Bedair blynedd yn ôl, gwnaeth y Senedd ddatgan argyfwng natur. Yn dilyn ei Phapur Gwyn yn 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil sy'n anelu at droi'r llanw ar ddirywiad bioamrywiaeth. Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn cynnwys tri phrif gynnig, sef:
- gosod egwyddorion amgylcheddol ar y llyfr statud fel sail ar gyfer pob penderfyniad polisi yn y dyfodol;
- sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol parhaol a fydd yn dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif ar gyfraith amgylcheddol; a
- chyflwyno fframwaith statudol ar gyfer targedau bioamrywiaeth sy’n rhwymo mewn cyfraith.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd eisoes wedi craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yn ystod Cyfnod 1 y broses ddeddfwriaethol. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y gwaith craffu hwn ar 24 Hydref. Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb i’r adroddiad cyn y ddadl Cyfnod 1 ddydd Mawrth 11 Tachwedd.
Mae'r erthygl hon yn archwilio canfyddiadau allweddol y Pwyllgor ar draws tair rhan sylweddol y Bil, cyn y ddadl Cyfnod 1 gan y Senedd.
Mae rhagor o wybodaeth gefndirol, yn ogystal â chrynodeb o ddarpariaethau'r Bil, ar gael ar dudalen adnoddau’r Bil gan Ymchwil y Senedd.
Gallai egwyddorion amgylcheddol fod yn gryfach ac yn ehangach
Mae Rhan 1 o'r Bil yn nodi amcan amgylcheddol cyffredinol ac yn sefydlu pedair egwyddor amgylcheddol graidd, sef: yr egwyddor ragofalus, camau ataliol, cywiro difrod amgylcheddol yn y tarddle a’r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu. Bwriad y rhain yw helpu i lywio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru yn y dyfodol.
Croesawodd y Pwyllgor a'r rhanddeiliaid yr egwyddorion hyn, gydag academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe yn nodi:
The environmental principles underlined law and policy making in the EU, which almost exclusively directed approaches to environmental protection in Wales, for more than 40 years. … it is important that these principles are maintained.
Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor bryderon ynghylch cwmpas a chryfder y dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus, gan nodi’n benodol:
- dim ond i bolisïau “sy’n cael, neu a allai gael unrhyw effaith ar yr amgylchedd” y mae dyletswydd Gweinidogion Cymru i roi “sylw arbennig” i’r egwyddorion yn berthnasol, sy’n arwain at risg y gallai polisïau sydd ag effeithiau amgylcheddol anuniongyrchol neu annisgwyl gael eu heithrio, gan roi disgresiwn sylweddol i Weinidogion yn y dyfodol;
- nid yw'r term "polisi" wedi'i ddiffinio, gan arwain at ansicrwydd ynghylch pa ddogfennau a phenderfyniadau sydd wedi'u cynnwys; ac
- nid yw'r ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus yn ddigon cryf, ac mae wedi’i chyfyngu at Asesiadau Amgylcheddol Strategol nad ydynt yn cwmpasu'r ystod lawn o benderfyniadau amgylcheddol.
Mae'r Bil yn cynnig bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn amlinellu sut mae'r egwyddorion yn cysylltu â’i gilydd, yn ogystal â chanllawiau i helpu awdurdodau cyhoeddus i'w rhoi ar waith. Byddai'r datganiad hwn yn cael ei adolygu “o bryd i'w gilydd”. Mynegodd WWF Cymru bryder mewn perthynas â’r mater hwn, gan nodi: “if a weak statement is put in place, a subsequent Government might, for convenience, just never change it…”.
Er mwyn ymdrin â’r materion hyn, mae’r Pwyllgor yn argymell:
- ymestyn cwmpas y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru fel ei bod yn gymwys i bob polisi a gaiff ei lunio, yn hytrach na dim ond polisi sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd yn benodol;
- egluro ystyr “polisi” drwy gynnwys rhestr anghynhwysfawr yn y Bil;
- cryfhau’r ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gymhwyso’r egwyddorion yn ehangach wrth iddynt arfer eu swyddogaethau; ac
- adolygu'r datganiad o egwyddorion amgylcheddol unwaith bob Senedd.
Sicrhau corff gwarchod annibynnol sydd â digon o adnoddau
Mae Rhan 2 o'r Bil yn cynnig creu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (“y Swyddfa”), sef corff gwarchod annibynnol newydd sydd â'r dasg o oruchwylio cydymffurfiaeth awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol, yn ogystal â’r broses o weithredu’r gyfraith hon.
Mae'r Pwyllgor yn cefnogi sefydlu'r Swyddfa yn gryf, gan ei ddisgrifio fel cam hir-ddisgwyliedig sy’n hanfodol i gau'r "bwlch presennol o ran llywodraethiant" ers ymadael â’r UE. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn gefnogol, er bod sawl un ohonynt am gael sicrwydd y byddai’r corff arfaethedig yn gallu gweithredu'n effeithiol ac yn annibynnol, ac y byddai'n cael ei sefydlu fel mater o flaenoriaeth.
Yn ôl Safonau Amgylcheddol yr Alban, sef y corff gwarchod yn yr Alban, mae’r ddarpariaeth benodol yng nghyfraith yr Alban sy’n sicrhau annibyniaeth y corff wedi’i brofi’n amddiffyniad amhrisiadwy.
Mynegodd Healthy Air Cymru bryderon nad yw darpariaethau'r Bil o ran cyllid yn cynnig y sicrwydd ynghylch adnoddau sydd ei angen ar Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, tra bod yr Office for Environmental Protection (y corff gwarchod yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn nodi bod ei ddarpariaethau ynghylch cyllid statudol yn ddefnyddiol iawn wrth sicrhau bod annibyniaeth yn cael ei pharchu.
Gan ymateb i bryderon rhanddeiliaid, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion a ganlyn:
- dylid sicrhau darpariaeth benodol sy'n gwarantu annibyniaeth Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn debyg i’r amddiffyniadau yn y Deddfau cyfatebol ar lefel y DU a'r Alban;
- rhaid i benodiadau i'r Swyddfa gael eu cymeradwyo gan y Senedd, neu gynnwys rôl sylweddol i bwyllgor perthnasol y Senedd;
- dylid cynnwys darpariaethau i sicrhau bod y Swyddfa “yn cael digon o gyllid”, gan ei hamddiffyn rhag cyfyngiadau cyllidebol yn y dyfodol; a
- chynnig “cymal codiad haul” sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r holl ddarpariaethau yn Rhan 2 ddod i rym o fewn dwy flynedd i Gydsyniad Brenhinol.
Angen mwy o frys ac uchelgais mewn perthynas â thargedau bioamrywiaeth
Rhwng 1994 a 2023, bu gostyngiad o 20% ym mhoblogaeth rhywogaethau sy’n cael eu monitro yng Nghymru. Mae Rhan 3 o'r Bil yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno fframwaith ar gyfer targedau bioamrywiaeth.
Er bod y Pwyllgor o’r farn bod y fframwaith hwn yn cynnig “cyfle pwysig” i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth, roedd hefyd o’r farn nad oedd y cynigion yn ddigon uchelgeisiol nac yn debygol o arwain at gamau gweithredu digon cyflym. Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch:
- absenoldeb targed pennawd ar gyfer adfer bioamrywiaeth (sy'n cyfateb i darged hinsawdd 'sero net' 2050), megis gweledigaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ar gyfer 2050;
- amserlen tair blynedd ar gyfer gosod y gyfres gyntaf o dargedau, sydd “yn ormodol ac yn ddiangen”, ym marn y Pwyllgor;
- diffyg manylion am hyd y targedau, gan godi pryderon ynghylch canolbwyntio’n ormodol ar y tymor byr; a’r
- cynnig y bydd y targedau a osodir gan y Llywodraeth yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus dynodedig yn unig, yn hytrach na'r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol.
Gan ailadrodd casgliad ei adroddiad ar golli natur o fis Ionawr 2025, mae'r Pwyllgor yn cynnig ychwanegu targed 'pennawd' ar gyfer 2050, yn ogystal â tharged 'toreithrwydd rhywogaethau' ar gyfer 2035. Dadleuodd Dr Victoria Jenkins fod targed pennawd yn dal dychymyg y cyhoedd, ac roedd Undeb Ffermwyr Cymru yn cefnogi gweledigaeth tymor hwy, fel y’i gweithredir yn y 'cyllidebau carbon' tuag at Sero Net. Dywedodd RSPB Cymru y byddai targed 2035 ar gyfer atal dirywiad toreithrwydd rhywogaethau yn cael yr effaith a ganlyn: “[it] would act as a ‘north star’ – giving an indication of the scale and pace of change required to set biodiversity on a path to recovery”.
Cafodd yr amserlen 3 blynedd ei beirniadu’n eang gan randdeiliaid am beidio â bod yn ddigon uchelgeisiol – dywedodd Cyswllt Amgylchedd Cymru:
…it would be unacceptable to delay target setting to a point where no measurable progress could be made by 2030.
Yn ôl y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu targedau, mae profiad a thystiolaeth yn awgrymu y gellir datblygu targedau o fewn amserlen dynn o 12 mis. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn argymell haneru'r cyfnod gweithredu, sy’n golygu y byddai targedau'n cael eu gosod o fewn 18 mis ar ôl Cydsyniad Brenhinol.
Roedd y Pwyllgor yn cefnogi galwad Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU i fewnosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i gyfrannu at y targedau bioamrywiaeth, yn hytrach na'r fframwaith dynodi a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru.
Y camau nesaf
Mae'r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, tra’n tynnu sylw at feysydd i'w gwella er mwyn sicrhau dyfodol gwyrddach i Gymru.
Ddydd Mawrth 11 Ionawr, bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Os caiff y cynnig hwn ei basio, bydd y Bil yn destun gwelliannau yn ystod Cyfnod 2.
Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV ar 11 Tachwedd, neu gallwch ddarllen y trawsgrifiad yn fuan ar ôl i’r Cyfarfod Llawn ddod i ben.
Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru