwynebu, iawndal a datganoli Gorchmynion Prynu Gorfodol.

Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd

Mae'r hysbysiad hwylus  hwn yn rhoi braslun o’r hyn yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, pryd mae ei angen, beth sy’n digwydd yn ystod y broses asesu a sut y gellir herio penderfyniad.

Y drefn gydsynio ar gyfer seilwaith ynni

Mae ein canllaw cyflym i’r drefn gydsynio ar gyfer seilwaith ynni yn nodi’r prosesau cydsynio a’r polisïau cynllunio sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae hefyd yn disgrifio’r newidiadau deddfwriaethol sydd yn yr arfaeth, ar ffurf Bil cydsynio seilwaith i Gymru.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru