Llun llaw gwyddonydd gyda ffiolau gwaed.

Llun llaw gwyddonydd gyda ffiolau gwaed.

Y sgandal gwaed heintiedig

Cyhoeddwyd 24/05/2024   |   Amser darllen munudau

Disgrifiwyd heintio pobl â hepatitis C a/neu HIV, o ganlyniad i driniaeth y GIG gyda gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe halogedig yn y DU fel y trychineb triniaeth gwaethaf yn hanes y GIG. Mae’n cael ei alw’n gyffredinol fel y ‘sgandal gwaed heintiedig’.

Dywedodd y Prif Weinidog, pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018, fod hyn yn “drasiedi na ddylai byth fod wedi digwydd ac na ddylai byth ddigwydd eto”.

Beth achosodd y sgandal gwaed heintiedig?

Yn ystod y 1970au a’r 1980au, daliodd miloedd o gleifion yn y DU hepatitis C, HIV, neu'r ddau, ar ôl cael gwaed neu gynhyrchion gwaed halogedig.

Roedd pobl â hemoffilia, a phobl a chyflyrau tebyg, yn cael cynhyrchion gwaed heintiedig fel rhan o'u triniaeth.

Mae gwefan y Gymdeithas Haemoffilia yn esbonio bod pobl ag anhwylderau gwaedu wedi defnyddio crynodiad ffactor fel eu triniaeth, a oedd yn cael ei greu drwy gronni plasma gwaed dynol o hyd at 40,000 o roddwyr a’i grynodi i echdynnu'r ffactor ceulo gofynnol. Gallai un sampl halogedig heintio’r swp cyfan. 

Oherwydd prinder lleol crynodiad ffactor, roedd y DU yn mewnforio cyflenwadau o roddion gwaed y talwyd amdanynt o’r Unol Daleithiau. Mewn rhai achosion, gallai'r rhain fod wedi dod o grwpiau â risg uchel o gario hepatitis C/HIV. 

Cafodd miloedd yn fwy o bobl eu heintio rhwng 1970 a 1991 ar ôl derbyn trallwysiadau gan ddefnyddio gwaed halogedig yn ystod llawdriniaeth, triniaethau meddygol eraill neu ar ôl genedigaeth.

Yn y DU, ni chafodd sgrinio cyffredinol ar gyfer HIV ei gyflwyno tan fis Hydref 1985 ac nid tan fis Medi 1991 ar gyfer hepatitis C.

Faint o bobl gafodd eu heintio?

Mae’r adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn darparu'r ystadegau canlynol ar gyfer nifer y bobl sydd wedi'u heintio:

  • Cafodd tua 1,250 o bobl yn y DU ag anhwylderau gwaedu eu heintio â HIV, a oedd yn cynnwys tua 380 o blant. Roedd bron pob un sydd wedi'i heintio â HIV hefyd wedi'u heintio â hepatitis C a rhai â hepatitis B a hepatitis D. Mae tri chwarter o'r 1,250 o oedolion a phlant hyn wedi marw.
  • Roedd rhwng 2,400 a 5,000 o bobl ag anhwylderau gwaedu nad oeddent wedi’u heintio gan HIV wedi derbyn cynhyrchion gwaed wedi’u heintio ag un neu fwy firws hepatitis, a datblygu hepatitis C cronig.
  • Cafodd rhwng 80 a 100 o bobl eu heintio â HIV a chafodd tua 26,800 eu heintio â hepatitis C ar ôl cael trallwysiad gwaed.

Roedd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad yn disgrifio bod maint yr hyn a ddigwyddodd yn arswydus ac mai’r amcangyfrif mwyaf cywir yw y gellir priodoli mwy na 3,000 o farwolaethau i waed, cynhyrchion gwaed a meinwe heintiedig.

Nid oes ystadegau cynhwysfawr yn ymwneud yn benodol â Chymru ar gael yn eang. Dywedodd Haemoffilia Cymru bod 283 o gleifion yng Nghymru wedi’u heintio â hepatitis C yn y 1970au a’r 1980au. O’r rheini, roedd 55 hefyd wedi’u heintio â HIV drwy grynodiadau ffactorau a wnaed o blasma cyfun a fewnforiwyd; yng Nghymru yn unig mae dros 70 o bobl â hemoffilia wedi marw.

Beth yw'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig?

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd cyn Brif Weinidog y DU Theresa May ymchwiliad cyhoeddus i ddioddefwyr a theuluoedd y drasiedi gwaed halogedig. Yn dilyn hynny, cafwyd blynyddoedd o ymgyrchu gan y rhai yr effeithiwyd arnynt a hefyd gwleidyddion, gan gynnwys Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Haemoffilia a gwaed heintiedig.

Dechreuodd yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig, dan gadeiryddiaeth Syr Brian Langstaff, ei waith yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2018.

Cyhoeddodd yr Ymchwiliad ei adroddiad terfynol ar 20 Mai a daeth i'r casgliad y gellid, ac fe ddylid, fod wedi osgoi'r rhan fwyaf o’r heintiau a bod camgymeriadau yn amlwg wedi’u gwneud. Roedd methiant i sicrhau bod diogelwch cleifion yn hollbwysig wrth wneud penderfyniadau a chamau gweithredu.

Rhoddir gwybodaeth fanwl am bob elfen o'r hyn a ddigwyddodd a pham, ynghyd â'r effaith ar y rhai sydd wedi'u heintio a'r rhai yr effeithir arnynt a pha wersi sydd angen eu dysgu.

Mae methiannau a arweiniodd at yr heintiau wedi'u rhestru yn yr adroddiad, gan gynnwys methiannau gan glinigwyr a'r gwasanaeth iechyd. Dywedodd Syr Brian Langstaff:

The picture that emerges overall from the findings in this Report is one in which people have been failed, not once but repeatedly, by their doctors, by the bodies (NHS and other) responsible for the safety of their treatment, and by their governments. [t13]

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg didwylledd, tryloywder a gonestrwydd, a ddangoswyd gan y GIG a’r llywodraeth, a bod y gwir wedi’i guddio ers degawdau. Mae hefyd yn cyfeirio at ddinistrio rhai dogfennau yn fwriadol a cholli rhai eraill.

Digwyddodd y sgandal gwaed heintiedig cyn dyddiau datganoli. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cyfeirio’n benodol at Gymru mewn mannau ac yn canfod bod Cymru wedi dilyn arweiniad Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol Llywodraeth y DU ar faterion polisi iechyd ynghylch gwaed a chynnyrch gwaed. Mae’r adroddiad yn nodi bod polisi ar waed heintiedig wedi’i bennu gyda diffyg chwilfrydedd ynghylch a oedd modd cyfiawnhau safbwynt Lloegr mewn gwirionedd.

Argymhellion

Prif argymhelliad yr adroddiad yw y dylid sefydlu cynllun iawndal nawr. Mae hyn yn dilyn argymhelliad mewn adroddiad interim a gyhoeddwyd gan yr Ymchwiliad ym mis Ebrill 2023, a drafodir isod.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylid sefydlu cofeb barhaol yn y DU ac y dylid ystyried cael cofebion ym mhob un o wledydd y DU.

O ran Cymru, argymhellir y dylai Addysg a Gwella Iechyd Cymru gymryd camau i sicrhau bod y gwersi i'w dysgu sy'n ymwneud ag ymarfer clinigol yn cael eu hymgorffori yn hyfforddiant pob meddyg.

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion pellach yn ymwneud â darpariaeth gofal iechyd, y mae gan lawer ohonynt oblygiadau i Gymru.

Ymddiheuriadau

Yn dilyn canfyddiadau’r Ymchwiliad, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ymddiheuriad i bawb a gafodd eu heintio ac yr effeithiwyd arnynt yn sgil y “methiant ofnadwy hwn”. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i “weithio ar sail pedair gwlad i ymateb i argymhellion yr ymchwiliad. Ein nod fydd sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i fuddiolwyr a'u teuluoedd yng Nghymru”.

Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak ymddiheuriad hefyd mewn perthynas â'r methiannau yn ymwneud â'r sgandal gwaed heintiedig.

Pa gymorth sydd ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt?

Sefydlwyd Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig ym mhob un o wledydd y DU.

Wedi'i sefydlu ym mis Hydref 2017, mae Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yn darparu cymorth ariannol i bobl sydd wedi’u heintio â hepatitis C a/neu HIV o ganlyniad i driniaeth y GIG â gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe yng Nghymru. Mae’r meini prawf cymhwyster a’r cyfraddau talu wedi’u nodi ar wefan y WIBBS.

Gall unigolion sydd wedi cofrestru gyda WIBSS, aelodau o'u teulu ac aelodau o'u teulu mewn profedigaeth hefyd gael asesiad a thriniaeth seicolegol.

A ddarparwyd iawndal?

Yn ogystal â chymorth ariannol blynyddol gan y llywodraeth, mae'r rhai sydd wedi'u heintio a'u heffeithio gan waed halogedig wedi bod yn ymgyrchu am iawndal.

Yn dilyn argymhelliad adroddiad interim cyntaf yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig (Gorffennaf 2022), sefydlwyd Cynllun Talu Iawndal Interim Gwaed Heintiedig. Cynllun ledled y DU gyfan yw hwn a oedd yn darparu taliadau iawndal interim yn cynnwys taliad untro o £100,000 fesul unigolyn neu achos cymwys ym mis Hydref 2022. Bydd y taliad yn parhau i fod ar gael i ymgeiswyr newydd.

Roedd ail adroddiad interim yr Ymchwiliad (Ebrill 2023) yn galw am sefydlu cynllun iawndal ar unwaith a thaliadau interim i grwpiau gan gynnwys plant mewn profedigaeth a rhieni.

Penderfynodd Llywodraeth y DU aros tan i adroddiad llawn yr Ymchwiliad gael ei gyhoeddi cyn ymateb i’r argymhellion hyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU mewn datganiad ar 21 Mai y bydd yn talu iawndal cynhwysfawr i’r rhai y mae’r sgandal gwaed heintiedig wedi effeithio arnynt ac y bydd yn gwneud rhagor o daliadau interim cyn sefydlu’r cynllun llawn. Bydd y taliadau interim yn cael eu gwneud o fewn 90 diwrnod.


Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru