Sut mae cynllunio defnydd tir yn gweithio ym mhob un o’r pedair gwlad yn y DU?

Cyhoeddwyd 19/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae’r systemau cynllunio defnydd tir ym mhedair gwlad y DU yn ymrannu wrth i ddatganoli ddatblygu. Mae papur ymchwil newydd a baratowyd ar y cyd gan y pedair deddfwrfa yn y DU yn dangos bod y systemau cynllunio ym mhob un o'r pedair gwlad yn debyg, yn yr ystyr bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch datblygiadau sydd o fudd i'r cyhoedd ar sail yPlanning-cy cynlluniau a gyflwynir. Fodd bynnag, mae nifer cynyddol o wahaniaethau. Yn benodol, ers sefydlu Llywodraeth Glymblaid y DU yn 2010, mae'r system yn Lloegr wedi dilyn trywydd gwahanol, gyda phwyslais cynyddol ar ‘leoliaeth’ a diddymu'r haen ranbarthol yn y broses gynllunio. Yn yr Alban, mae system cynllunio rhanbarthol sefydledig, ac yng Nghymru mae adroddiad annibynnol diweddar wedi argymell sefydlu haen ranbarthol o'r fath. Mae'r papur ymchwil yn edrych ar sut mae cynllunio'n gweithio ym mhob un o wledydd y DU, gan edrych ar y gwahaniaethau o ran deddfwriaeth, cynllunio lleol a rhanbarthol, prosiectau seilwaith cenedlaethol sylweddol, apeliadau, cyfraniadau datblygwyr a datblygiadau a ganiateir. Mae'r papur hefyd yn edrych ar y newidiadau sydd ar y gweill ym mhob gwlad. Yng Nghymru, y datblygiad mawr nesaf fydd y Papur Gwyn a'r Bil Diwygio Cynllunio drafft y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi erbyn diwedd 2013. Rhagor o wybodaeth Lloegr:Mae Briffiadau Ymchwil Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin ar gael ar-lein yma. Mae’r Porth Cynllunio hefyd yn rhoi gwybodaeth am y system gynllunio yn Lloegr (dewiswch Lloegr ar gornel dde uchaf yr hafan). Gogledd Iwerddon: Mae briffiadau Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon ar gael yma. Yr Alban: Mae briffiadau Canolfan Wybodaeth Senedd yr Alban ar gael yma. Cymru: Mae briffiadau Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael yma. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o Hysbysiadau Cynllunio Hwylus ar agweddau gwahanol ar y system gynllunio yng Nghymru. Mae’r Porth Cynllunio hefyd yn rhoi gwybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru (dewiswch Cymru ar gornel dde uchaf yr hafan).
Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru